Gwneud cais am basbort gwartheg, ei gywiro neu ei adnewyddu
Sut i wneud cais am basbort gwartheg, ei gywiro neu ei adnewyddu a beth i'w wneud os byddwch chi'n colli'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais neu os nad yw’r pasbort wedi cyrraedd.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Rhaid ichi:
- cael pasbort neu ddogfen adnabod swyddogol arall ar gyfer yr holl wartheg rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw
- gwneud cais am basbort gwartheg pan fydd llo yn cael ei eni - mae hyn yn digwydd pan fyddwch chi’n cofrestru ei enedigaeth
- gwneud cais am basbort gwartheg pan fyddwch yn mewnforio neu’n symud gwartheg i Gymru neu Loegr o’r tu allan i Brydain Fawr
- cadw at y dyddiadau cau ar gyfer cael pasbort
- dweud wrth Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) os oes camgymeriad ar basport
- rhoi gwybod am basport sydd wedi’i golli neu wedi’i ddwyn
- peidio â symud anifeiliaid sydd heb basport, ac eithrio gyda thrwydded symud, na’u gosod nhw yn y gadwyn fwyd
Rhaid ichi gymryd yr holl gamau hyn er mwyn i’r gwartheg allu cael eu holrhain bob amser. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau
Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallai’ch cais am basbort gael ei wrthod, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, taliadau cymhorthdal llai neu gallech gael eich erlyn.
Mae pasbortau gwartheg newydd a chywiriadau i’w cael am ddim. Os bydd angen ichi adnewyddu’ch pasbort gwartheg, bydd angen ichi dalu £20 am bob un newydd.
Pryd a sut i wneud cais am basport ar gyfer llo newydd-anedig
Yn achos llo newydd-anedig, byddwch yn gwneud cais am basbort pan fyddwch chi’n cofrestru ei enedigaeth gyda GSGP. Gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post.
Yn achos gwartheg neu fyfflos, rhaid ichi gofrestru’r enedigaeth erbyn y diwrnod y mae’r llo yn 27 diwrnod oed er mwyn cael pasbort.
Yn achos buail, rhaid ichi gofrestru’r enedigaeth erbyn y diwrnod y mae’r llo yn 7 diwrnod oed.
Darllenwch y rheolau eraill mae’n rhaid eu dilyn ar ôl i lo gael ei eni.
Os byddwch chi yn colli’r dyddiad cau, fydd GSGP ddim yn rhoi pasbort. Heb basbort, chewch chi ddim symud eich llo na’i osod yn y gadwyn fwyd (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol gyda thrwydded symud).
Os ydych chi’n poeni nad oes gennych chi ddigon o amser i gofrestru’r enedigaeth, cysylltwch â GSGP.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Cyn ichi ddechrau
Bydd angen ichi ddarparu:
- rhif tag clust swyddogol y llo
- rhyw y llo
- dyddiad geni’r llo
- rhif tag clust swyddogol mam enetig y llo
- rhif tag clust swyddogol y fam fenthyg (dim ond os mam fenthyg sydd wedi rhoi genedigaeth i’r llo)
- cod swyddogol y brid gwartheg - mae angen ichi ddilyn llinell waed y tad er mwyn pennu’r brid
Does dim angen rhif tag clust tad y llo er mwyn gwneud cais am basport. Ond os hoffech i’r rhif hwnnw ymddangos ar y pasbort, gallwch ei roi wrth ichi wneud y cais.
Cofrestru genedigaeth dwy ddefnyddio’r System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein
Gallwch gofrestru genedigaeth drwy ddefnyddio’r
System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg) - fe gewch chi dderbynneb pan fyddwch yn gwneud hyn.
Os nad ydych chi wedi cofrestru i ddefnyddio’r system, dilynwch y canllawiau cofrestru ac ymrestru (tudalen gwe yn Saesneg) ar SOG Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg).
Yn achos anifeiliaid a gafodd eu geni ar ôl i embryo gael ei drosglwyddo rhowch ‘trosglwyddo embryo’ yn y blwch ‘ID genetig’ os nad yw rhif tag clust y fam enetig gennych chi.
Cofrestru genedigaeth drwy ddefnyddio Gwasanaethau Gwe SOG
Gallwch gysylltu â SOG Ar-lein drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd cydnaws (tudalen gwe yn Saesneg) i gofrestru genedigaethau.
I ymrestru ar gyfer Gwasanaethau Gwe SOG, bydd arnoch chi angen ID defnyddiwr SOG a chyfrinair gan GSGP.
Llenwch Rannau A B o’r ffurflen gais am ID defnyddiwr Gwasanaethau Gwe SOG a chyfrinair (PDF, 108 KB, 1 tudalen) a’i hanfon drwy’r ebost i [email protected]. Defnyddiwch ‘Cais am ID Defnyddiwr Gwasanaethau Gwe SOG a chyfrinair’ fel pennawd eich neges ebost.
Cofrestru genedigaeth dros y ffôn
Gallwch gofrestru genedigaeth drwy ffonio llinell ffôn hunanwasanaeth SOG unrhyw bryd. Fe gewch chi rif cyfeirnod ar ddiwedd yr alwad.
Allwch chi ddim defnyddio’r llinell ffôn hunanwasanaeth:
- os oes gan y llo fam fenthyg
- os hoffech chi gynnwys rhif tag clust y tad ar y pasbort
Bydd angen ichi wneud cais ar-lein i wneud hyn.
Llinell ffôn hunanwasanaeth SOG
Ffôn (Cymraeg): 0345 011 1213
Ffôn (Saesneg): 0345 011 1212
Yn agored 24 awr, 7 diwrnod
Costau ffôn a rhifau ffôn
Cofrestru genedigaeth drwy’r post
I gofrestru genedigaeth drwy’r post, llenwch ffurflen gais am basport (CPP12). Os oes arnoch chi angen y ffurflen hon, cysylltwch â GSGP.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Postiwch y ffurflen gais i:
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ystyriwch gael prawf postio neu ddefnyddio dosbarthiad wedi’i gofnodi.
Sut i wneud cais am basbort i wartheg sydd wedi’u mewnforio neu wedi’u symud
Yn achos gwartheg sydd wedi’u mewnforio neu wedi’u symud i Gymru neu Loegr o’r tu allan i Brydain, dim ond drwy’r post y cewch chi wneud cais am basbortau. Rhagor o wybodaeth am reolau ar basbortau ar gyfer gwartheg sy’n cael eu mewnforio i Gymru a Lloegr.
Pan gewch chi’r pasbort gwartheg
Os byddwch chi’n gwneud cais ar-lein neu dros y ffôn, nod GSGP yw anfon y pasbort allan o fewn 3 diwrnod ar ôl cael eich cais.
Os byddwch chi’n gwneud cais drwy’r post, nod GSGP yw anfon y pasbort o fewn 7 diwrnod ar ôl cael y cais.
Gwirio manylion y pasbort
Pan gewch chi’r pasbort gwartheg, rhaid ichi:
- gwirio bod y manylion yn gywir
- ei lofnodi
- gludo label cod bar (sydd hefyd yn cael ei alw’n label cyfeiriad daliad) yn yr adran ‘i’w gwblhau gan geidwad ar dderbyn pasbort’
Mae delwedd siâp diemwnt yng nghornel dde isaf y pasbort sy’n sensitif i wres. Bydd hon yn pylu os caiff ei dal rhwng bys a bawd. Mae hyn yn dweud wrth geidwaid yr anifail yn y dyfodol ei bod yn ddogfen ddilys.
Os nad oes pasbort gwartheg newydd wedi cyrraedd
Os yw hi’n fwy na 14 diwrnod ers i chi wneud cais ac nad yw’ch pasbort wedi cyrraedd, cysylltwch â GSGP. Peidiwch ag oedi neu efallai y bydd rhaid ichi dalu ffi am basbort newydd.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Os byddwch chi’n dweud wrth GSGP o fewn 6 wythnos ar ôl gwneud cais nad yw’r pasbort wedi cyrraedd, byddan nhw’n anfon pasbort newydd am ddim atoch.
Os byddwch chi’n dweud wrth GSGP fwy na 6 wythnos ar ôl i chi wneud cais, bydd rhaid ichi dalu £20 yr anifail am basbortau newydd.
Cywiro pasbort gwartheg
Os oes gwall ar basport, fel y rhyw anghywir neu ddyddiad geni anghywir, dychwelwch y pasbort ar unwaith i GSGP. Bydd GSGP yn cywiro’r pasbort am ddim. Gallwch chi naill ai:
- ysgrifennu’r newidiadau yn glir ar y pasbort
- cynnwys llythyr gyda’r pasbort yn egluro’r newidiadau
Os oes angen ichi newid dyddiad geni, neu os oes angen ichi wneud 3 neu fwy o newidiadau i basport, bydd angen ichi anfon copi o’ch cofnod lloia hefyd.
Dychwelwch y pasbort a’r rhan berthnasol o’ch cofnod lloia (os oes angen) i:
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Dylech sicrhau prawf postio, rhag ofn bod angen ichi brofi bod pasbort wedi mynd ar goll. Chewch chi ddim symud yr anifail nes eich bod wedi cael pasbort wedi’i gywiro.
Os byddwch chi’n colli’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
Fydd GSGP ddim yn rhoi pasbort. Yn hytrach, byddwch yn cael hysbysiad cofrestru (CPP35) ar gyfer yr anifail gyda llythyr yn dweud wrthoch chi am eich opsiynau. Fe allwch chi:
- apelio i GSGP i newid eu penderfyniad os oedd gennych reswm da dros fethu’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
- gofyn i GSGP a allen nhw roi pasbort yn seiliedig ar brawf DNA ar y llo
Mae’r llythyr yn dweud wrthoch chi sut i apelio.
Ni chaiff anifail sydd â hysbysiad cofrestru adael y daliad oni bai bod gennych chi drwydded symud. Rhagor o wybodaeth am y rheolau ar gyfer gwartheg heb basbortau.
Defnyddio dalenni parhau pan fo pasbort yn llawn
Os yw adran ‘hanes symudiadau’ y pasbort yn llawn, gallwch gofnodi symudiadau ar ddalen barhau (ffurflen A4) y mae’n rhaid ichi ei chadw gyda’r pasbort.
Ar gyfer y ddalen barhau, gallwch naill ai:
- lawrlwytho ac argraffu dalen wag dalen barhau pasbort
- llungopïo cefn pasbort tudalen sengl arall, os oes un gennych chi, lle mae’r blychau symudiadau yn wag
Adnewyddu pasbort gwartheg sydd ar goll neu wedi’i ddwyn
Mae’n rhaid ichi wneud cais am basbort newydd o fewn 14 diwrnod ar ôl sylweddoli ei fod yn eisiau. Fe fydd angen:
- tag clust swyddogol yr anifail
- talu ffi o £20
Gwnewch hyn drwy lenwi’r cais am basbort newydd (ffurflen CPP9A).
Chewch chi ddim symud yr anifail oddi ar eich daliad nes bod gennych chi basport newydd.
Os na allwch chi lawrlwytho neu argraffu’r ffurflen, gallwch gael copi papur drwy gysylltu â GSGP drwy’ch cyfrif SOG Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg) neu dros y ffôn.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Pryd cewch chi’r pasbort newydd
Fel arfer byddwch yn cael y pasbort o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud cais.
Os na all GSGP olrhain hanes llawn symudiadau’r anifail, fyddan nhw ddim yn rhoi pasbort newydd a fyddwch chi ddim yn cael ad-daliad.
Yn hytrach, fe gewch chi hysbysiad cofrestru (CPP35). Mae hyn yn golygu na chaiff yr anifail adael y daliad oni bai bod gennych chi drwydded symud. Rhagor o wybodaeth am y rheolau ar gyfer gwartheg heb basportau.
Os byddwch chi’n dod o hyd i’r pasbort coll
Cysylltwch â GSGP cyn gynted â phosibl.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Mathau o basbort a dogfennau adnabod eraill ar gyfer gwartheg
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob gwartheg gael un o’r dogfennau adnabod swyddogol canlynol.
Pasbortau un tudalen
Mae gan y rhan fwyaf o wartheg basbort A4 un tudalen (CPP52). Mae’r math yma o basbort yn cael ei roi ers 2011.
Mathau hŷn o basbort
Mae dau fath o basbort oedd yn cael eu rhoi cyn 2011:
- pasbortau tebyg i lyfr sieciau oedd yn cael eu rhoi rhwng 28 Medi 1998 a 31 Gorffennaf 2011
- pasbortau glas a gwyrdd oedd yn cael eu rhoi rhwng Gorffennaf 1996 a 27 Medi 1998
Bydd gan wartheg sydd â phasbort glas a gwyrdd dystysgrif cofrestru SOG hefyd oddi arth GSGP.
Dogfennau adnabod swyddogol eraill
Bydd gan wartheg sydd heb basbort naill ai:
- hysbysiad cofrestru - os na allai GSGP roi pasbort (er enghraifft, os colloch chi’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am basbort), neu
- dystysgrif cofrestru SOG oddi wrth GSGP - ar gyfer anifeiliaid wedi’u geni, wedi’u mewnforio neu wedi’u symud i Gymru neu Loegr cyn Gorffennaf 1996
Rhagor o wybodaeth am wartheg heb basbortau.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Gorffennaf 2024 + show all updates
-
Address has been updated in section 'Register a birth by post' This address that was deleted: British Cattle Movement Service Curwen Road Derwent Howe Workington Cumbria CA14 2DD The correct address: British Cattle Movement Service PO BOX 301 Sheffield S95 1AB
-
Clarified the rules on cattle passports. Clarified the different processes for getting passports for newborn calves and imported or moved cattle. Incorporated the following information which was previously on a separate page: - what to do if you miss the application deadline - what to do if a passport has not arrived - how to correct a passport - what to do if a passport is lost or stolen
-
This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.
-
Link to 'Cattle passports: how to receive your passport quicker' added to 'How to apply for a cattle passport' section
-
First published.