Creu cyfrif gwasanaethau asiant
Ewch ati i greu cyfrif gwasanaethau asiant (ASA) er mwyn i’ch cwmni asiant treth ddefnyddio rhai o wasanaethau CThEF.
Os ydych yn asiant treth newydd, yn y lle cyntaf mae’n rhaid i chi gofrestru gyda CThEF ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant. Gallwch greu cyfrif pan fydd eich cofrestriad wedi’i dderbyn gan CThEF.
Os ydych eisoes yn gweithredu ar-lein fel asiant gyda CThEF a bod gennych o leiaf un cleient (ar gyfer Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, TWE neu TAW), gallwch greu cyfrif gwasanaethau asiant ar unwaith.
Mae ffordd wahanol o wneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant os nad ydych wedi’ch lleoli yn y DU.
Bydd ceisiadau i gael mynediad at ein gwasanaeth yn cael eu mesur yn erbyn Safon CThEF ar gyfer asiantau.
Pwy all greu cyfrif
Er mwyn creu cyfrif gwasanaethau asiant, mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- cyfarwyddwr
- partner
- unig fasnachwr
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych un yn barod, gallwch greu un ar y dudalen fewngofnodi)
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer eich cwmni asiant treth
- y cod post sy’n gysylltiedig â’ch UTR
- rhif cofrestru eich cwmni, os oes un gennych
- eich rhif cofrestru TAW, os oes un gennych
- eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch dyddiad geni er mwyn cadarnhau pwy ydych os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth fusnes
- eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch dyddiad geni er mwyn cadarnhau pwy ydych os ydych yn Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (mewn rhai achosion)
- enw eich corff goruchwylio gwrth-wyngalchu arian (yn agor tudalen Saesneg), eich rhif aelodaeth a’r dyddiad adnewyddu
O 6 Ebrill 2025 ymlaen, bydd angen i asiantau sy’n cael eu talu, sy’n cyflwyno enwebiadau ar gyfer ad-daliadau Treth Incwm gan ddefnyddio ffurflenni argraffu ac anfon P87, R40 a Ffurflen Hawlio Trosglwyddiad o Lwfans Priodasol (MATCF), ddarparu tystiolaeth o fod wedi cofrestru ar gyfer darparwr gwasanaeth llofnodion electronig uwch. Dylai’r dystiolaeth fod ar ffurf anfoneb drwy lythyr neu e-bost sy’n rhoi manylion am bryniant eich cwmni neu e-bost sy’n cadarnhau bod eich cwmni wedi prynu datrysiad llofnodion electronig uwch.
Creu cyfrif gwasanaethau asiant
Mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad yw’r rhain gennych yn barod, gallwch eu creu ar y dudalen fewngofnodi.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Ar ôl i chi greu cyfrif
Os ydych yn asiant newydd, bydd gennych erbyn hyn Ddynodydd Defnyddiwr ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfer eich cyfrif gwasanaethau asiant.
Os ydych eisoes yn asiant treth, bydd gennych Ddynodydd Defnyddiwr newydd ar gyfer Porth y Llywodraeth y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich cyfrif gwasanaethau asiant. Bydd gennych un arall sy’n bodoli eisoes ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o ba Ddynodydd Defnyddiwr sydd ar gyfer pa gyfrif.
Byddwch yn cael cyfeirnod asiant, a bydd angen hwn arnoch er mwyn gallu cael ad-daliadau Treth Incwm neu TWE ar ran eraill.
Bydd gennych bellach fynediad at sawl gwasanaeth treth o fewn y cyfrif gwasanaethau asiant. Does dim angen i chi gofrestru ar wahân ar gyfer pob gwasanaeth treth, ond bydd angen i chi gofrestru ar gyfer unrhyw rai na cheir mynediad atynt drwy’r cyfrif gwasanaethau asiant.
Nesaf, dylech:
-
Mewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant a dechrau gwneud cais am awdurdodiad gan eich cleientiaid (yn agor tudalen Saesneg).
-
Creu Dynodyddion Defnyddiwr unigol i’ch staff ar gyfer Porth y Llywodraeth a phennu caniatâd (yn agor tudalen Saesneg) i reoli eu mynediad at wasanaethau a chleientiaid.
Safonau gofynnol ar gyfer asiantau
Rhaid i chi beidio â defnyddio’r ffaith bod gennych gyfrif gwasanaethau asiant i awgrymu:
- bod CThEF yn eich cymeradwyo fel asiant
- eich bod yn rhan o CThEF
- eich bod yn gweithredu ar ran CThEF
nid yw CThEF yn cymeradwyo unrhyw fusnesau nac asiantau treth unigol.
Rhagor o wybodaeth am safonau CThEF ar gyfer asiantau.
Help
Os oes angen help arnoch, gallwch wneud y canlynol:
- dilyn y canllaw cam wrth gam ar gyfer asiantau (yn agor tudalen Saesneg) mewn perthynas â Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
- gwylio fideo i weld sut i greu cyfrif gwasanaethau asiant (yn agor tudalen Saesneg)
- ffonio llinell Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis CThEF i gael help gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
- ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael help gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 15 Mawrth 2018Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Hydref 2024 + show all updates
-
Information added about using an advanced electronic signature process from 6 April 2025.
-
Your application to access our services will be measured against HMRC Standard for Agents.
-
After creating an account, you'll be given an agent reference number. You will need this to receive Income Tax or PAYE repayments on behalf of others.
-
Information about needing an agent services account to submit Income Tax or PAYE repayment claims on behalf of others has been added.
-
Added translation
-
Guidance updated with information on 'Who can create an agent services account'.
-
Updated to advise you'll need your National Insurance number and date of birth to create an account if you're a Limited Liability Partnership.
-
Guidance on what you will need to set up your account has been updated.
-
Added translation
-
The section 'Who should create an account' has been updated with more information for agents not registered with HMRC.
-
Guidance on what you will need to set up your account has been updated.
-
A link to 'Sign up for Making Tax Digital for VAT' has been added to section 'After you create an account'.
-
You do not need to add services to your agent services account.
-
If your agent business is based outside the UK, information about how to get approved by HMRC before you can create an agent services account has been added.
-
The instructions for linking clients to your agent services account have been removed from this guide. A link to a new guide for linking clients has been added.
-
Information about what you need to get an HMRC agent services account has been updated.
-
Information for the Making Tax Digital for VAT pilot, including how to change your client's business details has been added.
-
Guidance on the information you'll need before you start this service has been updated.
-
First published.