Cael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm ar gyfer asiantau
Sut i gael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm ac ysgwyd llaw’n ddigidol os ydych chi’n asiant, er mwyn gwirio manylion cyflog a threth, hanes cyflogaeth a chodau treth eich cleientiaid.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen cyfrif gwasanaethau asiant arnoch i gael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm.
Os nad oes gennych gyfrif gwasanaethau asiant, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Cofrestru i ddefnyddio cyfrif gwasanaethau asiant.
- Creu eich cyfrif gwasanaethau asiant (yn Saesneg).
Mae ffordd wahanol o wneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant os nad ydych wedi’ch lleoli yn y DU.
Cael eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol
Ni fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw awdurdodiad 64-8 presennol i gael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm.
Darllenwch yr arweiniad ar sut i gael eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol (yn Saesneg), fel y gallwch gael mynediad at wybodaeth eich cleientiaid yn y Dangosydd Cofnodion Incwm.
Bydd angen i bob un o’ch cleientiaid wneud y canlynol:
- rhoi awdurdod i chi gael mynediad at eu gwybodaeth yn y Dangosydd Cofnodion Incwm a gweithredu ar eu rhan, a hynny drwy ysgwyd llaw’n ddigidol
- eich awdurdodi unwaith yn unig - drwy ysgwyd llaw’n ddigidol - i gael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm
- defnyddio eu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair personol ar gyfer Porth y Llywodraeth i fewngofnodi a derbyn eich cais i ysgwyd llaw’n ddigidol er mwyn i chi gael eich awdurdodi. Os nad oes ganddynt Ddynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair personol ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallant greu un gan ddefnyddio’r arweiniad ar sut i greu eu cyfrif treth personol
Os yw unrhyw un o’ch cleientiaid wedi’u heithrio’n ddigidol, rhowch rif ffôn iddynt er mwyn cysylltu â CThEF. Gallant siarad â’r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg, a fydd yn eu tywys drwy’r broses dros y ffôn.
Ar ôl i chi gael eich awdurdodi
Mewngofnodwch i’ch cyfrif gwasanaethau asiant i gael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).
Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth y gwnaethoch ei greu ar gyfer eich cyfrif gwasanaethau asiant.
Ar ôl i chi fewngofnodi
Gallwch nawr gael mynediad at yr wybodaeth ganlynol am eich cleientiaid yn y Dangosydd Cofnodion Incwm:
- gwybodaeth TWE ar gyfer y flwyddyn bresennol ynghyd â’r 4 blwyddyn dreth flaenorol
- cofnodion cyflogaeth, gan gynnwys cyfnodau cyflogaeth, eu cyfeirnod TWE, a’r manylion cyflog a threth ar gyfer pob un o’u cyflogaethau
- ad-daliadau benthyciad myfyriwr a gesglir trwy’r gyflogres, os yw hynny’n berthnasol
- y cod treth diweddaraf ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, gan gynnwys yr holl lwfansau a didyniadau
- buddiannau trethadwy a ddarperir gan gyflogwr, megis car cwmni ac yswiriant meddygol, a ph’un a yw’r rhain wedi’u rhagweld (P11D heb ddod i law eto) neu’n rhai gwirioneddol (P11D wedi dod i law)
- gwybodaeth am bensiwn y wladwriaeth a phensiwn preifat
- manylion unrhyw dreth sydd heb ei thalu a dyledion eraill, megis credydau treth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a gesglir drwy eu cod treth
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 16 Tachwedd 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Chwefror 2023 + show all updates
-
The 'first published' date of the guide has been updated to 16 November 2022. The guidance was previously published on 22 April 2022 but was later unpublished until November 2022.
-
The guidance has been updated to include information on how to get authorised using the digital handshake, what your client's will need to do to authorise you, including how to get help if your client is digitally excluded, what to do after you're authorised and what information you will be able to access in the Income Record Viewer.
-
First published.