Cael tagiau clust swyddogol newydd i wartheg neu amnewid tagiau
Sut i archebu tagiau clust swyddogol gwartheg, beth i'w wneud os yw’ch anifail heb dag, os yw ei dagiau wedi'u difrodi neu os yw wedi'i dagio'n anghywir.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Rhaid i’r holl wartheg gael tagiau clust swyddogol i helpu i adnabod pob anifail. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau
Os na fyddwch yn dilyn y rheolau ar dagiau clust, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, taliadau cymhorthdal llai neu gallech gael eich erlyn.
Rhaid prynu tagiau clust oddi wrth gyflenwr sydd wedi’i gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg).
Yn achos yr holl wartheg sy’n cael eu geni yng Nghymru a Lloegr neu sy’n cael eu mewnforio o’r tu allan i’r UE, rhaid i’r tagiau clust ddangos y canlynol yn glir:
- logo’r goron
- cod y wlad (UK)
- nod y fuches
- rhif tag clust swyddogol â 6 digid
Yn achos gwartheg sy’n cael eu mewnforio o’r UE neu eu symud o Ogledd Iwerddon mae yna reolau gwahanol ynglŷn â thagiau clust.
Os ydych chi yn allforio gwartheg i’r UE neu’n eu symud i Ogledd Iwerddon, mae angen ichi ddilyn rheolau ychwanegol ynglŷn â thagiau clust.
Chewch chi ddim symud anifeiliaid oddi ar eich daliad heb dagiau clust swyddogol. Chewch chi ddim ailddefnyddio tagiau clust na rhifau tag clust swyddogol ar anifeiliaid gwahanol.
Rhaid i bob anifail gadw’r un rhif tag clust swyddogol gydol ei oes, oni bai eu bod naill ai:
- wedi’u geni neu wedi’u mewnforio i Brydian Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) cyn 1998
- wedi’u mewnforio i Brydain Fawr o’r tu allan i’r UE (bydd yr anifeiliaid hyn yn cael ac yn cadw rhif tag clust swyddogol newydd yn y Deyrnas Unedig ar ôl cyrraedd)
Bydd arnoch chi angen stoc o dagiau clust wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio pan fydd lloi’n cael eu geni ar eich daliad. Darllenwch y canllawiau tagio ynghylch beth i’w wneud ar ôl i lo gael ei eni.
Cael tagiau newydd
Rhaid ichi archebu tagiau clust oddi wrth gyflenwyr wedi’u cymeradwyo sydd wedi’u cofrestru gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).
Chwilio am gyflenwyr tagiau clust sydd wedi’u cymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg).
Bydd angen ichi roi’r canlynol i’r cyflenwr:
- eich nod buches
- eich rhif daliad (CPH) (tudalen gwe yn Saesneg)
Bydd y cyflenwr yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu rhifau tag clust swyddogol ar gyfer eich tagiau.
Yna bydd y cyflenwr yn anfon y tagiau printiedig atoch i’w gosod ar eich anifeiliaid.
Ceisiwch archebu’r nifer o dagiau clust rydych chi’n credu y bydd arnoch ei angen mewn blwyddyn. Storiwch unrhyw dagiau clust sydd heb eu defnyddio yn ddiogel.
Amnewid tagiau sydd wedi’u colli, wedi’u difrodi, yn eisiau neu’n anghywir
Os oes angen ichi amnewid tagiau sydd wedi’u colli neu wedi’u difrodi, cysylltwch â chyflenwr tagiau clust sydd wedi’i gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg) i archebu un newydd.
Rhaid ichi archebu a gosod tagiau newydd o fewn 28 diwrnod ar ôl sylwi bod y tag wedi’i golli neu wedi’i ddifrodi.
Os bydd anifail rydych chi’n ei brynu yn cyrraedd gydag un tag yn eisiau, cysylltwch â chyflenwr wedi’i gymeradwyo i gael un newydd.
Chewch chi ddim symud yr anifail oddi ar eich daliad nes bod y tag newydd wedi’i osod.
Peidiwch â derbyn unrhyw anifail i’ch daliad os yw’n cyrraedd heb unrhyw dagiau neu os ydych chi’n credu bod rhywbeth o’i le ar y tagiau. Cysylltwch â GSGP i gael cyngor.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Anifeiliaid wedi’u geni neu wedi’u mewnforio cyn 1998
Os oes angen ichi amnewid tag clust swyddogol sydd wedi’i golli, wedi’i ddifrodi, neu yn eisiau ar gyfer anifail a gafodd ei eni neu ei fewnforio cyn 1998, rhaid ichi gael tag newydd gan gyflenwr sydd wedi’i gymeradwyo.
Gallwch chi gael:
- tag sengl yn dangos y rhif tag clust swyddogol gwreiddiol
- tag sengl yn dangos rhif tag clust swyddogol newydd
- set o 2 dag yn dangos rhif tag clust swyddogol newydd
Os cewch chi rif tag clust swyddogol newydd
Rhaid ichi gofnodi’r rhif tag clust swyddogol newydd yng nghofrestr eich daliad o fewn 36 awr ar ôl tagio’r anifail
O fewn 14 diwrnod ar oll tagio’r anifail, rhaid ichi anfon y canlynol at GSGP:
- pasbort yr anifail, os oes un ganddo
- tystysgrif cofrestru’r anifail, os oes un ganddo
- rhif y tag clust swyddogol newydd
Bydd GSGP yn newid y manylion ac yn rhoi pasbort newydd.
Rheolau ar dagio clustiau gwartheg sy’n cael eu mewnforio, eu symud neu eu hallforio
Mae’n rhaid ichi gael y pasbort gwartheg a’r tagiau clust perthnasol ar gyfer pob anifail. Dilynwch y canllawiau ar y canlynol:
- cofrestru gwartheg rydych chi wedi’u mewnforio neu wedi’u symud i Gymru neu Loegr
- beth i’w gofnodi a rhoi gwybod amdano pan fyddwch chi yn allforio neu’n symud gwartheg o Gymru neu Loegr
Rhoi adborth ynghylch tagiau clust
Gallwch roi adborth i GSGP ynghylch tagiau clust a chyflenwyr a gymeradwywyd.
Mae adborth yn cynnwys unrhyw broblemau sydd gennych ynglŷn â thagiau clust fel:
- heintiau mewn gwartheg
- cyfraddau colli
- perfformiad
- toriadau
- darllenadwyedd
Bydd GSGP yn gwirio’r adborth hwn ac fe allen nhw weithredu arno. Llenwch y ffurflen adborth neu mynnwch ffurflen gan eich cyflenwr.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Tachwedd 2022 + show all updates
-
Consolidated 2 pages of ear tagging guidance into one and clarified the rules. Moved information about ear tagging rules when importing and exporting cattle onto the GOV.UK pages about importing and exporting cattle.
-
This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.
-
Updated with guidance on how to comply with rules from 1 January.
-
Changed the layout of approved eartags
-
The list of approved cattle ear tag manufacturers has been updated.
-
Updated version of cattle eartag list added
-
Updated the BCMS email address on the eartag feedback form.
-
New Ear Tag manufacturer list added.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
New cattle ear tag list added
-
Version 51 of cattle list added
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
updated eartag list added
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
Updated ear tag suppliers
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
Updated cattle ear tag manufacturers list
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The list of approved cattle ear tag manufactures has been updated
-
Updated list of suppliers and the official tags they supply
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved Cattle Ear tag supplier list has been updated.
-
Updated list of new or replacement official ear tags for cattle
-
New version of Cattle Ear tag list added.
-
Updated list of cattle ear tag suppliers
-
Updated list of cattle ear tags
-
Update to list for official ear tags suppliers
-
Updated list of cattle ear tag suppliers
-
Updated the eartag feedback form
-
Eartag list updated
-
updated version of ear tags list published
-
Updated version of Cattle Ear Tags list published
-
First published.