Cofnodi a rhoi gwybod am wartheg sy'n cael eu hallforio neu eu symud allan o Gymru neu Loegr
Yr hyn mae'n rhaid i geidwaid gwartheg yng Nghymru a Lloegr ei gofnodi a rhoi gwybod amdano wrth allforio neu symud gwartheg, gan gynnwys y rheolau ynghylch tagio clustiau.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dim ond os yw’r canlynol yn wir y cewch chi allforio neu symud gwartheg allan o Gymru neu Loegr:
- eu bod nhw wedi’u geni, wedi’u mewnforio neu wedi’u symud i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) ar ôl 1 Awst 1996
- bod ganddyn nhw basbort dilys (tudalen sengl neu ddull llyfr sieciau) gyda hanes cyflawn eu symudiadau
- bod ganddyn nhw ddau dag clust swyddogol, un yn y naill glust a’r llall, yn dangos yr un rhif tag clust swyddogol – rhaid ichi gael y rhain gan gyflenwr tagiau clust a gymeradwywyd
- nad ydyn nhw o dan unrhyw gyfyngiadau symud
Ni chewch allforio gwartheg byw i’w pesgi na’u lladd. Mae hyn yn berthnasol i deithiau o Brydain Fawr neu drwy Brydain Fawr i unrhyw le y tu allan i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
Fe allwch chi ddal i allforio gwartheg byw at ddibenion eraill, er enghraifft ar gyfer bridio a chystadlu. Rhaid i chi fodloni’r gofynion cyfreithiol ynghylch diogelu lles anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo.
Pan fyddwch chi’n symud gwartheg i’r Alban o Gymru neu Loegr, dilynwch y rheolau ar gofnodi a rhoi gwybod am symud gwartheg oddi ar eich daliad.
Mae yna reolau a phrosesau eraill i’w dilyn pan fyddwch chi’n allforio neu’n symud gwartheg, er enghraifft cyfnodau cwarantin. Darllenwch ragor am y canlynol:
- allforio neu symud gwartheg (tudalen gwe yn Saesneg)
- Symud nwyddau yn ôl ac ymlaen i Ogledd Iwerddon (tudalen gwe yn Saesneg)
Yr hyn mae’n rhaid ichi ei gofnodi a rhoi gwybod amdano
Mae’n rhaid ichi:
- diweddaru cofrestr eich daliad o fewn 36 awr ar ôl i’r anifail adael eich daliad
- rhoi gwybod am y symudiad oddi ar eich daliad i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) o fewn 3 diwrnod
Os ydych chi’n symud gwartheg i Ogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, anfonwch gopi o’r dystysgrif iechyd allforio (tudalen gwe yn Saesneg) i GSGP o fewn 7 diwrnod.
Os ydych chi’n allforio i’r UE neu unrhyw wlad arall y tu allan i’r Deyrnas Unedig, anfonwch gopi o’r dystysgrif iechyd allforio (tudalen gwe yn Saesneg) a’r pasbort gwartheg i GSGP o fewn 7 diwrnod.
Rhowch label cod bar gyda rhif daliad (CPH) y daliad y mae’r anifail yn cael ei symud neu ei allforio ohono ar bob dogfen y byddwch chi’n ei hanfon i GSGP. Neu fel arall fe gewch chi ysgrifennu’ch rhif daliad ar y dogfennau.
Os yw’r daliad wedi cael ei gymeradwyo fel canolfan grynhoi, defnyddiwch rif daliad (CPH) y ganolfan grynhoi.
Postiwch eich dogfennau i:
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Rheolau ynghylch tagio clustiau er mwyn allforio gwartheg i’r UE neu eu symud i Ogledd Iwerddon
Rhaid ichi dagio’r holl wartheg rydych chi’n bwriadu eu hallforio i’r UE neu eu symud i Ogledd Iwerddon â dau dag clust swyddogol – un yn y naill glust a’r llall.
Rhaid i’r ddau dag clust gynnwys rhif tag clust swyddogol yr anifail.
Rhaid ichi archebu tagiau clust gan gyflenwr a gymeradwywyd (tudalen gwe yn Saesneg).
Y rheolau ynghylch tagio clustiau ar gyfer gwledydd eraill
Rhaid i wartheg sy’n cael eu hallforio y tu allan i’r UE neu’r Deyrnas Unedig hefyd gael dau dag clust swyddogol, un yn y naill glust a’r llall, yn dangos yr un rhif tag clust swyddogol.
Os oes gan y wlad maen nhw’n cael eu hallforio iddi ofynion gwahanol ynglŷn â thagiau clust, fe fydd y tagiau’n cael eu newid ar ôl cyrraedd.
Mae’n dal yn rhaid ichi ddilyn y rheolau ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.
Allforio cynhyrchion gwartheg
Mae yna reolau gwahanol i’w dilyn pan fyddwch yn allforio neu’n symud cynhyrchion anifeiliaid, fel cig neu gelatin, allan o Gymru neu Loegr.
Darllenwch y canllawiau ar sut i allforio neu symud bwyd, diod a chynhyrchion amaethyddol (tudalen gwe yn Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Gorffennaf 2024 + show all updates
-
Following paragraphs added due to new legislation from 22 July 2024: 'You cannot export live cattle for fattening or slaughter. This applies to journeys from or through Great Britain to anywhere outside the UK, Channel Islands or Isle of Man. You can still export live cattle for other purposes, for example for breeding and competitions. You must meet legal requirements to protect animal welfare during transport.'
-
Guidance updated as there is no longer a requirement to have a third ear tag when exporting cattle to the EU or moving them to Northern Ireland.
-
Page updated with new rule 'It is against the law to export from Great Britain cattle for slaughter, or for fattening for slaughter.' Also text deleted due to change in retagging rules when exporting.
-
Clarified what you need to do when exporting cattle or moving them to Northern Ireland. Added a link to general rules on exporting.
-
This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.
-
Links to Bovine-CON (consignor confirmation of loading) form and list of identification numbers (Bovine-SCH) removed.
-
Added section to explain that as a result of the UK exiting the EU, the tagging requirements for cattle that are exported from or moved out of GB to an EU Country or Northern Ireland have changed from 1 January.
-
First published.