Paratoi’ch busnes i ddefnyddio safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU
Dysgwch beth y bydd angen i chi ei wneud os ydych yn fusnes sydd eisiau symud nwyddau i mewn neu allan o safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU.
Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.
Mae safleoedd tollau Porthladd Rhydd (a elwir hefyd yn ‘barth rhydd’) yn barthau tollau diogel lle gallwch fewnforio neu allforio nwyddau y tu mewn i ffin tir y DU, ond lle mae rhai rheolau mewnforio neu allforio gwahanol yn bodoli.
Os byddwch yn dewis defnyddio safle tollau i fewnforio neu allforio nwyddau, efallai y byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
- cael rhyddhad rhag tollau a threthi mewnforio
- defnyddio prosesau datganiadau symlach i leihau beichiau gweinyddol
- dewis pa gyfradd Tollau Tramor y byddwch yn ei defnyddio os bydd prosesu’r nwyddau yn newid eu dynodiad
Gwiriwch pa awdurdodiad sydd ei angen arnoch chi i ddefnyddio safle tollau
Gallwch wneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd (un awdurdodiad ynghyd â gofynion datganiad haws) i fewnforio nwyddau ar gyfer:
- eu prosesu neu eu trwsio
- eu storio, gan gynnwys dulliau arferol o drin y nwyddau
Pan fydd y nwyddau’n cael eu datgan ar gyfer eu storio, dim ond deiliad awdurdodiad busnes y Porthladd Rhydd fydd yn gallu storio nwyddau o fewn gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd.
Os ydych yn defnyddio gweithdrefn arbennig arall y tollau
Os nad ydych yn gwneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd, gallwch ddewis defnyddio gweithdrefn arbennig y tollau sydd eisoes yn bodoli (yn Saesneg) yr ydych eisoes wedi’ch awdurdodi ar ei gyfer. Gellir defnyddio hyn i fewnforio nwyddau i’w hallforio neu eu gwerthu yn y DU yn ogystal â:
- eu prosesu neu eu trwsio
- eu storio
Defnyddio awdurdodiad gweithdrefn arbennig sydd eisoes yn bodoli
Os ydych yn bwriadu defnyddio gweithdrefn arbennig y tollau sydd eisoes yn bodoli, bydd amodau arferol eich awdurdodiad presennol yn berthnasol. Ond bydd angen i chi gydymffurfio â rheolau cyffredinol y safle tollau Porthladd Rhydd ar gofnodion y bydd angen i chi eu cadw.
Efallai y bydd angen i chi hefyd roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau i’ch awdurdodiad. Er enghraifft, os yw’r safle tollau am fod yn lleoliad prosesu neu storio newydd.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 20 Medi 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 Mawrth 2022 + show all updates
-
Guidance has been updated about checking what authorisation you need to use a customs site.
-
'Certain controlled goods' has been added to the information on which goods you cannot import or export using the Freeport customs special procedure.
-
You cannot currently use the Freeport customs special procedure to import or export excise goods. The guidance will be updated with details about when you can do this as soon as possible.
-
First published.