Amserlenni cwblhau amcangyfrifedig Cofrestrfa Tir EF
Amserlenni cwblhau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Y dyddiad cwblhau a gynghorir sy’n cael ei ddarparu trwy’r porthol yw ein hamcangyfrif cyfredol ar gyfer pryd caiff 90% o geisiadau o’r math hwn eu cwblhau. Mae hyn o ganlyniad i geisiadau penodol gan gwsmeriaid i wybod pryd caiff bron pob cais ei gwblhau. Fodd bynnag, gall profiad cwsmeriaid amrywio, fel yr adlewyrchir gan yr amserlenni isod. Am resymau gweithredol, efallai caiff y cais ei brosesu’n gynt.
Amserlenni
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2024
Perchnogaeth arferol, morgais a newidiadau eraill i deitlau cofrestredig sy’n bodoli
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 1 diwrnod |
---|---|
Ar gyfartaledd | 2 i 25 diwrnod |
Bron pob un | 3 i 4 mis |
Newidiadau mwy cymhleth i deitlau cofrestredig sy’n bodoli
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 1 diwrnod |
---|---|
Ar gyfartaledd | 5 i 6 mis |
Bron pob un | 15 i 17 mis |
Sylwer: nid yw’r amseroedd prosesu hyn yn cynnwys diweddariadau awtomataidd i gofrestri sy’n bodoli, a chaiff y rhan fwyaf ohonynt eu cwblhau ar unwaith. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys rhyddhau morgeisi yn electronig a cheisiadau i gofrestru cyfyngiadau electronig
Cofrestru pryniannau lleiniau ar ddatblygiadau newydd
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 9 i 10 mis |
---|---|
Ar gyfartaledd | 11 i 13 mis |
Bron pob un | 17 i 19 mis |
Cofrestri pryniannau o ran o eiddo cofrestredig nad yw’n ddatblygiad newydd
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 10 i 14 mis |
---|---|
Ar gyfartaledd | 14 i 16 mis |
Bron pob un | 18 i 20 mis |
Cofrestru eiddo am y tro cyntaf
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 8 i 12 mis |
---|---|
Ar gyfartaledd | 15 i 17 mis |
Bron pob un | 15 i 17 mis |
Os oes angen inni brosesu’r cais yn gynt ar eich cyfer chi neu eich cleient, gofynnwch inni gyflymu eich cais. Os nad oes unrhyw frys, a bod y dyddiad cwblhau amcangyfrifedig wedi mynd heibio, gallwch fod yn sicr bod eich cais wedi cael ei warchod a’i fod yn bwysig iawn i ni. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.