Canllawiau

Gofyn i gyflymu cais

Gofyn i Gofrestrfa Tir EF brosesu’ch cais trwy lwybr carlam.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Proses llwybr cyflym ar gyfer ceisiadau preswyl a masnachol yw cyflymu cais.

Os caiff ei gymeradwyo ac os nad oes unrhyw geisiadau neu geisiadau am wybodaeth (ymholiadau) heb eu datrys, ein nod yw prosesu cais i gyflymu o fewn 10 niwrnod gwaith.

Lle mae angen rhagor o wybodaeth i barhau, gofynnwn i gwsmeriaid ymateb yn gyflym i sicrhau ein bod yn gallu cwblhau’r cais.

Meini prawf gofynnol

Gallwch ofyn i gyflymu cais pe bai’r oedi:

  • yn achosi problemau cyfreithiol, ariannol neu bersonol nad ydynt yn gysylltiedig â thrafodiad tir
  • yn peryglu trafodiad eiddo, er enghraifft, cytundeb ail-gyllido neu ddatblygiad.

Ni fyddwn yn cyflymu cais:

  • sydd eisoes yn cael ei brosesu

  • i chwilio’r gofrestr, gan gynnwys chwiliadau o’r map mynegai

Tystiolaeth sy’n ofynnol i gefnogi’r cais

Ni allwn ystyried unrhyw gais heb dystiolaeth gefnogol.

Mae enghreifftiau o dystiolaeth rydym yn ei derbyn yn cynnwys:

  • copi o’r contract gwerthu neu brynu
  • llythyr cynnig morgais yn cadarnhau dyddiad dod i ben y cynnig
  • cadarnhad bod trafodiad bwriadedig yn dibynnu ar y cais rydych am ei gyflymu
  • esboniad o broblemau ariannol neu bersonol sy’n dangos yr angen i gyflymu

Rydym yn derbyn dogfennau golygedig os ydynt yn dangos yn glir pam eich bod yn gofyn inni gyflymu’ch cais.

Sut i wneud cais

Dylai’r cais gael ei anfon gan un o’r canlynol:

  • y prynwr
  • y gwerthwr
  • y sefydliad a gyflwynodd y cais

Cyflwynwch bob cais i gyflymu yn erbyn un rhif teitl a chyfeirnod Cofrestrfa Tir EF. Mae hyn yn ein galluogi i baru’ch cais i gyflymu gyda’r cais yn fwy effeithlon.

Os ydych yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol

Dylai trawsgludwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sydd â chyfrif porthol ddefnyddio ‘Application Enquiry’.

  1. Yn ‘Application Enquiry’, dewiswch ‘Still need to contact us?’

  2. Llenwch y manylion cysylltu priodol a dewiswch ‘Request an expedite’.

  3. Dewiswch y rheswm am y cyflymu er mwyn cwblhau’r cais.

Ni allwch wneud cais i gyflymu gan ddefnyddio ‘Reply to requisition’.

Os na ddefnyddiwyd gweithiwr cyfreithiol proffesiynol, neu os ydych yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol heb gyfrif porthol

Os nad ydych wedi defnyddio trawsgludwr neu gyfreithiwr, neu os nad oes gennych gyfrif porthol, defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Gorffennaf 2023 + show all updates
  1. We have updated our guidance on applying for an expedite to clarify that, if a delay in registration is causing legal, financial or personal problems, our criteria for expedition are met.

  2. We have made clear we accept redacted documents that contain commercially sensitive information as evidence.

  3. Added a link to our application processing times.

  4. We have updated our guidance to clarify that the expedite (fast-track) process is available for residential and commercial applications, and where any kind of property transaction is at risk.

  5. Added translation

Print this page