Cofrestrfa Tir EF: Ffioedd Pridiannau Tir
Ffïoedd cyflwyno ceisiadau Pridiannau Tir, gan ddefnyddio ffurflenni K1 i ffurflen K21.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Cododd rhai o’n ffïoedd cofrestru tir ar ddydd Llun 31 Ionawr 2022. Gweler Adolygiad ffïoedd 2021 i 2022 am ragor o wybodaeth.
Ffioedd Pridiannau Tir
Ffurflen(ni) | Math o gais | Gwneud cais trwy’r post neu DX | Gwneud cais gan ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway neu ffacs |
---|---|---|---|
K1, K2, K3, K4, K5, K7, K8 | Cofrestru neu adnewyddu cofrestriad | £5 yr enw | Ddim ar gael |
K6 | Cofrestru rhybudd blaenoriaeth | £5 yr enw | Ddim ar gael |
K9 | Cywiro cofnod | £5 yr enw | Ddim ar gael |
K11, K12, K13 | Dileu cofnod | £5 yr enw | Ddim ar gael |
K15, K16 | Chwiliad swyddogol | £7 yr enw | £6 yr enw |
K19 | Copi swyddfa o gofnod yn y gofrestr gan gynnwys unrhyw gynllun | £6 yr enw | £5 yr enw |
K20 | Cais am dystysgrif dileu cofnod | Am ddim | Ddim ar gael |
K21 | Archwilio cofnod yn y gofrestr | £6 | £5 |
Sut i dalu ffïoedd
Gallwch dalu am wasanaethau a cheisiadau safonol trwy’r canlynol:
- debyd uniongyrchol amrywiol, os oes gennych gyfrif e-wasanaethau Busnes
- siec neu archeb bost. Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir EF’ a’i hanfon, gyda’ch cais, i’n Hadran Pridiannau Tir
Rhagor o wybodaeth
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn seiliedig ar ddarpariaeth statudol Pridiannau Tir 1990 fel y’i diwygiwyd gan Reolau Ffioedd Pridiannau Tir (diwygio) 1994 a 2012, a ddaeth i rym ar 2 Ebrill 1990 ac sy’n gymwys o hyd.
Os ydych yn ansicr o’r ffi o hyd, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu â ni.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 7 Mawrth 2016Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
We have updated our fees.
-
First published.