Sut i gwyno wrth Swyddfa’r Dyfarnwr am CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Pryd a sut i gwyno wrth Swyddfa’r Dyfarnwr am Gyllid a Thollau EM (CThEM) neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).
Mae’n rhaid i chi gwyno wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM) neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn y lle cyntaf, cyn i Swyddfa’r Dyfarnwr allu ymchwilio i’ch cwyn.
Gallwch ofyn i CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio am gael:
- adolygiad cyntaf i ystyried eich cwyn
- ail adolygiad os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad
Ymchwiliad Swyddfa’r Dyfarnwr
Gall Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio i’ch cwyn ynghylch CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio os yw’r canlynol yn wir:
- chi yw’r person y mae’r gŵyn yn effeithio arno, neu rydych yn gynrychiolydd awdurdodedig
- rydych wedi gofyn am adolygiad cyntaf ac ail adolygiad gan CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio
- mae’ch cwyn yn un y gallwn ymchwilio iddi
Fel arfer, mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn gallu derbyn eich cwyn hyd at 6 mis ar ôl i chi gael yr ail adolygiad gan CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Yr hyn y gall Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio iddo
Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth Swyddfa’r Dyfarnwr gyda CThEM ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn esbonio’r mathau o gŵynion y gallwn ymchwilio iddynt. Gall Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio i’r cwynion canlynol:
- p’un a weithredwyd polisi ac arweiniad yn deg ac yn gyson
- gwallau gweinyddol gan gynnwys oedi afresymol, camgymeriadau a chyngor gwael neu gamarweiniol
- sut y gweithredwyd disgresiwn
- ymddygiad staff a arweiniodd at wasanaeth gwael i gwsmeriaid
Yr hyn na all Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio iddo
Ni all Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio i’r canlynol:
- materion yn ymwneud â pholisi’r llywodraeth neu’r adran
- cwynion pan fo hawl benodol i wneud penderfyniad gan unrhyw lys, tribiwnlys neu gorff arall ag awdurdodaeth benodol ar y mater
- penderfyniadau prisio Swyddogion Statudol yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio
- cwynion ynghylch p’un a yw CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018
- cwynion ynghylch ymchwiliad neu ymholiad sydd ohoni
- y penderfyniad ffurfiol a wnaed fel rhan o broses y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod
- cwynion ynghylch camymddygiad y gallai Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu neu Gomisiwn Cwynion yr Heddlu ar gyfer yr Alban eu hystyried
- cwynion ynghylch contract masnachol neu gontract cyflogaeth rhyngoch chi a CThEM
- cwynion y mae’r Ombwdsmon Seneddol wrthi’n ymchwilio neu wedi ymchwilio iddynt
Sut i wneud cwyn
I wneud cwyn, cysylltwch â ni.
Os yw’ch cwyn ar ôl y cyfnod o 6 mis, rhowch wybod i ni pam ac efallai y byddwn yn ei derbyn o dan amgylchiadau eithriadol.
Mae’r arweiniad ynghylch Rôl y Dyfarnwr yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut rydym yn ymchwilio i gŵynion.
Os bydd angen unrhyw help neu addasiad rhesymol arnoch wrth ddelio â ni, rhowch wybod i ni.
Cwyno am wasanaeth neu benderfyniad Swyddfa’r Dyfarnwr
Mae gwybodaeth am sut i gwyno am wasanaeth neu benderfyniad y Dyfarnwr ar gael.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 26 Gorffennaf 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Medi 2024 + show all updates
-
Service Level Agreement hyperlink updated.
-
Added Welsh translation
-
First published.