Canllawiau

Sut i drosglwyddo asedau elusennol i elusen arall

Sut i drosglwyddo holl asedau eich elusen i elusen arall os yw'n uno, yn newid strwythur neu'n cau.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â throsglwyddo holl asedau a rhwymedigaethau elusen i elusen arall, fel arfer cyn cau.

Er enghraifft, pan fydd elusen yn:

  • uno gydag elusennau eraill
  • newid strwythur, megis o ymddiriedolaeth i Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO)
  • cau’n wirfoddol

Nid yw’n ymwneud â rhoi arian na gwneud grantiau i elusen arall.

Yn y canllawiau hyn, gelwir yr elusen sy’n trosglwyddo ei hasedau a’i rhwymedigaethau yn ‘elusen drosglwyddo’, a gelwir yr elusen sy’n derbyn asedau a rhwymedigaethau yn ‘elusen sy’n derbyn’.

Yn y canllawiau hyn, mae’r term ‘asedau’, y gellir eu galw’n ‘eiddo’ weithiau, yn cynnwys:

  • arian mewn cyfrifon banc
  • buddsoddiadau, er enghraifft stociau a chyfranddaliadau
  • tir ac adeiladau
  • asedau sefydlog eraill, er enghraifft cerbydau neu offer
  • eiddo deallusol

Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r meysydd allweddol i’w hystyried, megis:

  • defnyddio’r pwerau a’r prosesau cywir
  • ystyried dibenion yr elusennau sy’n gysylltiedig
  • trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig
  • p’un a ydych angen awdurdod y Comisiwn Elusennau

Os ydych angen awdurdod y Comisiwn, cysylltwch â ni bob amser yn gynnar yn enwedig os oes gennych ddyddiad cau fel diwedd y flwyddyn ariannol.

Mynnwch gyngor proffesiynol perthnasol os oes ei angen arnoch, er enghraifft os ydych chi’n uno neu’n newid strwythur ac mae gennych chi weithwyr - efallai y bydd materion pensiwn neu TUPE i’w hystyried. Mae TUPE yn sefyll am Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Transfer of Undertakings (Protection of Employment) Regulations).

Nid yw’r canllawiau hyn yn berthnasol i:

  • CIOs yn defnyddio’r camau cyfreithiol a ddisgrifir yn ein canllawiau Sut i uno CIO gyda CIOs eraill. Mae’r camau cyfreithiol hyn yn trosglwyddo asedau’n awtomatig, nid oes angen gweithredu pellach
  • Elusennau’r Siarter Frenhinol sy’n ceisio trosglwyddo eu hasedau. Gwiriwch bwerau yn eich Siarter, mynnwch gyngor proffesiynol os oes ei angen arnoch, neu cysylltwch â Swyddfa’r Cyfrin Gyngor drwy e-bostio [email protected]

1. Y pŵer i drosglwyddo asedau elusennol

Mae’n rhaid bod gennych y pŵer i drosglwyddo asedau a rhwymedigaethau eich elusen i elusen arall.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa bŵer rydych chi’n ei ddefnyddio a’ch bod yn:

  • ei ddefnyddio’n gywir – rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau sy’n dod gyda’r pŵer
  • ei ddefnyddio at ei ddiben priodol, nid at ddiben na fwriadwyd ar ei gyfer
  • sicrhau bod gan yr elusen sy’n derbyn ddibenion sy’n addas, o ystyried telerau’r pŵer rydych chi’n ei ddefnyddio

Uno neu newid strwythur

Os ydych yn trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau eich elusen oherwydd eich bod yn:

  • uno, darllenwch ein canllawiau ynghylch uno’r uno er mwyn deall y pwerau y gallwch eu defnyddio
  • Newid strwythur eich elusen, darllenwch ein canllawiau am y pwnc hwn er mwyn deall sut y gallwch wneud hyn

Os ydych yn trosglwyddo asedau eich elusen am unrhyw reswm arall, darllenwch weddill yr adran hon.

Pŵer cyffredinol

Gallwch drosglwyddo asedau eich elusen i elusen arall os yw hyn yn hyrwyddo dibenion eich elusen.

Dylech:

  • gwirio geiriad eich elusen a dibenion yr elusen sy’n derbyn i wneud yn siŵr y byddai’r trosglwyddiad yn hyrwyddo dibenion eich elusen, a
  • gwirio gweddill eich dogfen lywodraethu, er mwyn sicrhau nad yw’n cynnwys rheolau eraill sy’n eich atal rhag bwrw ymlaen

Os nad ydych yn siŵr y gallwch fynd ymlaen, gallwch:

  • ystyried newid dibenion eich elusen fel eu bod yn ddigon tebyg i ddibenion yr elusen sy’n derbyn
  • gwirio a oes gennych bŵer yn eich dogfen lywodraethol y gallech ei defnyddio yn lle hynny (gweler y pennawd nesaf)
  • cael cyngor proffesiynol

Os penderfynwch newid dibenion eich elusen, rhaid i chi wneud hyn yn gyntaf. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn Elusennau i newid dibenion eich elusen, a bydd angen yr awdurdod hwn arnoch cyn y gallwch ddefnyddio’r pŵer cyffredinol.

Deall y rheolau ynghylch newid dogfennau llywodraethu.

Pwerau mewn dogfennau llywodraethu

Gwiriwch eich dogfen lywodraethol am y pwerau y gallwch eu defnyddio. Er enghraifft:

  • pŵer datganedig i drosglwyddo asedau i elusen arall, neu uno ag elusen arall. Un enghraifft yw cymal 5(7) o weithred ymddiriedolaeth enghreifftiol y Comisiwn.
  • pŵer cyffredinol i wneud unrhyw beth sy’n angenrheidiol neu’n ddymunol i gyflawni dibenion yr elusen. Er enghraifft, Cymal 5(10) o weithred ymddiriedolaeth enghreifftiol y Comisiwn
  • cymal diddymu elusen

Os nad yw eich dogfen lywodraethol yn cynnwys pŵer, gallwch ychwanegu un. Efallai y bydd angen i’r Comisiwn Elusennau awdurdodi’r newid hwn. Darllenwch ein canllawiau ar newid dogfennau llywodraethu, sy’n nodi sut y gallwch wneud cais am awdurdod.

Mynnwch gyngor proffesiynol os oes ei angen arnoch.

2. Y dull o drosglwyddo asedau elusennol

Ar ôl sefydlu pa bŵer y byddwch chi’n ei ddefnyddio, dylech:

  • ystyried sut y byddwch yn trosglwyddo’r asedau (pa ddogfennaeth y byddwch yn ei defnyddio)
  • cytuno ar ddyddiad trosglwyddo gyda’r elusen sy’n derbyn
  • deall pa gamau eraill y gallai fod angen i chi eu cymryd yn dibynnu ar y math o ased rydych yn ei drosglwyddo

Dylech gael cyngor proffesiynol perthnasol os oes ei angen arnoch.

Gellir cwblhau’r rhan fwyaf o drosglwyddiadau gan ddefnyddio:

  • datganiad breinio cyn uno a/neu
  • cytundeb trosglwyddo

Deallwch os oes gan eich elusen:

  • asedau cyffredinol yn unig neu
  • waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig yn ogystal ag asedau cyffredinol

Gellir defnyddio asedau cyffredinol mewn unrhyw ffordd i hyrwyddo dibenion eich elusen; nid oes ganddynt unrhyw reolau eraill ar sut y gellir eu defnyddio.

Datganiad breinio cyn uno

Mae defnyddio datganiad breinio cyn uno yn ddull syml i’w ddefnyddio pan:

  • rydych yn trosglwyddo holl asedau a rhwymedigaethau eich elusen i’r elusen sy’n derbyn a
  • byddwch yn cau eich elusen neu
  • ni fyddwch yn cau eich elusen ond dim ond am fod gan eich elusen waddol parhaol na fyddwch yn ei throsglwyddo

Datganiad breinio cyn uno hefyd yw’r dull mwyaf syml pan fyddwch chi’n:

  • trosglwyddo gwaddol parhaol a
  • bod yr elusen sy’n derbyn yn CIO

I gael rhagor o wybodaeth am hyn, darllenwch yr adran isod ar ‘Tir dynodedig, gwaddol parhaol ac ymddiriedolaethau arbennig’.

Mae yna demplad datganiad breinio cyn-uno (#template) y gallwch ei ddefnyddio wrth drosglwyddo asedau i CIO.

Ni ellir trosglwyddo pob eiddo gan ddefnyddio datganiad breinio cyn uno. Mynnwch gyngor proffesiynol os nad ydych yn siŵr.

Trosglwyddo i elusen anghorfforedig

Wrth drosglwyddo asedau i elusen anghorfforedig, byddai’r trosglwyddiad i ymddiriedolwyr unigol yr elusen anghorfforedig i ddal yr asedau ar ymddiriedaeth - nid i’r elusen ei hun.

Mae hyn oherwydd, yn wahanol i CIO neu gwmni, nid oes gan elusen anghorfforedig bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân i’w haelodau a/neu ymddiriedolwyr. O ganlyniad, ni all ddal tir neu asedau eraill.

Camau eraill

Ar neu ar ôl y dyddiad trosglwyddo, gallwch gymryd camau eraill megis trosglwyddo arian mewn cyfrifon banc a chofrestru’r newid ym mherchnogaeth tir y Gofrestrfa Tir.

Bydd beth arall sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar beth yw’r ased. Er enghraifft:

  • buddsoddiadau (fel stociau a chyfranddaliadau)
  • asedau sefydlog, er enghraifft cerbydau neu offer
  • rhwymedigaethau

Dylech gael cyngor proffesiynol perthnasol. Er enghraifft, byddech fel arfer yn cynnwys trawsgludwr os ydych yn trosglwyddo tir.

Cyfrifo am y trosglwyddiad

Bydd angen i’r elusen sy’n derbyn ystyried sut mae trosglwyddo asedau yn cael eu trin yn ei chyfrifon. Mynnwch gyngor proffesiynol perthnasol os ydych yn ansicr.

Temple datganiad breinio model

Gallwch ddefnyddio’r templed hwn os ydych yn trosglwyddo asedau i CIO.

Datganiad breinio enghreifftiol

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email [email protected]. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

3. Tir dynodedig, gwaddol parhaol ac ymddiriedolaethau arbennig

Mae tir dynodedig yn dir y mae’n rhaid ei ddefnyddio at ddiben penodol eich elusen yn ôl y ddogfen sy’n esbonio sut y mae’n rhaid defnyddio’r tir. Er enghraifft, eiddo y mae’n rhaid ei ddefnyddio fel tir hamdden.

Mae gwaddol parhaol yn eiddo y mae’n rhaid i’ch elusen ei gadw yn hytrach na’i wario. Mae eiddo a roddir i’ch elusen y mae’n rhaid ei ddefnyddio at ddiben penodol (fel tir dynodedig) yn un enghraifft o waddol parhaol. Un arall yw arian neu asedau eraill a roddir i’ch elusen i’w buddsoddi lle mai dim ond yr incwm buddsoddi y gellir ei wario.

Ymddiriedolaeth arbennig yw arian neu asedau y mae’n rhaid i’ch elusen eu defnyddio at ddibenion penodol sy’n gulach na dibenion eich elusen. Gall gwaddol parhaol fod yn ymddiriedolaeth arbennig ond nid bob amser.

Deall sut i ddelio â gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig yn gywir.

Ni allwch gau eich elusen ar ôl trosglwyddo eich asedau i’r elusen sy’n derbyn os nad ydych yn delio’n iawn ag unrhyw waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig sydd gan eich elusen.

Trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig, neu ymddiriedolaethau arbennig i CIO

Defnyddio datganiad breinio cyn uno yw’r ffordd fwyaf syml o drosglwyddo’r CIO oherwydd bydd yn (ar yr un pryd):

  • trosglwyddo’r rhan fwyaf o asedau cyffredinol yr elusen i’r CIO, fel eu bod yn dod yn rhan o eiddo corfforaethol y CIO
  • penodi’r CIO yn ymddiriedolwr gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig ar eu hymddiriedolaethau presennol
  • breinio titil cyfreithiol yn y CIO i ddal gwaddol parhaol, tir dynodedig ney ymddiriedolaethau arbennig ar eu hymddiriedolaethau presennol
  • yn golygu bod y gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig yn dod yn rhan o’r CIO at ddibenion cyfrifeg, adrodd a chofrestru. Mae hyn yn golygu y bydd y CIO yn gallu, er enghraifft, eu cynnwys yn ei chyfrifon.

Os nad ydych yn defnyddio datganiad breinio cyn uno, bydd angen i chi benodi CIO ar wahân fel ymddiriedolwr y gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaeth arbennig drwy weithred. A bydd angen i chi gyfrif am waddol parhaol nad yw’n ymddiriedolaeth arbennig ar wahân.

Trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig i elusen anghorfforedig

Drafftiwch eich cytundeb trosglwyddo fel gweithred fel y bydd (ar yr un pryd):

  • yn trosglwyddo asedau cyffredinol eich elusen i ymddiriedolwyr yr elusen anghorfforedig, i ddal ymddiriedaeth (mae hyn oherwydd na allwch drosglwyddo’r asedau i elusen anghorfforedig)
  • yn penodi ymddiriedolwyr yr elusen anghorfforedig yn ymddiriedolwyr gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig i’w dal ar yr un ymddiriedolaethau

Trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig i gwmni elusennol

Drafftiwch eich cytundeb trosglwyddo fel gweithred fel y bydd (ar yr un pryd) yn:

  • trosglwyddo asedau cyffredinol eich elusen i’r cwmni elusennol
  • penodi’r cwmni elusennol yn ymddiriedolwr gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaeth arbennig

Os na fyddwch yn trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig yn y ffyrdd a ddisgrifir uchod

Yn ymarferol, mae trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig, ac ymddiriedolaethau arbennig yn ymwneud â newid pwy yw’r ymddiriedolwyr o’r mathau hyn o asedau.

Os byddwch yn dilyn y canllawiau uchod, dylech benodi’r elusen sy’n derbyn (neu, yn achos elusen anghorfforedig, ei hymddiriedolwyr) yn ymddiriedolwyr y gwaddol parhaol, tir dynodedig, neu ymddiriedolaethau arbennig.

Os na fyddwch yn dilyn y canllawiau uchod, bydd angen i chi benodi’r elusen sy’n derbyn (neu, yn achos elusen anghorfforedig, ei hymddiriedolwyr) fel ymddiriedolwr gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaeth arbennig.

Gall pwerau i benodi ymddiriedolwyr ddod o’r gyfraith neu gellir eu canfod yn y ddogfen lywodraethol. Gwiriwch a oes dogfen lywodraethol ar wahân, neu a yw’r ased (lle nad yw eich elusen wedi’i hymgorffori) wedi’i chynnwys yn nogfen lywodraethol eich elusen.

Mynnwch gyngor proffesiynol os oes ei angen arnoch.

Effaith newid ymddiriedolwyr

Nid yw newid pwy sy’n ymddiriedolwr yn newid unrhyw beth am waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig, er enghraifft eu dibenion. Rhaid iddynt beidio â chael eu huno â chronfeydd ac asedau cyffredinol yr elusen sy’n derbyn a rhaid iddynt barhau i gael eu cadw ar eu hymddiriedolaethau gwreiddiol.

Cyfrifo ar gyfer gwaddol parhaol

Os ydych wedi trosglwyddo gwaddol parhaol nad yw’n ymddiriedolaeth arbennig a naill ai:

  • mae’r elusen sy’n derbyn yn CIO ac ni wnaethoch ddefnyddio datganiad breinio cyn uno neu
  • nid yw’r elusen sy’n derbyn yn CIO

rhaid i’r elusen sy’n derbyn gynhyrchu cyfrifon ar wahân ar gyfer y gwaddol parhaol.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, gallwch wneud cais i’r Comisiwn am gyfeiriad cysylltu sy’n galluogi’r elusen sy’n derbyn, er enghraifft, i gynnwys gwaddol parhaol nad yw’n ymddiriedolaeth arbennig yn ei chyfrifon elusennol ei hun.

Darllenwch am cyfarwyddiadau cysylltu.

Mynnwch gyngor proffesiynol os oes ei angen arnoch.

4. Pryd y gallai fod angen awdurdod y Comisiwn Elusennau arnoch

Efallai y bydd angen awdurdod ar elusennau gan y Comisiwn fel rhan o drosglwyddo asedau.

Mynnwch gyngor proffesiynol ar y meysydd hyn os oes ei angen arnoch.

Mae sut i wneud cais wedi’i nodi ar ddiwedd yr adran hon.

Atebolrwydd cyfyngedig

Mae ymddiriedolwyr cwmnïau elusennol a CIOs yn elwa ar atebolrwydd cyfyngedig. Mae hyn yn golygu nad yw’r ymddiriedolwyr fel arfer yn atebol (neu’n gyfrifol) am ddyledion yr elusen. Pe na bai’r elusen yn gallu talu ei dyledion, gallai credydwyr (y rhai yr oedd yr elusen mewn dyled ariannol iddynt) gymryd camau yn erbyn yr elusen, ond nid yr ymddiriedolwyr.

Mae ymddiriedolwyr elusen anghorfforedig yn cael budd o ‘atebolrwydd cyfyngedig’:

  • pan fydd eu helusen yn uno â, neu’n newid strwythur, cwmni elusennol neu CIO ac
  • maent yn dod yn ymddiriedolwyr y cwmni elusennol neu’r CIO

Oherwydd y byddant yn cael y budd hwn, mae gan ymddiriedolwyr yr elusen anghorfforedig sydd hefyd yn ymddiriedolwyr yr elusen sy’n derbyn wrthdaro buddiannau ac ni ddylent bleidleisio yn y penderfyniad i uno neu newid strwythur. Bydd angen awdurdod arnoch os nad oes gennych ddigon o ymddiriedolwyr a all reoli’r gwrthdaro buddiannau hyn a gwneud y penderfyniad.

Felly, bydd angen awdurdod arnoch os:

  • mai elusen heb ei hymgorffori (ymddiriedolaeth neu gymdeithas anghorfforedig) yw’r elusen drosglwyddo, a
  • mae’r elusen sy’n derbyn yn CIO neu’n gwmni elusennol, a
  • rydych yn trosglwyddo asedau er mwyn uno neu newid strwythur, a
  • nad oes digon o ymddiriedolwyr yn yr elusen anghorfforedig nad ydynt yn ymddiriedolwyr i’r CIO neu’r cwmni elusennol (neu sydd wedi’u cysylltu ag ymddiriedolwr yn yr elusennau hyn) i reoli’r gwrthdaro buddiannau a gwneud y penderfyniad i uno neu newid strwythur

Yr elusen drosglwyddo sy’n gwneud cais am awdurdod a rhaid iddo dderbyn awdurdod.

Darperir awdurdod o dan adran 105 o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y’i diwygiwyd).

Caniatáu indemniad am rwymedigaethau yr eir iddynt

Mae hyn yn ymwneud â’r elusen sy’n derbyn amddiffyn ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo am atebolrwydd am unrhyw golledion o ganlyniad i benderfyniadau a wnaethant fel ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo.

Gwerth yr indemniad yw’r swm y mae’r elusen sy’n derbyn yn cytuno i’w dalu i dalu am unrhyw golledion o’r fath.

Gall ymddiriedolwyr yr elusen sy’n derbyn benderfynu a ddylid rhoi indemniad ai peidio, a’r gwerth. Os ydynt yn penderfynu rhoi indemniad, mae angen awdurdod oherwydd bod hwn yn fath o fudd i ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo.

Dyma’r elusen sy’n derbyn ceisiadau am, ac mae’n rhaid iddo dderbyn awdurdod i roi indemniad.

Mae’r Comisiwn yn darparu awdurdod o dan adran 105 o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y’i diwygiwyd). Bydd angen i chi ddangos bod rhoi’r indemniad yn hwylus er budd yr elusen sy’n derbyn.

Byddai’r Comisiwn fel arfer yn darparu’r awdurdod hwn os na fydd yr ymddiriedolwyr sy’n ennill yr indemniad mewn sefyllfa well wedyn.

Mae hyn yn golygu na fydd yr indemniad yn rhoi hawl i ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo i fwy o amddiffyniad nag yr oedd ganddynt hawl iddo yn yr elusen drosglwyddo.

Dylai’r elusen sy’n derbyn ofyn i ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo gadw cofnod clir o’r hyn y mae ganddynt hawl iddo ar hyn o bryd. Os yw eich penderfyniad i roi indemniad ar y gwerth a ddewiswyd yn golygu y bydd ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo mewn sefyllfa well ar ôl y trosglwyddiad, dylech egluro hyn yn eich cais.

Trosglwyddo ased sylweddol nad yw’n arian parod

Bydd angen awdurdod arnoch os:

  • naill ai bod yr elusen trosglwyddo neu’n derbyn yn anghorfforedig ac
  • mai cwmni elusennol yw’r elusen arall, a
  • yw o leiaf un unigolyn sy’n ymddiriedolwr yn yr elusen trosglwyddo a derbyn (neu sydd wedi’i gysylltu ag ymddiriedolwr yn yr elusen trosglwyddo a derbyn) a
  • yw’r uno yn golygu trosglwyddo ‘ased sylweddol nad yw’n arian parod’

‘Ased sylweddol nad yw’n arian parod’ yw:

  • unrhyw fath o ased (neu fuddiant mewn ased) ac eithrio balansau banc neu arian tramor a
  • mae ei werth naill ai’n fwy na £100,000 neu’n fwy na 10% o werth asedau’r cwmni ac mae’n fwy na £5,000

Y cwmni elusennol sy’n gwneud cais am awdurdod a rhaid iddo dderbyn awdurdod. Bydd angen i chi gadarnhau eich bod wedi pasio penderfyniad yr aelodau perthnasol.

Mae angen awdurdod o dan adran 201 o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y’i diwygiwyd)).

Unrhyw wrthdaro buddiannau na ellir ei reioli

Bydd angen awdurdod arnoch bob tro y bydd penderfyniad yn arwain at gwrthdaro buddiannau ac ni allwch ei reoli.

Mae gan yr elusen sy’n derbyn neu’n trosglwyddo unig ymddiriedolwr corfforaethol

Pan fyddwch yn ystyried y senarios hyn a lle mae gan unrhyw un o’r elusennau unig ymddiriedolwr corfforaethol, byddai gwrthdaro buddiannau pe bai cyfarwyddwyr yr ymddiriedolwr corfforaethol naill ai:

  • yn ymddiriedolwyr yr elusen arall, neu
  • lle mae gan yr elusen arall ymddiriedolwr corfforaethol hefyd, maent yn gyfarwyddwyr ar yr ymddiriedolwr corfforaethol hwnnw

Gwneud cais am awdurdod

Anfonwch un cais os oes angen awdurdod arnoch am fwy nag un rheswm.

Ar gyfer pob cais:

  • rhowch enwau a rhifau cofrestredig yr elusennau sy’n trosglwyddo ac yn derbyn, a dweud pa rai sy’n trosglwyddo a pha un sy’n derbyn
  • datganwch ddibenion elusennol y ddwy elusen
  • eglurwch sut mae trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau er budd gorau pob elusen
  • nodwch pa asedau a rhwymedigaethau sy’n cael eu trosglwyddo, gan roi eu gwerth a thynnu sylw at unrhyw rwymedigaethau sylweddol (potensial)
  • eglurwch a yw unrhyw un o’r asedau yn waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig
  • cadarnhewch bod gan yr elusen drosglwyddo’r pŵer i drosglwyddo asedau a rhwymedigaethau i’r elusen sy’n derbyn
  • dywedwch pa awdurdod rydych chi’n ei geisio a pham
  • gwiriwch bod gan y Comisiwn gyfrifon diweddaraf yr elusennau dan sylw, ac os nad oes, darparwch gopi o’r rhain
  • dywedwch wrthym os oes dyddiad cau ar gyfer y trosglwyddiad, beth ydyw ac a yw’r dyddiad cau yn arbennig o bwysig

Ar gyfer atebolrwydd cyfyngedig:

  • cadarnhewch na allwch reoli’r gwrthdaro buddiannau, fel yr eglurir uchod

Ar gyfer indemniad ymddiriedolwyr:

  • rhowch fanylion am yr indemniad sy’n cael ei ddarparu
  • cadarnhewch a fydd hyn yn cynrychioli’r un sefyllfa neu’n well ar gyfer ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo. Os yw’n well, rhowch fanylion (gweler y canllawiau uchod)
  • eglurwch pam fod rhoi’r indemniad, ar y gwerth yr ydych wedi’i benderfynu, yn hwylus er budd yr elusen sy’n derbyn

Ar gyfer trosglwyddo ased sylweddol nad yw’n arian parod:

  • cadarnhewch eich bod wedi pasio penderfyniad yr aelodau perthnasol

Gwneud cais am awdurdod.

5. Ar ôl y trosglwyddiad

Rhowch i’r elusen sy’n derbyn:

  • copi o benderfyniadau’r ymddiriedolwyr neu benderfyniadau sy’n awdurdodi’r trosglwyddiad
  • copi o’r cytundeb breinio neu drosglwyddo cyn uno
  • copi o’r dogfennau perthnasol sy’n ymwneud â’r ased a drosglwyddwyd
  • copi o unrhyw awdurdod y Comisiwn a dderbyniwyd
  • lle bo’n berthnasol, dogfennau ar wahân am benodi ymddiriedolwyr newydd gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig

Os ydych wedi uno neu newid strwythur, efallai y byddwch hefyd yn darparu cofnodion eich elusen i’r elusen sy’n derbyn, er enghraifft cofnodion cyfarfodydd ymddiriedolwyr.

6. Cau eich elusen

Unwaith y byddwch wedi:

  • trosglwyddo eich holl asedau a rhwymedigaethau i’r elusen sy’n derbyn
  • ymdrin yn briodol ag unrhyw waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig

gallwch gau eich elusen.

Darllenwch ganllawiau ynghylch cau eich elusen. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Comisiwn am y cau fel y gallwn dynnu eich elusen o’r gofrestr. Byddwn hefyd yn rhoi’r gorau i ysgrifennu atoch – er enghraifft i ffeilio ffurflenni blynyddol.

Cofrestrwch drosglwyddo asedau ar y gofrestr uno

Ystyriwch a allwch, neu os oes rhaid cofrestru’r uno (mae hyn hefyd yn berthnasol i newid strwythur).

Mae cofrestru yn ymwneud â helpu elusennau i sicrhau rhoddion yn y dyfodol (fel cymynroddion) ar ôl iddynt uno a chau.

Darllenwch canllawiau am fwy o wybodaeth a sut i wneud cais.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Mawrth 2024 + show all updates
  1. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  2. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  3. First published.

Print this page