Canllawiau

Carchar Lincoln

Mae Lincoln yn garchar a sefydliad troseddwyr ifanc (STI) yn Nwyrain Canolbarth Lloegr ar gyfer dynion 18 oed a throsodd.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Charchar Lincoln

I ymweld â rhywun yng Ngharchar Lincoln, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr cymeradwy’r carcharor
  • bwcio eich ymweliad mwy na 3 diwrnod gwaith ymlaen llaw
  • Bod ag ymweliad wedi’i threfnu ar gyfer y diwrnod y byddwch yn mynychu a bod wedi eich rhestru fel ymwelydd ar yr ymweliad hwnnw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Lincoln
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau domestig a chymdeithasol

Ar gyfer ymwelwyr tro cyntaf neu bobl sydd ddim ar restr ymwelwyr cymeradwy’r carcharor, ffoniwch y llinell archebu i gael rhagor o wybodaeth.

Llinell archebu dros y ffôn: 01522 663 172
Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am i ganol dydd, ac eithrio Gwyliau Banc
Gwybodaeth am gostau galwadau

Mae ymwelwyr cymeradwy yn gallu archebu eu hymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Sylwch na fyddwn ni’n ymateb i unrhyw ymholiadau am ymweliadau domestig/cymdeithasol sy’n cael eu hanfon i gyfeiriad e-bost Archebu Ymweliadau Lincoln. Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer ymholiadau cyfreithiol yn unig.

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth 2pm i 4pm
  • Dydd Iau 2pm i 4pm
  • Dydd Sadwrn 9am i 11am a 2pm i 4pm
  • Dydd Sul 9am i 11am a 2pm i 4pm

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Amseroedd ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol wyneb yn wyneb:

  • Dydd Mawrth a dydd Iau: 9am i 11:30am

Mae modd eu harchebu drwy [email protected]

Cofiwch mai dim ond ar gyfer ymholiadau Cyfreithiol y mae’r cyfeiriad e-bost hwn. Ni fyddwn yn ymateb i ymholiadau domestig. Gweler ‘Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau’ uchod am gyngor ynghylch ymholiadau domestig.

Neu drwy’r Llinell Archebu Ymweliadau 01522 663172

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am i 12pm ac eithrio Gwyliau Banc

Gall ymwelwyr cymdeithasol ar gyfer carcharorion remand a charcharorion sydd wedi cael eu dyfarnu’n euog archebu ar-lein ar www.gov.uk/prison-visits

Dim ond drwy e-bost y gellir trefnu ymweliadau cyfreithiol, rhithwir, y cyfeiriad yw [email protected].

Rydym hefyd yn cynnig Ymweliadau Teulu unwaith y mis. Ymweliadau estynedig yw’r rhain yn aml gyda ffocws penodol ac mae carcharorion yn gwneud cais am y rhain yn fewnol.

Cyrraedd Carchar Lincoln

Dod o hyd i Garchar Lincoln

Mae’r carchar gyferbyn ag Ysbyty Sirol Lincoln. Canol Lincoln yw’r orsaf drenau agosaf. Mae’r carchar 20 munud ar droed o’r orsaf drenau a bysiau.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Mae maes parcio Talu ac Arddangos i’r dde o’r carchar a hefyd yn y cefn. Mae parcio Bathodyn Glas yn y blaen a dylid gofyn amdano wrth drefnu ymweliad.

Mynd i mewn i Garchar Lincoln

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Ar gyfer eich ymweliad cyntaf, cyrhaeddwch ar ôl 12:20pm a chadwch lygad am y ‘bobl borffor’ er mwyn i chi gael sesiwn gynefino cyn cofrestru (o 1:30pm ymlaen).

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Garchar Lincoln. Byddwch chi’n cael allwedd locer pan fyddwch chi’n cofrestru. Cofiwch mai dim ond lle cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer eiddo. Gellir gadael cadeiriau gwthio a seddi car gyda’r tîm diogelwch.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cod Gwisg Ymwelwyr

Rhaid i ymwelwyr â Charchar Lincoln wisgo’n briodol bob amser, a fydd yn adlewyrchu ein nod o greu awyrgylch teuluol fel rhan o’r agenda Lleihau Aildroseddu a Gweddusrwydd. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i bawb sy’n ymweld â’r sefydliad beth bynnag fo’u hoedran a’u rhywedd.

Yng Ngharchar Lincoln, ystyrir ei bod yn amhriodol gwisgo’r mathau canlynol o ddillad:

  • Topiau byr/wedi’u torri sy’n datgelu cnawd noeth.
  • Topiau neu grysau wedi’u torri’n isel sy’n dangos bronbant neu frest noeth.
  • Festiau (fel un dilledyn)
  • Sgertiau bach sy’n fyrrach na hyd y pen-glin ac sy’n dangos y cluniau.
  • Trowsus byr sy’n fyrrach na hyd y pen-glin ac sy’n dangos y cluniau.
  • Pob math o ddillad y gellir gweld trwyddynt.
  • Penwisg (ac eithrio at ddibenion crefyddol).
  • Dillad sy’n dramgwyddus o ran natur neu sy’n arddangos deunydd sarhaus, gwahaniaethol neu amhriodol.
  • Dillad wedi’u rhwygo
  • Clogynnau, sgarffiau neu eitemau eraill a allai atal staff rhag arsylwi ymwelwyr a charcharorion yn ddigonol.

Ni fydd unrhyw ymwelydd sydd ddim yn cydymffurfio â’r cod gwisg hwn yn cael mynd i mewn i Garchar Lincoln yn ôl disgresiwn y staff ymweliadau.

Bydd yr hysbysiad hwn yn cael ei arddangos yn y ganolfan ymwelwyr a bydd ar gael fel Atodiad i’r polisi ymweliadau.

Rhaid i ymwelwyr adael unrhyw eiddo yn eu cerbyd neu yn y Ganolfan Ymwelwyr ac eithrio’r eitemau a restrir isod:

  • Cerdyn neu arian parod (darnau arian yn unig) ar gyfer prynu lluniaeth
  • Meddyginiaeth (i’w gadw gan y staff ymweld at ddefnydd brys yn unig)
  • Dymis babanod
  • Potel babi gyda llaeth powdr sych (dŵr i gael ei gyflenwi gan y tîm lluniaeth) a jar o fwyd babi heb ei agor (nid gwydr).
  • Allwedd Locer
  • Yn achos Cynghorwyr Cyfreithiol neu ymwelwyr proffesiynol eraill, dogfennau a phapurau, sy’n cynnwys y dogfennau sydd eu hangen ar gyfer yr ymweliad.

Ni chaniateir mynd ag unrhyw offer recordio i’r ystafell ymweld heb ganiatâd penodol gan y Pennaeth Diogelwch.

Cyfleusterau ymweld

Mae gan Garchar Lincoln siop fach lle gallwch chi brynu bwyd a diod yn ystod ymweliadau penwythnos, neu gallwch chi archebu bwyd o ‘On a Roll’ cyn eich ymweliad a fydd yn cael ei ddanfon i’r carchar. Archebwch eich bwyd o’r wefan hon

Mae cyfleuster hefyd yn y Ganolfan Ymweliadau ar gyfer pryd eistedd i lawr ym mwyty hyfforddi ‘Berties’ yn ystod yr wythnos yn unig. Gall carcharorion uwch wneud cais am hyn. Dim ond gyda cherdyn y mae modd talu am y gwasanaeth hwn.

Mae gwasanaeth cownter hefyd ar gael i bob ymwelydd.

Mae man chwarae’r plant ar gael i’w ddefnyddio.

Diwrnodau teulu

Rydym ni’n cynnig ymweliadau teuluol unwaith y mis, ymweliadau estynedig yw’r rhain sydd yn aml â ffocws penodol ac mae carcharorion yn gwneud cais amdanynt yn fewnol.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweliadau teuluol, ffoniwch y llinell archebu ymweliadau neu Ymddiriedolaeth Gweithredu Swydd Lincoln i gael rhagor o wybodaeth.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Lincoln

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Lincoln.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Fideo’r Carchar
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau
  • Bod yn ymwelydd cymeradwy ar restr ymwelwyr y carcharor

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Sylwch fod rhestr galwadau a rhestr ymwelwyr carcharorion yn wahanol. Bydd angen i chi gael eich ychwanegu at y ddau er mwyn derbyn galwadau ac ymweld â charcharor.

Galwadau ffôn

Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu celloedd eto, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Lincoln drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Lincoln.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae carcharorion yn cael rhestr o eitemau y gallan nhw eu cael yn y carchar, a elwir yn ‘restr cyfleusterau’.

Ni all carcharorion sydd wedi’u dyfarnu’n euog gael unrhyw eitemau wedi’u postio na’u trosglwyddo a rhaid iddyn nhw gynnilo eu harian a’u prynu o’r catalog cymeradwy.

Gall dynion ar remánd sydd ddim wedi’u dyfarnu’n euog gael dillad wedi’u rhoi i mewn neu eu postio, ond dim ond nifer cyfyngedig. Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.   I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion. Cysylltwch â Charchar Lincoln i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Bywyd yng Ngharchar Lincoln

Mae Carchar Lincoln wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau, gan gynnwys gweithdai, addysg a chyrsiau galwedigaethol.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Lincoln hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Mae Cynllun Gwrandawyr, mentoriaid carchar a chynlluniau cymorth gan gymheiriaid i helpu llesiant. Mae cwnsela ar gael ar gyfer dibyniaeth.

Mae gweithdai elusennau ar gael ac mae llawer o gysylltiadau cymunedol, er enghraifft, gwirfoddolwyr sy’n helpu gydag ymweliadau teuluol.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Lincoln am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Lincoln yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a chymheiriaid (a elwir yn ‘Breswylwyr’) a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pob carcharor yn cael swyddog gweithiwr allweddol sy’n cwrdd â nhw bob wythnos i fonitro cynnydd a thrafod unrhyw broblemau. Mae carcharorion hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 650 o garcharorion yn byw yng Ngharchar Lincoln ar draws 4 prif adain breswyl. Mae gan adenydd A, B ac C gymysgedd o garcharorion tra bo adain E yn dal unrhyw garcharorion sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed.

Mae cawodydd, ffonau, tostwyr a gweithgareddau hamdden, fel pŵl a thenis bwrdd ar gael ym mhob adain.

Addysg a gwaith

Mae Lincoln yn cynnig ystod eang o addysg, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, yn ogystal â chyrsiau galwedigaethol mewn peintio ac addurno a gosod brics.

Mae gweithdai teilwra, golchdy a chanolfan ailgylchu lle gall carcharorion ennill cymwysterau cydnabyddedig.

Rhyddhau dros dro

Nid oes rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL) yn Lincoln.

Sefydliadau y mae Carchar Lincoln yn gweithio gyda nhw

Mae Lincoln yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Shelter ac Ymddiriedolaeth Gweithredu Swydd Lincoln sy’n cynnig cefnogaeth ailsefydlu amrywiol. Mae cefnogaeth yn cael ei gynnig gyda chyflogaeth, llety, iechyd meddwl a chorfforol a gwasanaethau cymorth cyffuriau yn y gymuned.

Cefnogaeth yng Ngharchar Lincoln

Rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Gweithredu Swydd Lincoln i blant a theuluoedd person sydd yn y carchar.

Ffôn: 01522 663 355

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01522 663 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01522 663287 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at [email protected] neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi unrhyw broblem gydag unrhyw agwedd ar y carchar, ysgrifennwch at lywodraethwr y carchar.

Cysylltu â Charchar Lincoln

Llywodraethwr: Colin Hussey

Ffôn: 01522 663 000
24 awr
Ffacs: 01522 663 001
Gwybodaeth am gost galwadau

Dilynwch Garchar Lincoln ar Twitter/X

Cyfeiriad

HMP/YOI Lincoln
Greetwell Road
Lincoln
LN2 4BD

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. Added Christmas period visiting times

  2. Social and legal visits updated.

  3. Updated Governor

  4. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  5. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  6. Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.

  7. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  8. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  9. New visiting times and booking information added.

  10. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  11. visit info

  12. Updated visit info

  13. Updated visit info

  14. Updated visit info

  15. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  16. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  17. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  18. Updated dress code

  19. Updates to entering and visits sections

  20. updated survey

  21. First published.

Print this page