Cosbau Treth Deunydd Pacio Plastig
Dysgwch pryd gallwch gael cosb Treth Deunydd Pacio Plastig, faint gellid codi arnoch, a sut mae cosb yn cael ei chyfrifo.
Os byddwch yn methu cofrestru neu’n cofrestru’n hwyr
Gall CThEF godi cosb am ‘Methiant i hysbysu’ os na fyddwch yn cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig neu os byddwch yn cofrestru’n hwyr.
Mae’r gosb byddwn yn ei chyfrifo yn ganran o’r refeniw a gollwyd o bosibl. Dyma ganran o swm y Dreth Deunydd Pacio Plastig sydd heb ei dalu oherwydd methiant i hysbysu.
Wrth gyfrifo swm y gosb, byddwn yn ystyried y canlynol:
- beth oedd achos y methiant
- p’un a wnaethoch roi gwybod i ni am y methiant cyn i ni ddod o hyd iddo
- faint o gymorth a roddoch chi i ni
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am fethiant i hysbysu os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- bod gennych esgus rhesymol
- nid oedd y methiant yn fwriadol
- rhoesoch wybod i ni heb oedi afresymol ar ôl i’ch esgus rhesymol ddod i ben
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yng nghanllaw, Gwiriadau cydymffurfio: Cosbau am fethu â hysbysu - CC/FS11.
Mewn rhai achosion, os na fyddwch yn cofrestru pan ddylech wneud hynny, a bod yna dystiolaeth o anghydymffurfio difrifol ac nad oes gennych esgus rhesymol, byddwch yn cyflawni trosedd.
Os cewch eich euogfarnu, gallech wynebu cyfnod o garchar hyd at 12 mis (6 mis yng Ngogledd Iwerddon). Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r naill neu’r ddau o’r canlynol:
- dirwy hyd at £20,000
- teirgwaith swm y dreth a gollwyd o bosibl
Os byddwch yn methu â chyflwyno Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig neu’n cyflwyno’n hwyr
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig erbyn diwrnod gwaith olaf y mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu fan bellaf. Efallai y codir cosb arnoch os na wnewch hyn.
Efallai y codir cosb o £100 arnoch y tro cyntaf y byddwch yn cyflwyno Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig yn hwyr, a chodir cosbau ychwanegol ar unrhyw Ffurflenni Treth Deunydd Pacio Plastig pellach sy’n hwyr.
Os byddwch yn cyflwyno:
- ail Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig yn hwyr cyn pen 12 mis i’r Ffurflen hwyr flaenorol — codir cosb o £200 arnoch
- trydedd Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig yn hwyr cyn pen 12 mis i’r Ffurflen hwyr flaenorol — codir cosb o £300 arnoch
- pedwaredd Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig yn hwyr cyn pen 12 mis i’r Ffurflen hwyr flaenorol — codir cosb o £400 arnoch
Os oedd eich cosb ddiwethaf am gyflwyno’n hwyr yn £400, a’ch bod chi’n cyflwyno Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig yn hwyr eto cyn pen 12 mis i’r Ffurflen hwyr ddiweddaraf, codir cosb o £400 arnoch.
Os cewch gosb am gyflwyno Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig yn hwyr, ac wedyn yn cyflwyno’r pedair Ffurflen nesaf mewn pryd ac wedi hynny’n cyflwyno’r Ffurflen nesaf yn hwyr, codir cosb o £100 arnoch eto.
Os bydd eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig 6 mis yn hwyr
Os na fyddwch yn cyflwyno Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig cyn pen 6 mis i’r dyddiad dyledus, codir cosb bellach arnoch. Bydd y gosb p’run bynnag sydd fwyaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- 5% o’r hyn sydd arnoch ar gyfer cyfnod y Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig honno
- £300
Os bydd eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig 12 mis yn hwyr
Os na fyddwch yn cyflwyno Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig cyn pen 12 mis i’r dyddiad dyledus, codir cosb bellach arnoch. Bydd y gosb p’run bynnag sydd fwyaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- 5% o’r hyn sydd arnoch ar gyfer cyfnod y Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig honno
- £300
Os byddwn o’r farn eich bod chi wedi dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol, a byddai’r wybodaeth honno wedi ein helpu i gyfrifo faint sydd arnoch, gallwch fod yn agored i gosb hyd at 100% o’r hyn sydd arnoch.
Os byddwch yn talu’n hwyr
Os na fyddwch yn talu swm y dreth sydd arnoch yn llawn erbyn y dyddiad cau, sef diwrnod gwaith olaf y mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu, codir cosb o 5% o’r swm gorddyledus arnoch.
Codir cosbau pellach am dalu’n hwyr ar gyfradd o 5% o’r dreth sydd arnoch os na fyddwch, o hyd, wedi talu’r dreth ar ôl:
- 5 mis
- 11 mis
Os nad yw’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig neu’ch dogfennau’n gywir
Gellir codi cosb arnoch os byddwch yn cyflwyno Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig sy’n anghywir neu ddogfennau eraill sy’n anghywir, a bod hyn:
- yn arwain at dreth heb ei thalu, treth wedi’i thanddatgan neu’i gor-hawlio
- yn weithred ddiofal, fwriadol neu’n fwriadol ac wedi’i chuddio
Bydd y gosb yn cael ei chyfrifo fel canran o’r refeniw a gollwyd o bosibl. Dyma swm ychwanegol y dreth sy’n ddyledus o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb.
Wrth gyfrifo swm y gosb, byddwn yn ystyried y canlynol:
- beth achosodd yr anghywirdeb
- p’un a wnaethoch roi gwybod i ni am yr anghywirdeb cyn i ni ddod o hyd iddo
- faint o gymorth a roddoch chi i ni
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb os gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn. Darllenwch yr adran ‘Diwygio Ffurflen Dreth flaenorol’ o’r Cyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig i ddod o hyd i sut i newid Ffurflen Dreth.
Dod o hyd i’r cosbau y gall CThEF eu codi am anghywirdebau mewn Ffurflen Dreth.
Os na fyddwch yn bodloni gofyn arall ar gyfer y dreth
Gellir codi cosb benodedig o £500 arnoch os na wnewch chi’r canlynol:
- cadw eich gwybodaeth gofrestru’n ddiweddar
- cyfrifyddu a thalu’r dreth yn gywir
- cadw cofnodion
- rhoi gwybod i CThEF os byddwch yn cymryd busnes cofrestredig drosodd o ganlyniad i farwolaeth, analluogrwydd neu ansolfedd y person cofrestredig
- cydymffurfio â hysbysiadau o asesiad o rwymedigaeth eilaidd
- cydymffurfio â hysbysiadau o rwymedigaeth ar y cyd ac unigol
- cadw’ch gwybodaeth gofrestru’n ddiweddar ar gyfer cofrestru’ch grŵp o gwmnïau
Cosbau pellach
Yn dilyn y gosb benodedig hon, codir cosb ddyddiol o £40 hyd nes y byddwch yn bodloni’r gofyn o ran treth.
Beth i’w wneud os nad ydych yn cytuno â chosb
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynghylch cosb, bydd y llythyr yn cynnwys cynnig adolygiad a gwybodaeth ar sut y gallwch apelio i’r tribiwnlys treth.
Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- derbyn y cynnig o adolygiad drwy ysgrifennu atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad ar y llythyr o benderfyniad
- apelio i’r tribiwnlys treth
Efallai na fydd angen i chi dalu peth o’r gosb, neu’r cyfan ohoni, os byddwn yn cytuno ar y canlynol:
- bod gennych esgus rhesymol dros gyflwyno Ffurflen Dreth yn hwyr neu dalu treth yn hwyr — dysgwch ragor am esgusodion rhesymol (yn Saesneg)
- eich bod chi wedi methu â bodloni gofyn perthnasol
- cymeroch ofal rhesymol i osgoi cyflwyno ffurflen dreth sy’n anghywir
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 14 Ebrill 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Medi 2023 + show all updates
-
Guidance added on what to do if you do not agree with a penalty decision. You can either accept the offer of a review, by writing to us at the address on the decision letter, or appeal to the tax tribunal.
-
Welsh translation added.
-
First published.