Talu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig
Sut i dalu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Pryd i dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn diwedd y cyfnod treth, fan bellaf.
Byddwch yn cael gwybod faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Gallwch ddod o hyd i hwn yn un o’r mannau canlynol:
-
yn eich cyfrif ar-lein CThEF — bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru
-
ar y llythyr y mae CThEF wedi’i anfon atoch
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:
-
bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir
-
byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad
Os bydd angen i chi dalu cosb Treth Deunydd Pacio Plastig
Bydd angen cyfeirnod y tâl arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag X, i wneud taliad. Gallwch ddod o hyd iddo ar y llythyr a anfonom atoch ynghylch eich cosb.
Talu ar-lein
Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:
- cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
- Debyd Uniongyrchol
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ar gyfer talu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.
Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol
Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF.
Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am y cyfrif.
Gallwch hefyd ei ddefnyddio i wneud y canlynol:
-
newid neu ganslo eich Debyd Uniongyrchol
-
bwrw golwg dros y dyddiad y bydd CThEF yn casglu’ch taliad
Ni fydd y Debyd Uniongyrchol yn casglu taliadau ar gyfer Ffurflenni Treth sydd dros £20 miliwn. Os oes arnoch fwy, bydd angen i chi dalu drwy ddull arall.
Talu’ch bil yn awtomatig
Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig. Dim ond unwaith y bydd angen i chi drefnu’r Debyd Uniongyrchol.
Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.
Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.
Bydd taliadau’n cael eu casglu’n awtomatig o’ch cyfrif banc. Mae hyn fel arfer 4 diwrnod ar ôl dyddiad dyledus eich Ffurflen Dreth a’ch taliad. Byddwn yn anfon neges atoch gyda’r union ddyddiad a’r union swm ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn hwyr, bydd eich taliad fel arfer yn cael ei gymryd 4 diwrnod ar ôl i chi gyflwyno’r Ffurflen Dreth.
Ni all y Debyd Uniongyrchol gasglu unrhyw log neu gosbau sydd arnoch.
Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif banc yn y DU:
- cod didoli — 08 32 10
- rhif y cyfrif — 12529599
- enw’r cyfrif — HMRC General Business Tax Receipts
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
- rhif y cyfrif (IBAN) — GB86 BARC 2005 1740 2043 74
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
- enw’r cyfrif — HMRC General Business Tax Receipts
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Gwneud cais am ad-daliad o dreth
Gallwch wneud cais am ad-daliad o Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych wedi talu gormod i mewn i’ch cyfrif.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
- cyfeirnod
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Medi 2024 + show all updates
-
The payment details used to pay by bank transfer have been updated.
-
Information about checking with your bank to make sure your payment has left your account has been added.
-
Guidance about the character references you need to use when paying Plastic Packaging Tax and any penalties has been updated.
-
Approve a payment through your online bank account has been updated to say that you can select a date to pay, as long as it's before your payment is due.
-
Guidance about the different ways you can make a payment online has been updated.
-
Translation added.
-
Details of the information you need to pay a Plastic Packaging Tax penalty has been added.
-
Content has been removed from the 'When to pay' section. Information about 'If you do not submit your return or pay on time' has also been removed. This is to prevent unnecessary duplication.
-
You will need your 14 character charge reference number starting with an X to make a payment.
-
The account name for online or telephone banking, CHAPS or Bacs and overseas payments has been updated.
-
Added translation