Diogelu eich cwmni rhag dwyn hunaniaeth gorfforaethol
Sut y gall y cynllun Protected Online Filing (PROOF) eich helpu i atal newidiadau twyllodrus i’ch cwmni.
Mae’r gwasanaeth di-dâl hwn yn gadael ichi ddiogelu’ch cwmni rhag newidiadau anawdurdodedig i’ch cofnodion. Mae’n atal ffeilio rhai ffurflenni papur penodol, gan gynnwys:
- newidiadau i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig
- newidiadau i’ch swyddogion (penodiadau, ymddiswyddiadau neu fanylion personnol)
- newid enw’r cwmni trwy benderfyniad
Mae’n bwysig bod cofnodion eich cwmni’n gywir oherwydd weithiau cânt eu defnyddio i wirio ei ddilysrwydd os ydych yn gwneud cais am fenthyciad.
Mae’n hysbys bod twyllwyr yn herwgipio cwmni trwy newid manylion cyfarwyddwyr a swyddfa gofrestredig y cwmni. Mae hyn yn gadael y cwmni’n agored i ragor o dwyll.
Mae Tŷ’r Cwmnïau yn delio ag oddeutu 50-100 o achosion o ddwyn hunaniaeth gorfforaethol bob mis. Os ydych chi’n amau gweithgarwch twyllodrus yn erbyn cwmni dylech roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am hyn.
Ymuno â PROOF
Ymuno â PROOF gan ddefnyddio gwasanaeth ffeilio ar-lein Tŷ’r Cwmnïau. . Mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru am ffeilio ar-lein.
Ar ôl i chi mewngofnodi, cwblhewch y camau canlynol:
- dewiswch y ddolen ‘Ymuno â PROOF’ ochr yn ochr â’r clo clap ar frig y sgrin trosolwg
- cytuno â’r amodau a thelerau
- dewis ‘Diogelwch y cwmni hwn’
Byddwn yn anfon neges e-bost atoch i gadarnhau bod eich cais wedi llwyddo.
Unwaith eich bod wedi ymuno, dim ond ar-lein gallwch chi ffeilio’r ffurflenni mae cynllun PROOF yn eu cwmnpasu, felly:
- dywedwch wrth unrhyw un sy’n ffeilio dogfennau dros eich cwmni eich bod yn ymuno â PROOF
- rhowch iddynt y codau dilysu y bydd eu hangen i ffeilio ar lein
Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw fersiynau papur o’r ffurflenni ac yn eu gyrru’n ôl i gyfeiriad y swyddfa.
Gallwch ymadael â chynllun PROOF ar unrhyw bryd
Gwyliwch fideo arddangos yn Saesneg i weld sut i ymuno â PROOF
Fideo arddangos yn Saesneg i weld sut i ymuno â PROOF
Gwirio a ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer PROOF
Mae statws eich cwmni o ran PROOF yn cael ei ddangos ar ei sgrin trosolwg ar lein ac:
- rydych wedi’ch cofrestru ar gyfer PROOF os yw’r eicon clo clap wedi’i gloi
- nid ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer PROOF os yw’r eicon clo clap ar agor
- mae’ch cais ar y gweill os oes eicon cloc
Pryd allwch chi ddim ymuno â PROOF
Os oes gan eich cwmni anghydfod mewnol sy’n dal i fynd ymlaen rhwng ei swyddogion, ni fyddwch yn gallu ymuno â PROOF hyd nes iddo gael ei ddatrys.
Gadael gwasanaeth PROOF
Er mwyn gadael y gwasanaeth dewiswch y ddolen ‘Ymadewch â PROOF’ ar frig sgrin trosolwg ar lein eich cwmni. Byddwch yn cael neges e-bost yn cadarnhau eich bod wedi gadael y gwasanaeth.
Ar ôl ichi adael y gwasanaeth ni fydd eich cwmni’n cael ei ddiogelu mwyach rhag ffeilio dogfennau papur yn dwyllodrus. Gall y Cofrestrydd hefyd derfynu’r cytundeb ar unwaith o dan gymal 8.2 o delerau ac amodau PROOF.
Ffurflenni sy’n cael eu cynnwys yng nghynllun PROOF
Ffurflenni cwmnïau cyfyngedig
Ffurflen | Disgrifiad |
---|---|
AR01c | Ffurflen Flynyddol |
AP01c | Penodi cyfarwyddwr |
AP02c | Penodi cyfarwyddwr corfforaethol |
AP03c | Penodi ysgrifennydd |
AP04c | Penodi ysgrifennydd corfforaethol |
CH01c | Newid manylion cyfarwyddwr |
CH02c | Newid manylion cyfarwyddwr corfforaethol |
CH03c | Newid manylion yesgrifennydd |
CH04c | Newid manylion ysgrifennydd corfforaethol |
TM01c | Terfynu penodiad cyfarwyddwr |
TM02c | Terfynu penodiad ysgrifennydd |
AD01c | Newid cyfeiriad y swyddfa gofrestredig |
NM01c | Newid enw cwmni |
Newid enw’r cwmni trwy benderfyniad arbennig |
Ffurflenni partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC)
Ffurflen | Disgrifiad |
---|---|
LL AR01c | Ffurflen Flynyddol |
LL AP01c | Penodi aelod |
LL AP02c | Penodi aelod corfforaethol |
LL CH01c | Newid manylion aelod |
LL CH02c | Newid manylion aelod corfforaethol |
LL TM01c | Terfynu penodiad aelod |
LL AD01c | Newid cyfeiriad y swyddfa gofrestredig |
Ym mis Mehefin 2016, wnaeth y datganiad cadarnhad cymryd lle’r ffurflen flynyddol. Nid yw’r ffurflenni hyn yn y cynllun PROOF.
Mae pob dogfen arall yn cael ei derbyn ar bapur os caiff ei chyflwyno gan gwmni sy’n aelod o gynllun PROOF.
FFfeilio ffurflenni papur sydd wedi’u cynnwys yng nghynllun PROOF
Os oes angen ichi ffeilio un o’r ffurflenni sydd wedi’u cynnwys yng nghynllun PROOF ar bapur a chithau wedi’ch cofrestru ar gyfer PROOF o hyd, bydd angen ichi lenwi ffurflen ganiatâd bapur.
Ni ddylech ddefnyddio ffurflen ganiatâd bapur ond os yw’n gwbl angenrheidiol. Gweler telerau ac amodau PROOF i gael mwy o wybodaeth.
Ffoniwch ganolfan gyswllt Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500 i ofyn am ffurflen ganiatâd bapur.
Amodau a thelerau PROOF
Mae’r cofrestrydd cwmnïau’n rhedeg cynllun PROOF o dan gytundeb o dan adran 1070 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Mae unrhyw gwmni sy’n ymuno â chynllun PROOF yn gwneud hynny ar y telerau a nodir yn nhelerau ac amodau cynllun PROOF.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mai 2021 + show all updates
-
NM01 and change of name by special resolution added to the PROOF service.
-
Updated PROOF T & C
-
Terms and conditions updated due to new insolvency rules.
-
Note added that confirmation statement won't be in PROOF scheme.
-
Leaving PROOF guidance updated.
-
Welsh translation added
-
First published.