Tŷ’r Cwmnïau: canllawiau iaith Gymraeg i gwmnïau cyfyngedig, partneriaethau a mathau eraill o gwmnïau
Casgliad o ganllawiau Cymreig ar gofrestru, ffeilio a datgelu gwybodaeth gyda Thŷ'r Cwmnïau.
Gwasanaethau ar-lein
Dysgwch am fanteision ein gwasanaethau ffeilio ar-lein, a sut i:
- anfon eich gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau ar-lein
- cofrestru ar gyfer nodiadau atgoffa e-bost
- anfon eich gwybodaeth ar-lein gan ddefnyddio meddalwedd
- cael cod dilysu i ffeilio ar-lein
Dechrau cwmni
Gwybodaeth a chyngor am:
- sut i ymgorffori cwmni cyfyngedig
- y math o gwmni yr hoffech ei ymgorffori
- swyddogion y cwmni
- dewis enw cwmni gan gynnwys rheolaethau a chyfyngiadau
- datgelu enw’r cwmni a gwybodaeth arall
Rhedeg cwmni
Gwybodaeth y mae angen i gwmnïau’r DU ei ffeilio, gan gynnwys canllawiau ar:
- cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion
- penderfyniadau
- newid cyfansoddiad
- cyfalaf cyfranddaliadau
- ailgofrestru
- cofnodion cwmni
Ffeilio blynyddol
Canllawiau ar:
- y datganiad cadarnhau
- dyddiadau cyfeirio cyfrifyddu
- cofnodion cyfrifyddu
- mathau o gyfrifon
Pobl sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
Taliadau morgais
Sut i:
- cofrestru tâl newydd yn Nhŷ’r Cwmnïau
- dweud wrthym am unrhyw rai rydych wedi’u talu
- cofrestru fel benthyciwr i ffeilio taliadau ar-lein
- gwneud cais i gywiro tâl
Cau ac adfer cwmni
Gwybodaeth i gyfarwyddwyr, ysgrifenyddion neu gynghorwyr cwmni ar sut i ddiddymu cwmni neu adfer cwmni i’r gofrestr.
Yn cynnwys gwybodaeth am:
- pam y gall cwmni wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr
- pam na all cwmni wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr
- sut i wneud cais a phwy i ddweud wrtho
- sut y cyhoeddir hysbysiadau dileu ac adfer yn y Gazette
- tynnu cais dileu yn ôl
- gwrthwynebu diddymu cwmni
- troseddau a chosbau
- beth sy’n digwydd i gwmnïau nad ydynt yn gweithredu mwyach
- sut i adfer cwmni i’r gofrestr drwy orchymyn llys neu waith adfer gweinyddol
Cosbau ffeilio hwyr
Sut y bydd cosb ffeilio hwyr yn cael ei gosod os na chaiff cyfrifon eich cwmni eu ffeilio’n brydlon a sut i apelio yn erbyn cosb.
Mae’r canllawiau’n esbonio:
- cosbau ffeilio hwyr
- sut i osgoi derbyn cosb ffeilio hwyr
- beth i’w wneud pan fydd cosb ffeilio hwyr wedi’i osod
- sut i apelio yn erbyn cosb ffeilio hwyr
Rheolau a phwerau'r cofrestrydd
Mae’r canllaw hwn yn amlinellu pwerau cofrestrydd cwmnïau yn unol â Rhan 35 o Ddeddf Cwmnïau 2006, sydd hefyd yn berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig.
Mae’r canllawiau’n esbonio:
- pwerau’r cofrestrydd sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth
- pwerau’r cofrestrydd i ddiwygio’r gofrestr
- pwerau eraill y cofrestrydd
Diogelu eich gwybodaeth bersonol
Canllawiau ar y gofrestr gyhoeddus, gan gynnwys:
- beth yw’r gofrestr gyhoeddus
- pa wybodaeth rydym yn ei darparu i’r cyhoedd am ddim
- sut y gall y cyhoedd gael gafael ar wybodaeth
- am ba hyd y bydd eich gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd
- sut i gyfyngu mynediad i’ch gwybodaeth
Diddymiad ac ansolfedd
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi trosolwg sylfaenol o achosion ansolfedd a diddymiad ac yn crynhoi rhai o’r rheolau sy’n berthnasol i:
- trefniadau gwirfoddol cwmnïau
- moratoria
- gweinyddiaethau
- derbynwyr
- diddymiadau gwirfoddol
- diddymiadau gorfodol
Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC)
Hygyrchedd ac addasiadau rhesymol
Cwmnïau Ewropeaidd a thramor
Ni ellir cofrestru rhai endidau Ewropeaidd a ffurfiwyd o dan gyfraith yr UE yn y DU mwyach. Mae’r gofynion ffeilio ar gyfer cwmni yn y DU neu PAC gyda swyddogion corfforaethol yr EEA wedi newid. Rhaid i chi yn awr ddarparu’r canlynol i’r swyddog corfforaethol:
- enw
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig (neu brif swyddfa)
- ffurf gyfreithiol a’i chyfraith lywodraethol
- cofrestr a rhif cofrestru (os yw’n berthnasol)
Anghysondebau
Gofynion ffeilio ar bapur
Gweminarau
Mae ein gweminarau byw wedi’u cynllunio i roi arweiniad cyflym a defnyddiol i chi ar amrywiaeth o bynciau, ar adeg ac mewn lle o’ch dewis.
Yn ystod y weminar, gallwch ofyn cwestiynau i ni gan ddefnyddio’r blwch testun ar y sgrin. Bydd ein tîm o arbenigwyr ar-lein yn gwneud eu gorau i ateb eich holl ymholiadau, neu’n eich cyfeirio at ganllawiau defnyddiol.