Canllawiau

Cyfraddau a throthwyon ar gyfer cyflogwyr am 2021 i 2022

Defnyddiwch y cyfraddau a’r trothwyon hyn pan fyddwch yn gweithredu’ch cyflogres neu’n darparu treuliau a buddiannau i'ch cyflogeion.

Oni nodir yn wahanol, mae’r ffigurau canlynol yn berthnasol rhwng 6 Ebrill 2021 a 5 Ebrill 2022.

Treth TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

Fel arfer rydych yn gweithredu TWE fel rhan o’ch cyflogres er mwyn i CThEM allu casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol gan eich cyflogeion.

Bydd eich meddalwedd cyflogres yn cyfrifo faint o dreth ac Yswiriant Gwladol i’w didynnu o gyflog eich cyflogeion.

Trothwyon treth, cyfraddau a chodau

Mae faint o Dreth Incwm rydych yn ei didynnu oddi ar eich cyflogeion yn dibynnu ar eu cod treth a faint o’u hincwm trethadwy sydd uwchlaw eu Lwfans Personol.

Lloegr a Gogledd Iwerddon

Cyfraddau a throthwyon treth TWE 2021 i 2022
Lwfans personol cyflogai £242 yr wythnos
£1,048 y mis
£12,570 y flwyddyn
Cyfradd dreth sylfaenol Lloegr a Gogledd Iwerddon 20% ar enillion blynyddol sydd uwchlaw’r trothwy treth TWE a hyd at £37,700
Cyfradd dreth uwch Lloegr a Gogledd Iwerddon 40% ar enillion blynyddol o £37,701 i £150,000
Cyfradd dreth ychwanegol Lloegr a Gogledd Iwerddon 45% ar enillion blynyddol dros £150,000

Yr Alban

Cyfraddau a throthwyon treth TWE 2021 i 2022
Lwfans personol cyflogai £242 yr wythnos
£1,048 y mis
£12,570 y flwyddyn
Cyfradd dreth cychwyn yr Alban 19% ar enillion blynyddol sy’n uwch na’r trothwy treth TWE a hyd at £2,097
Cyfradd dreth sylfaenol yr Alban 20% ar enillion blynyddol o £2,098 i £12,726
Cyfradd dreth ganolradd yr Alban 21% ar enillion blynyddol o £12,727 i £31,092
Cyfradd dreth uwch yr Alban 41% ar enillion blynyddol o £31,093 i £150,000
Cyfradd dreth uchaf yr Alban 46% ar enillion blynyddol dros £150,000

Cymru

Cyfraddau a throthwyon treth TWE 2021 i 2022
Lwfans personol cyflogai £242 yr wythnos
£1,048 y mis
£12,570 y flwyddyn
Cyfradd dreth sylfaenol Cymru 20% ar enillion blynyddol sy’n uwch na’r trothwy treth TWE a hyd at £37,700
Cyfradd dreth uwch Cymru 40% ar enillion blynyddol o £37,701 i £150,000
Cyfradd dreth ychwanegol Cymru 45% ar enillion blynyddol dros £150,000

Codau treth dros dro

Dyma’r codau treth dros dro o 6 Ebrill 2021 ymlaen:

  • 1257L W1
  • 1257L M1
  • 1257L X

Dysgwch ragor am godau treth dros dro.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

Dim ond ar enillion sy’n uwch na’r terfyn enillion isaf y cewch wneud didyniadau Yswiriant Gwladol.

Trothwyon Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 2021 i 2022
Terfyn enillion isaf £120 yr wythnos
£520 y mis
£6,240 y flwyddyn
Prif drothwy £184 yr wythnos
£797 y mis
£9,568 y flwyddyn
Trothwy eilaidd £170 yr wythnos
£737 y mis
£8,840 y flwyddyn
Trothwy eilaidd uchaf (o dan 21) £967 yr wythnos
£4,189 y mis
£50,270 y flwyddyn
Trothwy eilaidd uchaf i brentis (prentis o dan 25 oed) £967 yr wythnos
£4,189 y mis
£50,270 y flwyddyn
Trothwy eilaidd uchaf i gyn-filwr £967 yr wythnos
£4,189 y mis
£50,270 y flwyddyn
Terfyn enillion uchaf £967 yr wythnos
£4,189 y mis
£50,270 y flwyddyn

Cyfradd Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

Cyfraddau cyfraniadau (sylfaenol) y cyflogai

Didynnwch gyfraniadau sylfaenol (Yswiriant Gwladol y cyflogai) o gyflog eich cyflogeion drwy’r system TWE.

Llythyr categori Yswiriant Gwladol Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y prif drothwy Enillion uwchlaw’r prif drothwy hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf
A 0% 12% 2%
B 0% 5.85% 2%
C sero sero sero
H (prentis o dan 25) 0% 12% 2%
J 0% 2% 2%
M (o dan 21) 0% 12% 2%
V (cyn-filwr) 0% 12% 2%
Z (o dan 21 – gohirio) 0% 2% 2%

Cyfraddau cyfraniadau (eilaidd) y cyflogwr

Rydych yn talu cyfraniadau eilaidd (Yswiriant Gwladol y cyflogwr) i CThEM fel rhan o’ch bil TWE.

Talu treth TWE ac Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

Llythyr categori Yswiriant Gwladol Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd Enillion uwchlaw’r trothwy eilaidd hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf, y trothwy eilaidd uchaf, y trothwy eilaidd uchaf i brentis Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf, y trothwy eilaidd uchaf, y trothwy eilaidd uchaf i brentis
A 0% 13.80% 13.80%
B 0% 13.80% 13.80%
C 0% 13.80% 13.80%
H (prentis o dan 25) 0% 0% 13.80%
J 0% 13.80% 13.80%
M (o dan 21) 0% 0% 13.80%
Z (o dan 21 – gohirio) 0% 0% 13.80%

Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: treuliau a buddion

Mae’n rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddion gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion, er enghraifft ffôn symudol cwmni. Rydych yn rhoi gwybod ac yn talu Dosbarth 1A ar dreuliau a buddion ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.

Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar swm y dyfarniadau terfynu a dalwyd i gyflogeion sy’n fwy na £30,000 ac ar swm y taliadau tystebau chwaraeon sy’n cael eu talu gan bwyllgorau annibynnol sydd uwchlaw £100,000. Rydych yn adrodd ac yn talu Dosbarth 1A ar y mathau hyn o daliadau yn ystod y flwyddyn dreth fel rhan o’ch cyflogres.

Dosbarth Yswiriant Gwladol cyfradd 2021 i 2022
Dosbarth 1A 13.8%

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A cyflogwyr.

Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B: Cytundebau Setliadau TWE (PSA)

Rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B os oes gennych PSA. Mae Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn eich caniatáu i wneud taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth a’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.

Dosbarth Yswiriant Gwladol 2021 to 2022 rate
Dosbarth 1B 13.8%

Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B.

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r isafswm cyflog yr awr mae bron pob gweithiwr â hawl iddo yn ôl y gyfraith. Defnyddiwch y cyfrifiannell Isafswm Cyflog Cenedlaethol i wirio a ydych yn talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i weithiwr neu a oes arnoch daliadau iddynt o flynyddoedd blaenorol.

Mae’r cyfraddau isod yn gymwys o 1 Ebrill 2021 ymlaen.

Categori’r gweithiwr Cyfradd fesul awr
23 oed neuʼn hŷn (cyfradd gyflog byw cenedlaethol) £8.91
21 i 22 oed yn gynwysedig £8.36
18 i 20 oed yn gynwysedig £6.56
O dan 18 oed (ond yn hŷn na’r oedran gadael ysgol gorfodol) £4.62
Prentisiaid o dan 19 oed £4.30
Prentisiaid 19 oed ac yn hŷn, ond ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth £4.30

Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol, Tâl Rhieni ar y Cyd Statudol a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth.

Defnyddiwch y cyfrifiannell mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth i gyflogwyr i gyfrifo’r canlynol ar gyfer eich cyflogeion:

  • Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
  • Tâl Tadolaeth neu Fabwysiadu
  • wythnos gymhwysol
  • enillion wythnosol cyfartalog
  • cyfnod absenoldeb

Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 4 Ebrill 2021 ymlaen.

Y math o daliad neu adferiad cyfradd 2021 i 2022
SMP – y gyfradd wythnosol am y 6 wythnos gyntaf 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai
SMP – y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddill £151.97 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf
Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) – cyfradd wythnosol £151.97 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf
Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) – y gyfradd wythnosol am y 6 wythnos gyntaf 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai
SAP – y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddill £151.97 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai pa un bynnag sydd isaf
Tâl Statudol Rhieni ar y Cyd (ShPP) – cyfradd wythnosol £151.97 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag yw’r isaf
Tâl Statudol i Rieni mewn Profedigaeth (SPBP) – cyfradd wythnosol £151.97 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf
SMP, SPP, ShPP, SAP neu SPBP – cyfran o’ch taliadau y gallwch ei hadfer oddi wrth CThEM 92% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (cyfraniadau cyflogeion a chyflogwyr) yn fwy na £45,000 am y flwyddyn dreth flaenorol

103% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn £45,000 neu lai am y flwyddyn dreth flaenorol

Tâl Salwch Statudol (SSP)

Mae’r un cyfradd wythnosol o Dâl Salwch Statudol yn gymwys i bob cyflogai. Fodd bynnag, mae’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu mewn gwirionedd i’r cyflogai am bob diwrnod y maent yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch (y gyfradd ddyddiol) yn dibynnu ar nifer y ‘diwrnodau cymhwysol’ maent yn gweithio bob wythnos

Defnyddiwch y cyfrifiannell SSP i gyfrifo tâl salwch eich cyflogai, neu ddefnyddiwch y cyfraddau hyn.

Cyfraddau dyddiol heb eu talgrynnu Nifer y diwrnodau cymhwysol yn ystod yr wythnos 1 diwrnod i’w dalu 2 ddiwrnod i’w talu 3 diwrnod i’w talu 4 diwrnod i’w talu 5 diwrnod i’w talu 6 diwrnod i’w talu 7 diwrnod i’w talu
£13.7642 7 £13.77 £27.53 £41.30 £55.06 £68.83 £82.59 £96.35
£16.0583 6 £16.06 £32.12 £48.18 £64.24 £80.30 £96.35  
£19.2700 5 £19.27 £38.54 £57.81 £77.08 £96.35    
£24.0875 4 £24.09 £48.18 £72.27 £96.35      
£32.1166 3 £32.12 £64.24 £96.35        
£48.1750 2 £48.18 £96.35          
£96.35 1 £96.35            

Ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig

Os yw enillion eich cyflogeion uwchlaw’r trothwy enillion, cofnodwch eu benthyciad myfyriwr a’u didyniadau benthyciad ôl-raddedig yn eich meddalwedd cyflogres. Bydd yn cyfrifo ac yn didynnu ad-daliadau o’u cyflog yn awtomatig.

Cyfradd neu drothwy cyfradd 2021 i 2022
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 1 £19,895 y flwyddyn
£1,657.91 y mis
£382.59 yr wythnos
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 2 £27,295 y flwyddyn
£2,274.58 y mis
£524.90 yr wythnos
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 4 £25,000 y flwyddyn
£2,083.33 y mis
£480.76 yr wythnos
Didyniadau Benthyciad Myfyrwyr 9%
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad ôl-raddedig £21,000 y flwyddyn
£1,750.00 y mis
£403.84 yr wythnos
Didyniad Benthyciad Ôl-raddedig 6%

Ceir cwmni: cyfraddau tanwydd ymgynghorol

Defnyddiwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol i gyfrifo costau milltiroedd os ydych yn darparu ceir cwmni i’ch cyflogeion.

Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Mawrth 2021 ymlaen.

Maint yr injan Petrol – swm y filltir LPG – swm y filltir
1400cc neu lai 10 ceiniog 7 ceiniog
1401cc i 2000cc 12 ceiniog 8 ceiniog
Dros 2000cc 18 ceiniog 12 ceiniog
Maint yr injan Diesel – swm y filltir
1600cc neu lai 9 ceiniog
1601cc i 2000cc 11 ceiniog
Dros 2000cc 12 ceiniog

Caiff ceir hybrid eu trin fel ceir petrol neu ddiesel at y diben hwn.

Cyfraddau tanwydd ymgynghorol am gyfnodau blaenorol.

Cyfradd Drydanol Ymgynghorol ar gyfer ceir sy’n gwbl drydanol

Swm y filltir – 4 ceiniog.

Nid yw trydan yn danwydd at ddibenion budd tanwydd ceir.

Cerbydau cyflogeion: taliadau lwfans milltiroedd

Taliadau lwfans milltiroedd yw’r hyn rydych yn ei dalu i’ch cyflogeion am ddefnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer teithiau busnes.

Gallwch dalu swm cymeradwy o daliadau lwfans milltiroedd i’ch cyflogeion bob blwyddyn heb orfod rhoi gwybod i CThEM amdanynt. I gyfrifo’r swm a gymeradwywyd, lluoswch filltiroedd teithio busnes eich cyflogai am y flwyddyn gyda’r gyfradd y filltir ar gyfer ei gerbyd.

Dysgwch ragor am roi gwybod am daliadau lwfans milltiroedd a’u talu.

Math o gerbyd Cyfradd fesul milltir busnes 2021 i 2022
Car At ddibenion treth: 45c ar gyfer y 10,000 cyntaf o filltiroedd busnes mewn blwyddyn dreth, yna 25c am bob milltir ddilynol

At ddibenion Yswiriant Gwladol: 45 ceiniog ar gyfer yr holl filltiroedd busnes
Beic modur 24c at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes
Beic 20c at ddibenionr treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes

Lwfans Cyflogaeth

Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn caniatáu i gyflogwyr cymwys gostwng eu hatebolrwydd Yswiriant Gwladol blynyddol hyd at swm y lwfans blynyddol.

Lwfans cyfradd 2021 i 2022
Lwfans cyflogaeth £4,000

Ardoll Brentisiaethau

Mae cyflogwyr a chwmnïau cysylltiedig sydd â chyfanswm bil cyflogau blynyddol o dros £3 miliwn yn rhwymedig i dalu’r Ardoll Brentisiaethau, sy’n daladwy bob mis. Bydd gan gyflogwyr nad ydynt yn gysylltiedig â chwmni arall neu elusen lwfans blynyddol sy’n gostwng y faint o Ardoll Brentisiaethau y mae’n rhaid i chi ei thalu. Codir yr Ardoll Brentisiaethau ar gyfradd o’ch bil cyflog blynyddol.

Lwfans neu dâl cyfradd 2021 i 2022
Lwfans Ardoll Prentisiaethau £15,000
Tâl Ardoll Prentisiaethau 0.5%

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Chwefror 2022 + show all updates
  1. National Insurance category letter, rates and thresholds added for employers of veterans.

  2. Added translation

  3. The National Insurance increase will be for one year — this does not affect those over the State Pension age.

  4. From April 2022, the government will introduce a new, UK-wide 1.25% Health and Social Care Levy, ringfenced for health and social care, based on National Insurance contributions.

  5. Updated to reflect 2021 - 2022 rates

  6. First published.

Print this page