Cyfraddau a throthwyon ar gyfer cyflogwyr 2022 i 2023
Defnyddiwch y cyfraddau a’r trothwyon hyn pan fyddwch yn gweithredu’ch cyflogres neu’n darparu treuliau a buddiannau i'ch cyflogeion.
Cafodd y cynnydd dros dro o 1.25 y cant mewn cyfraddau Yswiriant Gwladol eu gwrthdroi o 6 Tachwedd 2022 ymlaen.
Mae’r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wahân, y bwriadwyd ei chyflwyno ym mis Ebrill 2023, wedi’i chanslo.
Oni nodir yn wahanol, mae’r ffigurau canlynol yn berthnasol rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2023.
Treth TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Fel arfer rydych yn gweithredu TWE fel rhan o’ch cyflogres (yn Saesneg) er mwyn i CThEF allu casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol gan eich cyflogeion.
Bydd eich meddalwedd cyflogres (yn Saesneg) yn cyfrifo faint o dreth ac Yswiriant Gwladol i’w didynnu o gyflog eich cyflogeion. Os ydych yn penderfynu rhedeg cyflogres eich hun, gallwch ddod o hyd i feddalwedd y gyflogres.
Trothwyon, cyfraddau a chodau treth
Mae faint o Dreth Incwm rydych yn ei didynnu oddi ar eich cyflogeion yn dibynnu ar eu cod treth a faint o’u hincwm trethadwy sydd uwchlaw eu Lwfans Personol.
Lloegr a Gogledd Iwerddon
Cyfraddau a throthwyon treth TWE | 2022 i 2023 |
---|---|
Lwfans personol cyflogai | £242 yr wythnos £1,048 y mis £12,570 y flwyddyn |
Cyfradd dreth sylfaenol Lloegr a Gogledd Iwerddon | 20% ar enillion blynyddol sydd uwchlaw’r trothwy treth TWE a hyd at £37,700 |
Cyfradd dreth uwch Lloegr a Gogledd Iwerddon | 40% ar enillion blynyddol o £37,701 i £150,000 |
Cyfradd dreth ychwanegol Lloegr a Gogledd Iwerddon | 45% ar enillion blynyddol dros £150,000 |
Yr Alban
Cyfraddau a throthwyon treth TWE | 2022 i 2023 |
---|---|
Lwfans personol cyflogai | £242 yr wythnos £1,048 y mis £12,570 y flwyddyn |
Cyfradd dreth cychwyn yr Alban | 19% ar enillion blynyddol sy’n uwch na’r trothwy treth TWE a hyd at £2,162 |
Cyfradd dreth sylfaenol yr Alban | 20% ar enillion blynyddol o £2,163 i £13,118 |
Cyfradd dreth ganolradd yr Alban | 21% ar enillion blynyddol o £13,119 i £31,092 |
Cyfradd dreth uwch yr Alban | 41% ar enillion blynyddol o £31,093 i £150,000 |
Cyfradd dreth uchaf yr Alban | 46% ar enillion blynyddol dros £150,000 |
Cymru
Cyfraddau a throthwyon treth TWE | 2022 i 2023 |
---|---|
Lwfans personol cyflogai | £242 yr wythnos £1,048 y mis £12,570 y flwyddyn |
Cyfradd dreth sylfaenol Cymru | 20% ar enillion blynyddol sy’n uwch na’r trothwy treth TWE a hyd at £37,700 |
Cyfradd dreth uwch Cymru | 40% ar enillion blynyddol o £37,701 i £150,000 |
Cyfradd dreth ychwanegol Cymru | 45% ar enillion blynyddol dros £150,000 |
Codau treth dros dro
Dyma’r codau treth dros dro o 6 Ebrill 2022 ymlaen:
- 1257L W1
- 1257L M1
- 1257L X
Dysgwch ragor am godau treth dros dro (yn Saesneg).
Trothwyon cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Dim ond ar enillion sy’n uwch na’r terfyn enillion isaf y cewch wneud didyniadau Yswiriant Gwladol.
Trothwyon Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 | 2022 i 2023 |
---|---|
Terfyn enillion isaf | £123 yr wythnos £533 y mis £6,396 y flwyddyn |
Prif drothwy | 6 Ebrill 2022 i 5 Gorffennaf 2022: £190 yr wythnos £823 y mis £9,880 y flwyddyn 6 Gorffennaf 2022 i 5 Ebrill 2023: £242 yr wythnos £1,048 y mis £12,570 y flwyddyn Cyfarwyddwyr Ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan: £299 yr wythnos £11,908 y flwyddyn |
Trothwy eilaidd | £175 yr wythnos £758 y mis £9,100 y flwyddyn |
Trothwy eilaidd uchaf Porthladdoedd Rhydd | £481 yr wythnos £2,083 y mis £25,000 y flwyddyn |
Trothwy eilaidd uchaf (o dan 21) | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Trothwy eilaidd uchaf i brentis (prentis o dan 25 oed) | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Trothwy eilaidd uchaf i gyn-filwr | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Terfyn enillion uchaf | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogai (prif gyfraniadau) o 6 Ebrill 2022 i 5 Tachwedd 2022
Didynnwch gyfraniadau sylfaenol (Yswiriant Gwladol y cyflogai) o gyflog eich cyflogeion drwy’r system TWE.
Llythyr categori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y prif drothwy | Enillion uwchlaw’r prif drothwy hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf |
---|---|---|---|
A | 0% | 13.25% | 3.25% |
B | 0% | 7.1% | 3.25% |
C | sero | sero | sero |
F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 13.25% | 3.25% |
H (prentis o dan 25) | 0% | 13.25% | 3.25% |
I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 7.1% | 3.25% |
J | 0% | 3.25% | 3.25% |
L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 3.25% | 3.25% |
M (o dan 21) | 0% | 13.25% | 3.25% |
S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | sero | sero | sero |
V (cyn-filwr) | 0% | 13.25% | 3.25% |
Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 3.25% | 3.25% |
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr (cyfraniadau eilaidd) o 6 Ebrill 2022 i 5 Tachwedd 2022
Rydych yn talu cyfraniadau eilaidd (Yswiriant Gwladol y cyflogwr) i CThEF fel rhan o’ch bil TWE. Dysgwch ragor am redeg y gyflogres a thalu CThEF (yn Saesneg).
Talu treth TWE ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr (yn Saesneg).
Llythyr categori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys trothwy eilaidd | Enillion uwchlaw’r trothwy eilaidd hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd uchaf y Porthladdoedd Rhydd | Enillion uwchlaw trothwy eilaidd uchaf y Porthladdoedd Rhydd hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf, y trothwy eilaidd uchaf i berson o dan 21, prentis a chyn-filwr | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf, y trothwy eilaidd uchaf i berson o dan 21, prentis a chyn-filwr |
---|---|---|---|---|
A | 0% | 15.05% | 15.05% | 15.05% |
B | 0% | 15.05% | 15.05% | 15.05% |
C | 0% | 15.05% | 15.05% | 15.05% |
F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 0% | 15.05% | 15.05% |
H (prentis o dan 25) | 0% | 0% | 0% | 15.05% |
I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 0% | 15.05% | 15.05% |
J | 0% | 15.05% | 15.05% | 15.05% |
L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 0% | 15.05% | 15.05% |
M (o dan 21) | 0% | 0% | 0% | 15.05% |
S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | 0% | 0% | 15.05% | 15.05% |
V (cyn-filwr) | 0% | 0% | 0% | 15.05% |
Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 0% | 0% | 15.05% |
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogai (prif gyfraniadau) o 6 Tachwedd 2022 i 5 Ebrill 2023
Didynnwch prif gyfraniadau (Yswiriant Gwladol y cyflogai) o gyflog eich cyflogeion drwy’r system TWE.
Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y prif drothwy | Enillion uwchlaw’r prif drothwy hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf |
---|---|---|---|
A | 0% | 12% | 2% |
B | 0% | 5.85% | 2% |
C | sero | sero | sero |
F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 12% | 2% |
H (prentis o dan 25) | 0% | 12% | 2% |
I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 5.85% | 2% |
J | 0% | 2% | 2% |
L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
M (o dan 21) | 0% | 12% | 2% |
S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth | sero | sero | sero |
V (cyn-filwr) | 0% | 12% | 2% |
Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr (cyfraniadau eilaidd) o 6 Tachwedd 2022 i 5 Ebrill 2023
Rydych yn talu cyfraniadau eilaidd (Yswiriant Gwladol y cyflogwr) i CThEF fel rhan o’ch bil TWE. Dysgwch ragor am redeg y gyflogres a thalu CThEF (yn Saesneg)
Talu treth TWE ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr (yn Saesneg).
Llythyr categori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys trothwy eilaidd | Enillion uwchlaw’r trothwy eilaidd hyd at a chan gynnwys trothwy eilaidd uchaf y Porthladdoedd Rhydd | Enillion uwchlaw trothwy eilaidd uchaf y Porthladdoedd Rhydd hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf, y trothwy eilaidd uchaf i berson o dan 21, prentis a chyn-filwr | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf, y trothwy eilaidd uchaf i berson o dan 21, prentis a chyn-filwr |
---|---|---|---|---|
A | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
B | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
C | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
H (prentis o dan 25) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
J | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
M (o dan 21) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
V (cyn-filwr) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
Cyfarwyddwyr: cyfraniadau (sylfaenol) y cyflogai
Mae’r cyfraddau hyn yn berthnasol ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan pan na ddefnyddir y dull cyfrifo amgen.
Tynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol sylfaenol o’ch cyflog fel cyfarwyddwr drwy TWE.
Llythyr categori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y prif drothwy | Enillion uwchlaw’r prif drothwy hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf |
---|---|---|---|
A | 0% | 12.73% | 2.73% |
B | 0% | 6.58% | 2.73% |
C | sero | sero | sero |
F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 12.73% | 2.73% |
H (prentis o dan 25) | 0% | 12.73% | 2.73% |
I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 6.58% | 2.73% |
J | 0% | 2.73% | 2.73% |
L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 2.73% | 2.73% |
M (o dan 21) | 0% | 12.73% | 2.73% |
S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth | sero | sero | sero |
V (cyn-filwr) | 0% | 12.73% | 2.73% |
Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 2.73% | 2.73% |
Cyfarwyddwyr: cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr (cyfraniadau eilaidd)
Mae’r cyfraddau hyn yn berthnasol ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan pan na ddefnyddir y dull cyfrifo amgen.
Rydych yn talu cyfraniadau eilaidd (Yswiriant Gwladol y cyflogwr) i CThEF fel rhan o’ch bil TWE. Dysgwch ragor am redeg y gyflogres a thalu CThEF (yn Saesneg).
Talu treth TWE ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr (yn Saesneg).
Llythyr categori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd | Enillion uwchlaw’r trothwy eilaidd hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd uchaf y Porthladdoedd Rhydd | Enillion uwchlaw trothwy eilaidd uchaf y Porthladdoedd Rhydd hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf, y trothwy eilaidd uchaf i berson o dan 21, prentis a chyn-filwr | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf, y trothwy eilaidd uchaf i berson o dan 21, prentis a chyn-filwr |
---|---|---|---|---|
A | 0% | 14.53% | 14.53% | 14.53% |
B | 0% | 14.53% | 14.53% | 14.53% |
C | 0% | 14.53% | 14.53% | 14.53% |
F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 0% | 14.53% | 14.53% |
H (prentis o dan 25) | 0% | 0% | 0% | 14.53% |
I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 0% | 14.53% | 14.53% |
J | 0% | 14.53% | 14.53% | 14.53% |
L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 0% | 14.53% | 14.53% |
M (o dan 21) | 0% | 0% | 0% | 14.53% |
S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | 0% | 0% | 14.53% | 14.53% |
V (cyn-filwr) | 0% | 0% | 0% | 14.53% |
Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 0% | 0% | 14.53% |
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: treuliau a buddiannau
Mae’n rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion, er enghraifft ffôn symudol y cwmni. Rydych yn rhoi gwybod am ac yn talu Dosbarth 1A ar dreuliau a buddiannau ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer 2022 i 2023 yw 14.53%.
Dysgwch ragor am dreuliau a buddiannau i gyflogwyr (yn Saesneg).
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar swm y dyfarniadau terfynu (yn Saesneg) a delir i gyflogeion sy’n fwy na £30,000 ac ar swm y taliadau tystebau chwaraeon sy’n cael eu talu gan bwyllgorau annibynnol sydd uwchlaw £100,000. Rydych yn rhoi gwybod am ac yn talu Dosbarth 1A ar y mathau hyn o daliadau yn ystod y flwyddyn dreth fel rhan o’ch cyflogres.
Y gyfradd Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer cyflogeion, gan gynnwys cyfarwyddwyr, ar daliadau terfynu a thystebau chwaraeon ar gyfer 2022 a 2023 yw:
- 15.05% ar daliadau’r cyflogai a wnaed o 6 Ebrill i 5 Tachwedd 2022
- 13.8% ar daliadau’r cyflogai a wnaed o 6 Tachwedd 2022 i 5 Ebrill 2023
Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr.
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B: Cytundebau Setliadau TWE (PSA)
Rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B os oes gennych PSA (yn Saesneg). Mae hyn yn eich caniatáu i wneud taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth a’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B ar gyfer 2022 i 2023 yw 14.53%.
Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B.
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r isafswm cyflog yr awr mae gan bron pob gweithiwr (yn Saesneg) hawl iddo yn ôl y gyfraith.
Defnyddiwch y cyfrifiannell Isafswm Cyflog Cenedlaethol (yn Saesneg) i wirio a ydych yn talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i weithiwr neu a oes arnoch daliadau iddynt o flynyddoedd blaenorol.
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Ebrill 2022 ymlaen.
Categori’r gweithiwr | Cyfradd fesul awr |
---|---|
23 oed neuʼn hŷn (cyfradd cyflog byw cenedlaethol) | £9.50 |
21 i 22 oed yn gynwysedig | £9.18 |
18 i 20 oed yn gynwysedig | £6.83 |
O dan 18 oed (ond yn hŷn na’r oedran gadael ysgol gorfodol) | £4.81 |
Prentisiaid o dan 19 oed | £4.81 |
Prentisiaid 19 oed ac yn hŷn, ond ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth | £4.81 |
Gwirio cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer blynyddoedd blaenorol.
Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu Statudol, Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Defnyddiwch y cyfrifiannell mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth i gyflogwyr (yn Saesneg) i gyfrifo’r canlynol ar gyfer eich cyflogeion:
- Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
- Tâl Tadolaeth neu Fabwysiadu
- wythnos gymhwysol
- enillion wythnosol cyfartalog
- cyfnod absenoldeb
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 3 Ebrill 2022 ymlaen.
Y math o daliad neu ad-daliad | cyfradd 2022 i 2023 |
---|---|
Tâl Mamolaeth Stadudol (SMP) — y gyfradd wythnosol am y 6 wythnos gyntaf | 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai |
Tâl Mamolaeth Stadudol — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddill | £156.66 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) — cyfradd wythnosol | £156.66 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) — y gyfradd wythnosol am y 6 wythnos gyntaf | 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai |
Tâl Mabwysiadu Statudol — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddill | £156.66 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP) — cyfradd wythnosol | £156.66 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
Tâl Statudol i Rieni mewn Profedigaeth (SPBP) — cyfradd wythnosol | £156.66 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
SMP, SPP, ShPP, SAP neu SPBP — cyfran o’ch taliadau y gallwch ei hadennill oddi wrth CThEF | 92% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (cyfraniadau’r cyflogai a chyfraniadau’r cyflogwr) yn fwy na £45,000 am y flwyddyn dreth flaenorol 103% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn £45,000 neu lai am y flwyddyn dreth flaenorol |
Rhagor o wybodaeth am:
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Tâl Tadolaeth Statudol (SPP)
- Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP)
- Tâl Statudol ar y cyd i Rieni (ShPP)
- Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth (SPBP)
- help ariannol gyda thâl statudol — cyfran o’ch taliadau y gallwch eu hadennill oddi wrth CThEF
Tâl Salwch Statudol (SSP)
Mae’r un gyfradd wythnosol o Dâl Salwch Statudol yn gymwys i bob cyflogai. Fodd bynnag, mae’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu mewn gwirionedd i’r cyflogai am bob diwrnod y mae’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch (y gyfradd ddyddiol) yn dibynnu ar nifer y ‘diwrnodau cymhwysol’ y mae’n gweithio bob wythnos.
Defnyddiwch y cyfrifiannell SSP (yn Saesneg) i gyfrifo tâl salwch eich cyflogai, neu defnyddiwch y cyfraddau hyn.
Cyfraddau dyddiol heb eu talgrynnu | Nifer y diwrnodau cymhwysol yn ystod yr wythnos |
---|---|
£14.1929 | 7 |
£16.5583 | 6 |
£19.87 | 5 |
£24.8375 | 4 |
£33.1167 | 3 |
£49.675 | 2 |
£99.35 | 1 |
7 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 7 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £14.20 |
2 | £28.39 |
3 | £42.58 |
4 | £56.78 |
5 | £70.97 |
6 | £85.16 |
7 | £99.35 |
6 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 6 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £16.56 |
2 | £33.12 |
3 | £49.68 |
4 | £66.24 |
5 | £82.80 |
6 | £99.35 |
5 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 5 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £19.87 |
2 | £39.74 |
3 | £59.61 |
4 | £79.48 |
5 | £99.35 |
4 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 4 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £24.84 |
2 | £49.68 |
3 | £74.52 |
4 | £99.35 |
3 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 3 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £33.12 |
2 | £66.24 |
3 | £99.35 |
2 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 2 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £49.68 |
2 | £99.35 |
1 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 1 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £99.35 |
Ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig
Os yw enillion eich cyflogeion uwchlaw’r trothwy enillion, cofnodwch eu didyniadau benthyciad myfyriwr a’u didyniadau benthyciad ôl-raddedig (yn Saesneg) yn eich meddalwedd cyflogres. Bydd yn cyfrifo ac yn didynnu ad-daliadau o’u cyflog yn awtomatig.
Cyfradd neu drothwy | cyfradd 2022 i 2023 |
---|---|
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 1 | £20,195 y flwyddyn £1,682.91 y mis £388.36 yr wythnos |
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 2 | £27,295 y flwyddyn £2,274.58 y mis £524.90 yr wythnos |
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 4 | £25,375 y flwyddyn £2,114.58 y mis £487.98 yr wythnos |
Didyniadau Benthyciad Myfyrwyr | 9% |
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad ôl-raddedig | £21,000 y flwyddyn £1,750.00 y mis £403.84 yr wythnos |
Didyniadau Benthyciad Ôl-raddedig | 6% |
Ceir cwmni: cyfraddau tanwydd ymgynghorol
Defnyddiwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol i gyfrifo costau milltiroedd os ydych yn darparu ceir cwmni i’ch cyflogeion.
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Medi 2022 ymlaen.
Maint yr injan | Petrol — swm y filltir | LPG — swm y filltir |
---|---|---|
1400cc neu lai | 15 ceiniog | 9 ceiniog |
1401cc i 2000cc | 18 ceiniog | 11 ceiniog |
Dros 2000cc | 27 ceiniog | 17 ceiniog |
Maint yr injan | Diesel — swm y filltir |
---|---|
1600cc neu lai | 14 ceiniog |
1601cc i 2000cc | 17 ceiniog |
Dros 2000cc | 22 ceiniog |
Caiff ceir hybrid eu trin fel ceir petrol neu ddiesel at y diben hwn.
Gwirio cyfraddau tanwydd ymgynghorol am gyfnodau blaenorol (yn Saesneg).
Cyfradd drydanol ymgynghorol ar gyfer ceir sy’n gwbl drydanol o 1 Rhagfyr 2022 ymlae
Swm y filltir: 8 ceiniog.
Nid yw trydan yn danwydd at ddibenion buddiant tanwydd ceir.
Cerbydau cyflogeion: taliadau lwfans milltiroedd
Taliadau lwfans milltiroedd yw’r hyn rydych yn ei dalu i’ch cyflogeion am ddefnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer teithiau busnes.
Gallwch dalu swm cymeradwy o daliadau lwfans milltiroedd i’ch cyflogeion bob blwyddyn heb orfod rhoi gwybod i CThEF amdanynt. I gyfrifo’r swm cymeradwy, lluoswch filltiroedd teithio busnes eich cyflogai am y flwyddyn gyda chyfradd y filltir ar gyfer ei gerbyd.
Dysgwch ragor am roi gwybod am daliadau lwfans milltiroedd a’u talu (yn Saesneg).
Math o gerbyd | Cyfradd fesul milltir busnes 2022 i 2023 |
---|---|
Car | At ddibenion treth: 45 ceiniog ar gyfer y 10,000 cyntaf o filltiroedd busnes yn ystod blwyddyn dreth, yna 25 ceiniog am bob milltir ddilynol At ddibenion Yswiriant Gwladol: 45 ceiniog ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
Beic modur | 24 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
Beic | 20 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
Lwfans Cyflogaeth
Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn caniatáu i gyflogwyr cymwys (yn Saesneg) ostwng eu rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol blynyddol hyd at swm y lwfans blynyddol.
Lwfans | cyfradd 2022 i 2023 |
---|---|
Lwfans Cyflogaeth | £5,000 |
Ardoll Brentisiaethau
Mae cyflogwyr a chwmnïau cysylltiedig sydd â chyfanswm bil cyflogau blynyddol o dros £3 miliwn yn agored i dalu’r Ardoll Brentisiaethau (yn Saesneg), sy’n daladwy bob mis. Bydd gan gyflogwyr nad ydynt yn gysylltiedig â chwmni neu elusen arall lwfans blynyddol sy’n gostwng y swm o Ardoll Brentisiaethau y mae’n rhaid i chi ei thalu. Codir yr Ardoll Brentisiaethau ar ganran o’ch bil cyflog blynyddol.
Lwfans neu dâl | cyfradd 2022 i 2023 |
---|---|
Lwfans Ardoll Brentisiaethau | £15,000 |
Tâl Ardoll Brentisiaethau | 0.5% |
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 7 Chwefror 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2023 + show all updates
-
The temporary 1.25 percent point increase in National Insurance rates were reversed with effect from 6 November 2022. The introduction of a separate Health and Social Care Levy in April 2023 has been cancelled.
-
Added translation
-
We have updated the advisory electricity rate from 5 pence to 8 pence from 1 December 2022.
-
The employee and director Class 1 National Insurance (primary and secondary) contribution rates that apply from 6 November 2022 to 5 April 2023 have been added. The Class 1A National Insurance rates for expenses, benefits, termination awards and sporting testimonial payments have been updated for 2022 to 2023. The Class 1B National Insurance rate for PAYE Settlement Agreements has been updated for 2022 to 2023.
-
The Health and Social Care Levy will no longer go ahead. From 6 November 2022, the temporary 1.25 percentage point increase in National Insurance rates is being reversed for the rest of the financial year. The introduction of a separate Health and Social Care Levy tax in April 2023 has been cancelled.
-
The Class 1 National Insurance primary threshold for directors has been updated for the 2022 to 2023 tax year.
-
The Primary Class 1 National Insurance contributions rates, car advisory fuel rates for 1400cc or less and the employment allowance rates have been updated.
-
Added translation