Canllawiau

Cofrestru ystâd fel cynrychiolydd personol

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru ystâd person ymadawedig os ydych yn ysgutor, yn weinyddwr neu’n gynrychiolydd personol.

Pwy ddylai gofrestru

Os ydych yn ysgutor, yn weinyddwr neu’n gynrychiolydd personol, bydd angen i chi gofrestru ystâd os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r ystâd yn werth mwy na £2.5 miliwn ar ddyddiad y farwolaeth
  • mae gwerth asedion a werthir gan y cynrychiolydd personol mewn blwyddyn dreth dros £500,000
  • mae cyfanswm y Dreth Incwm a’r Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus ar gyfer y cyfnod rhwng dyddiad y farwolaeth a dyddiad setlo’r ystâd (y ‘cyfnod gweinyddu’) yn fwy na £10,000

Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) er mwyn i chi allu llenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd.

Mae ffordd wahanol o gofrestru os ydych yn asiant sy’n gweithredu ar ran ystâd.

Pryd i ddefnyddio trefniadau anffurfiol

Dylech ddefnyddio trefniadau anffurfiol os nad oes angen i chi gofrestru’r ystâd, a bod gan yr ystâd dreth i’w thalu.

Does dim angen cofrestru nac anfon datganiad os nad oes gan yr ystâd unrhyw incwm trethadwy neu enillion trethadwy, ar yr amod nad oes angen i chi wneud cais am ryddhad neu ddewisiad.

Hyd at 5 Ebrill 2024, os mai llog o gyfrif banc oedd yr unig incwm a gafodd yr ystâd yn ystod y cyfnod gweinyddu, a hynny’n llai na £500, nid oes rhaid i chi roi gwybod i CThEF am incwm yr ystâd.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, os bydd gan ystâd unrhyw fath o incwm hyd at £500, ni fydd angen talu Treth Incwm ar yr incwm hwnnw wrth iddo godi. Os bydd yr incwm yn mynd heibio’r trothwy hwnnw, bydd treth yn daladwy ar y swm llawn.

Bydd y swm sy’n rhydd o dreth, sef £500, yn berthnasol i’r canlynol:

  • pob blwyddyn dreth o’r gweinyddu
  • pob math o incwm, ar ôl didynnu incwm o ISA gan ei fod yn dal i fod yn esempt ar ôl i berson farw hyd nes bod y cyfrif yn cau, neu hyd at 3 blynedd wedi’r farwolaeth

Pryd i gofrestru

Cofrestrwch yr ystâd erbyn 5 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth pan mae’r ystâd yn dechrau cael incwm, neu pan mae ganddi enillion cyfalaf lle y mae treth yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf.

Er enghraifft, os cafodd eich ystâd rywfaint o log am y tro cyntaf ym mis Mai 2023 (sef blwyddyn dreth 2023 i 2024) a daeth yn agored i Dreth Incwm arno, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref 2024 (sef blwyddyn dreth 2024 i 2025).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Manylion y cynrychiolydd personol

Bydd angen i chi ddarparu eich:

  • enw
  • cyfeiriad gohebu
  • rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn ddinesydd o’r DU)
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn
  • dyddiad geni

Os nad ydych yn gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol, bydd angen i chi roi:

  • manylion eich pasbort (y rhif a’r dyddiad dod i ben)
  • eich cyfeiriad

Manylion am y person sydd wedi marw

Bydd angen i chi roi ei:

  • enw
  • cyfeiriad diwethaf
  • dyddiad geni
  • dyddiad marwolaeth
  • rhif Yswiriant Gwladol (os oedd yn ddinesydd o’r DU)

Blynyddoedd o rwymedigaeth treth

Bydd angen i chi ddewis y blynyddoedd treth y mae angen Ffurflen Dreth ar gyfer:

  • Treth Incwm
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf fel ei gilydd

Sut i gofrestru

Cyn y gallwch gofrestru ystâd, mae angen i chi gael Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych y manylion mewngofnodi hyn, gallwch eu creu y tro cyntaf i chi gofrestru.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad e-bost (bydd hyn yn gysylltiedig â chyfrif Porth y Llywodraeth yr ystâd)
  • eich enw llawn

Mae’n rhaid i chi ddewis cyfrif Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad er mwyn cofrestru.

Bydd arnoch angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) newydd ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfer pob ystâd yr ydych yn ei chofrestru.

Cofrestru nawr

Gall gwasanaethau CThEM fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn.

Ar ôl i chi gofrestru

Byddwn yn anfon UTR atoch, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd angen yr UTR arnoch i ddechrau cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:

Ar ôl i chi anfon eich Ffurflen Dreth, bydd CThEM yn rhoi gwybod i chi faint sydd ar yr ystâd. Bydd angen i chi dalu’r bil Hunanasesiad erbyn y dyddiad cau.

Gwneud newidiadau i fanylion yr ystâd

Gallwch reoli manylion eich ystâd os oes angen i chi:

  • newid gwybodaeth am yr ystâd
  • awdurdodi asiant
  • cau ystâd

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2024 + show all updates
  1. Dates under 'When to register' section have been updated. Information added to 'When to use informal arrangements' section.

  2. We have updated the dates under 'When to register' as part of annual uprating.

  3. Welsh translation has been added.

  4. First published.

Print this page