Cofrestru ystâd eich cleient
Cofrestrwch ystâd eich cleient ar-lein os ydych yn asiant neu’n ymgynghorydd treth.
Pwy ddylai gofrestru
Dim ond os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol y mae angen i chi gofrestru ystâd eich cleient:
- mae gwerth yr ystâd dros £2.5 miliwn
- mae gwerth asedion a werthir gan y cynrychiolydd personol mewn unrhyw un flwyddyn dreth dros £500,000
- mae cyfanswm y dreth sy’n ddyledus dros £10,000
Pwy na ddylai gofrestru
Nid oes angen i chi gofrestru nac anfon Ffurflen Dreth os nad oes gan ystâd incwm trethadwy nac enillion trethadwy, cyn belled nad oes angen i chi wneud hawliad am ryddhad na dewis.
Hyd at 5 Ebrill 2024, os mai llog o gyfrif banc oedd yr unig incwm a gafodd yr ystâd yn ystod y cyfnod gweinyddu, a hynny’n llai na £500, nid oes rhaid rhoi gwybod i CThEF am incwm yr ystâd.
O 6 Ebrill 2024 ymlaen, os bydd gan ystâd unrhyw fath o incwm hyd at £500, ni fydd angen talu Treth Incwm ar yr incwm hwnnw wrth iddo godi. Os bydd yr incwm yn mynd heibio i’r trothwy hwnnw, bydd treth yn daladwy ar y swm llawn.
Bydd y swm sy’n rhydd o dreth, sef £500, yn berthnasol i’r canlynol:
- pob blwyddyn dreth sy’n rhan o’r cyfnod gweinyddu
- pob math o incwm, ar ôl didynnu incwm o Gyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) gan ei fod yn dal i fod yn esempt ar ôl i berson farw hyd nes bod y cyfrif yn cau, neu hyd at 3 blynedd wedi’r farwolaeth
Os yw’r incwm yn fwy na’r swm rhydd o dreth mewn unrhyw flwyddyn dreth, dylech ddefnyddio trefniadau talu anffurfiol.
Pryd i gofrestru
Cofrestrwch yr ystâd gyda CThEF i gael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) erbyn 5 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth pan fydd yr ystâd yn dechrau cael incwm neu pan fydd ganddi enillion trethadwy y mae treth yn daladwy arnynt.
Yr hyn sydd ei angen arnoch
Gwybodaeth am yr ystâd
Bydd angen y canlynol arnoch:
- enw’r ystâd, er enghraifft ystâd Dafydd Jones a fu farw
- cyfeiriad a rhif ffôn yr ystâd (dyma fydd cyfeiriad a rhif ffôn y cynrychiolydd personol)
- y dyddiad y daeth y cyfnod gweinyddu i ben, os yw’n berthnasol
Cynrychiolydd personol
Bydd angen y manylion canlynol arnoch ar gyfer y person:
- enw
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol neu rif y pasbort a’r dyddiad dod i ben
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
Manylion ynghylch y person sydd wedi marw
Bydd angen y manylion canlynol arnoch ar gyfer yr ymadawedig:
- enw
- cyfeiriad hysbys diwethaf
- dyddiad geni
- dyddiad y farwolaeth
- rhif Yswiriant Gwladol (os yw ar gael)
Blynyddoedd o rwymedigaeth treth
Mae angen i chi ddewis y blynyddoedd treth y mae angen i’r ystâd ddatgan rhwymedigaeth i Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf ar eu cyfer.
Sut i gofrestru
I gofrestru ystâd, mae angen i chi fod â chyfrif gwasanaethau asiant. Os oes gennych un eisoes, mae angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a grëwyd gennych pan wnaethoch sefydlu’r cyfrif.
Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallwch greu un y tro cyntaf i chi gofrestru ystâd. Bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr neu gyfeirnod Treth Gorfforaeth eich asiantaeth
- y cod post sy’n gysylltiedig â’r cyfeirnod hwnnw
- bydd angen i chi fod wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau (yn agor tudalen Saesneg)
Rhaid i chi fod y person sy’n gyfrifol am faterion treth neu weinyddol eich cwmni asiant. Pan fyddwch wedi sefydlu cyfrif gwasanaethau asiant, gallwch ychwanegu gweinyddwyr a chynorthwywyr cyn cofrestru ystâd.
Argaeledd y gwasanaeth
Gall gwasanaethau CThEF fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Ar ôl i chi gofrestru
Bydd CThEF yn anfon UTR yr ystâd at y cynrychiolydd personol, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd angen UTR yr ystâd arnoch i ddechrau cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:
- defnyddio meddalwedd fasnachol Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) i’w hanfon yn electronig erbyn 31 Ionawr
- llenwi ffurflen bapur SA900 (yn agor tudalen Saesneg) a’i phostio i CThEF erbyn 31 Hydref (3 mis yn gynharach)
Nid yw cofrestru ystâd eich cleient yn rhoi awdurdod i chi weithredu ar ei ran. Mae angen awdurdod ar CThEF drwy ddefnyddio ffurflen 64-8 i gyfathrebu â chyfrifydd, asiant treth neu ymgynghorydd sy’n gweithredu ar ran cynrychiolydd personol.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 17 Tachwedd 2017Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2024 + show all updates
-
This guide has been updated to show circumstances when you should not register your client's estate.
-
The informal payments arrangements process has been updated.
-
Welsh translation has been added.
-
This guide has been updated to show circumstances when you should not register your client's estate.
-
The guide has been updated to give more clarification on who should register and who should not register.
-
The 'How to register' section has been updated to include more detail on creating an agent services account.
-
Updated content to make clear what you need to register for an agent services account.
-
The guidance has been updated to explain more about how to register an estate, and that you need an agent services account before being able to register.
-
First published.