Cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
Sut i gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig.
Pwy ddylai gofrestru a phryd
Rhaid i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych:
- yn disgwyl gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 30 diwrnod nesaf
- wedi gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 12 mis diwethaf
Gall y 10 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig fod yn gyfuniad o ddeunydd pacio sydd wedi’i weithgynhyrchu ac sydd wedi’i mewnforio.
Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn pen 30 diwrnod ar ôl cyrraedd y trothwy 10 tunnell. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cosb os na wnewch hynny.
Cofrestru grŵp o gwmnïau
Dysgwch sut i gofrestru grŵp o gwmnïau ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig.
Os oes angen i chi awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan
Yn gyntaf, bydd yn rhaid i chi gofrestru eich hun ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig cyn y gallwch awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan. Ni all gofrestru ar eich rhan.
Unwaith i chi gofrestru, yna gall ddysgu sut i gael ei awdurdodi (yn Saesneg).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi roi un o’r darnau canlynol o wybodaeth am amcangyfrif o bwysau’r cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig. Faint yr ydych:
- yn disgwyl ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio yn ystod y 12 mis nesaf
- wedi gweithgynhyrchu neu fewnforio yn ystod y 12 mis diwethaf
- yn disgwyl ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio yn ystod y 30 diwrnod nesaf
Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
- y math o fusnes sydd gennych
- cyfeiriad a manylion cyswllt y person neu’r busnes yr ydych yn ei gofrestru
-
cyfeirnod cwsmer, a allai fod yn un o’r canlynol:
- rhif cofrestru’r cwmni os ydych yn cofrestru cwmni (gallwch ddod o hyd i rif y cwmni (yn Saesneg))
- eich rhif Yswiriant Gwladol a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad
- rhif cofrestru elusennau
- y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth y person neu’r sefydliad yr ydych yn ei gofrestru — os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gofrestru
Mae’n bosibl y gofynnir cwestiynau i chi am gofnodion treth y person neu’r busnes wrth gofrestru.
Sut i gofrestru
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).
Gallwch gadw’r hyn yr ydych wedi’i nodi wrth i chi gwblhau’ch cofrestriad.
Pwy na all ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru
Os ydych yn:
- sefydliad corfforedig elusennol
- ymddiriedolaeth
- busnes sydd wedi’i leoli yn Ynysoedd y Sianel
- busnes tramor sydd heb ei sefydlu yn y DU
- corff cyhoeddus
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig drwy lenwi’r ffurflen ar-lein.
Os yw’ch busnes wedi’i leoli yn Ynys Manaw, bydd angen i chi gysylltu â Thollau Tramor a Chartref Ynys Manaw i gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig. Gallwch ddysgu rhagor ar wefan llywodraeth Ynys Manaw (yn Saesneg).
Ar ôl i chi gofrestru
Os oes angen i chi lenwi Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnodion a chyfrifon.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid neu os ydych wedi nodi gwybodaeth anghywir
Rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i ddiwygio’r wybodaeth cyn pen 30 diwrnod i’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- y diwrnod ar ôl i chi ganfod bod yr wybodaeth wreiddiol a roesoch yn anghywir
- y diwrnod ar ôl y newid mewn amgylchiadau
Canslo’ch cofrestriad
Dysgwch sut i ganslo’ch cofrestriad os nad ydych bellach yn agored i’r dreth.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Gorffennaf 2023 + show all updates
-
Information added about making sure up to date details are listed with Companies House.
-
You must now look back 12 months from the last day of the month, to check how much finished plastic packaging components you manufactured and imported, instead of looking back from 1 April 2022.
-
The guidance has been updated with information about how businesses based in the Channel Islands and the Isle of Man can register for Plastic Packaging Tax.
-
Welsh translation has been updated.
-
Information added about how to authorise an agent to deal with Plastic Packaging Tax on someone else's behalf. A link has also been added to new guidance on cancelling your registration.
-
Added translation
-
Guidance about what to do if HMRC emails you to confirm your liability start date has been added.
-
You can now register as a partnership for Plastic Packaging Tax.
-
Information about creating invoices and charging VAT on Plastic Packaging Tax has been moved to the 'Records and accounts you must keep for Plastic Packaging Tax' guide. Information about death, incapacity or insolvency has been moved to the new 'Taking temporary responsibility for Plastic Packaging Tax in the event of death, incapacity or insolvency' guide.
-
You can now register for Plastic Packaging Tax.
-
Added translation
-
We have removed the section about transferring a business as a going concern because this option will not be available until a later date.
-
The list of information you need to provide to register has been updated. You can still register if you're a non-UK business with no UK establishment.
-
The requirement to include a statement with your invoice to show that Plastic Packaging Tax has been paid, which was due to commence in April 2022, will be delayed.
-
More information about creating invoices and charging VAT has been added.
-
First published.