Cofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes
Agorwch gyfrif fel y gallwch roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) am newidiadau i’ch eiddo neu os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sut i gofrestru ar gyfer cyfrif
Cofrestrwch gan ddefnyddio’ch ID ar gyfer Porth y Llywodraeth sydd eisoes yn bodoli.
Os nad oes gennych ID Porth y Llywodraeth, byddwch yn gallu creu un wrth gofrestru.
Pryd i greu ID newydd ar gyfer Porth y Llywodraeth
Crëwch ID Porth y Llywodraeth newydd os ydych am i unrhyw un arall ddefnyddio eich cyfrif prisio ardrethi busnes.
Ychwanegu person arall
Gallwch ychwanegu person arall at eich cyfrif wrth i chi gofrestru neu o dan fanylion eich cyfrif o fewn y gwasanaeth pan fyddwch wedi mewngofnodi.
Bydd angen i chi fod yn weinyddwr ar gyfer cyfrif Porth y Llywodraeth eich sefydliad er mwyn ychwanegu person arall. Rydych yn weinyddwr os mai chi a greodd gyfrif Porth y Llywodraeth neu os ydych wedi cael eich ychwanegu at y cyfrif fel un.
Penodi asiant
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer cyfrif, gallwch benodi asiant i weithredu ar eich rhan.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Hydref 2023 + show all updates
-
A Welsh translation has been added.
-
Updated information for Wales
-
Updated for the 2023 rating list
-
Removed video link and information about appointing agent, which is moved to a different page.
-
First published.