Canllawiau

Cofrestru gyda CThEF i greu cyfrif gwasanaethau asiant

Dysgu sut i gofrestru gyda CThEF drwy’r post fel y gallwch greu cyfrif gwasanaethau asiant.

I greu cyfrif gwasanaethau asiant, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda CThEF fel asiant treth (yn agor tudalen Saesneg) yn gyntaf.

Os oes gennych gyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF eisoes a bod gennych o leiaf un cleient awdurdodedig (ar gyfer Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, TWE neu TAW), gallwch greu cyfrif gwasanaethau asiant ar unwaith.

Mae ffordd wahanol o wneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant os nad ydych wedi’ch lleoli yn y DU.

Bydd ceisiadau i gael mynediad at ein gwasanaeth yn cael eu mesur yn erbyn Safon CThEF ar gyfer asiantau.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd rhaid i chi roi’r wybodaeth ganlynol:

  • enw llawn
  • enw masnachu (os yw’n wahanol)
  • y cyfeiriad lle mae’ch gweithgareddau busnes yn cael eu cynnal (ni all hwn fod yn gyfeiriad Blwch Swyddfa’r Post)
  • rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad (mae’n rhaid i chi roi hwn os ydych yn gyfarwyddwr ag UTR, yn unig fasnachwr neu’n bartner)
  • UTR partneriaeth, UTR partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu UTR cwmni (os yw’n berthnasol)
  • rhif cofrestru cwmni (os yw’n berthnasol)
  • rhif cofrestru TAW (os yw’n berthnasol)
  • cyfeirnod TWE y cyflogwr (os yw’n berthnasol)
  • manylion y trethi rydych yn bwriadu ymdrin â nhw

Os oes gan eich busnes nifer o bartneriaid neu gyfarwyddwyr, bydd angen i chi roi’r canlynol i ni ar gyfer pob un:

  • enwau llawn
  • rhifau Yswiriant Gwladol
  • UTRau Hunanasesiad

Hefyd, bydd angen arnoch fanylion eich cofrestriad ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian, gan gynnwys:

Bydd eich cais yn cael ei wrthod os na fyddwch yn rhoi’r dogfennau cywir.

Ble i anfon eich gwybodaeth

Anfon eich gwybodaeth drwy’r post at:

Tîm Cydymffurfiad Asiantau / Agent Compliance Team
Cyllid a Thollau EF
Y Deyrnas Unedig
BX9 1ZE

Ni fyddwn yn eich cofrestru os na rowch yr wybodaeth gywir, neu os nad yw CThEF yn fodlon ar yr wybodaeth a roddir gennych.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych wedi cofrestru cyn pen 40 diwrnod gwaith ar ôl i’r cais dod i law.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Pan fyddwch wedi cofrestru gyda CThEF fel asiant, byddwch yn gallu creu cyfrif gwasanaethau asiant.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Tachwedd 2024 + show all updates
  1. The number of days it takes to get an agent services account has been updated from 28 to 40 working days after HMRC receive the application.

  2. Your application to access our services will be measured against HMRC Standard for Agents.

  3. The address where you send your information by post has been updated.

  4. Added translation

  5. The list under 'What you'll need' has been updated to include a VAT registration number (if applicable) and a PAYE Employer reference (if applicable).

  6. More information has been added to the section about what you'll need to register with HMRC to use an agent services account.

  7. Information about what you'll need to register with HMRC to use an agent services account has been updated.

  8. First published.

Print this page