Canllawiau

Rhoi gwybod am wartheg sydd ar goll neu wedi’u dwyn

Beth i'w wneud os bydd unrhyw un neu ragor o'ch gwartheg, buail neu fyfflos yn cael eu colli neu eu dwyn, ac os cewch chi nhw yn ôl.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Rhaid i geidwaid gwartheg roi gwybod am unrhyw wartheg, buail neu fyfflos sydd ar goll neu wedi’u dwyn i’r canlynol:

  • Yr heddlu
  • Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP)

Mae’n rhaid ichi bostio pasbort neu dystysgrif cofrestru’r anifail i GSGP hefyd. Rhaid iddyn nhw ddod i law yn GSGP o fewn 7 diwrnod ar ôl ichi gael gwybod am y golled neu’r lladrad.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
CA14 2DD
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Ebost: [email protected]

Mae’n rhaid hefyd ichi gofnodi dyddiad y golled neu’r lladrad yn eich cofrestr daliad.

Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd, ffoniwch yr heddlu i roi gwybod am wartheg sydd ar goll.

Os bydd rhywun yn dod o hyd i’r anifail

Mae’n rhaid ichi

  • cadarnhau hyn mewn ysgrifen gyda GSGP
  • rhoi gwybod i’r heddlu
  • diweddaru cofrestr eich daliad i ddangos bod yr anifail wedi ei ganfod

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd GSGP yn anfon pasbort newydd atoch. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen iddyn nhw ymweld â’ch daliad gyntaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Tachwedd 2022 + show all updates
  1. Content has been updated to improve readability and include contact details.

  2. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  3. First published.

Print this page