Dalen barhau pasbort gwartheg
Gall ceidwaid gwartheg ddefnyddio dalen barhau pan fydd arnyn nhw angen rhagor o le i gofnodi symudiadau mewn pasbort gwartheg.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ddalen barhau hon i gofnodi symudiadau pan fydd yr adran hanes symudiadau mewn pasbort gwartheg yn llawn.
Rhaid ichi gofnodi’r dyddiad y mae gwartheg, buail neu fyfflos yn symud yn ôl ac ymlaen i’ch daliad ym mhasbort pob anifail. Y rheswm am hyn yw er mwyn i’r gwartheg gael eu holrhain bob amser i atal clefydau a rheoli lledaeniad clefydau.
Fe allwch chi:
- argraffu a defnyddio’r ddalen barhau hon
- llungopïo cefn pasbort un tudalen arall, os oes un gennych chi, lle mae’r blychau symudiadau yn wag
- gofyn am ddalen barhau brintiedig gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP)
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Sut i ddefnyddio dalen barhau
Mae’r ddalen barhau yn rhan o’r pasbort gwartheg swyddogol. Rhaid ichi:
- ysgrifennu rhif tag clust yr anifail ar y brig
- atodi’r ddalen yn ddiogel i’r pasbort cywir
Rhaid hefyd ichi ddilyn y canllawiau ar sut i gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.