Canllawiau

Anfonwch fanylion i ategu eich hawliad am ad-daliad TAW

Os ydych wedi cael llythyr neu e-bost oddi wrth CThEF yn gofyn i chi anfon rhagor o fanylion i ategu’ch hawliad am ad-daliad TAW, defnyddiwch y ffurflen hon.

Dylech ond defnyddio’r ffurflen hon os ydych wedi cael llythyr neu e-bost oddi wrth CThEF yn gofyn i chi anfon rhagor o fanylion i ategu’ch hawliad am ad-daliad TAW. Bydd y llythyr neu’r e-bost yn dweud wrthych am ddefnyddio’r ffurflen.

Pryd y dylech anfon manylion

Dylech ond defnyddio’r ffurflen hon os ydych wedi:

  • hawlio ad-daliad TAW yn eich Ffurflen TAW
  • cael llythyr neu e-bost oddi wrth CThEF yn rhoi gwybod i chi ein bod yn bwriadu gwirio’ch ffigurau

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hon os ydych yn asiant awdurdodedig sy’n anfon manylion ar ran cleient.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif cofrestru TAW
  • y cyfeirnod CFS, CFSS neu CFSRP sydd ar y llythyr neu’r e-bost a anfonwyd gennym (er enghraifft, CFSRP-12345)
  • manylion eich prif weithgareddau busnes
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau masnachu (os mai’ch Ffurflen TAW gyntaf ydyw)
  • y cyfraddau TAW sy’n berthnasol i’ch gwerthiannau
  • manylion unrhyw gynlluniau TAW rydych yn eu defnyddio (er enghraifft, y Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW)
  • manylion am bwy lenwodd a phwy gyflwynodd y Ffurflen TAW
  • enwau unrhyw becynnau meddalwedd os ydych yn dilyn rheolau Troi Treth yn Ddigidol
  • eich cyfrif TAW manwl
  • eich 10 anfoneb uchaf o ran gwerth wrth brynu lle mae TAW wedi’i chodi
  • cyfriflenni banc

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd hefyd angen y canlynol arnoch:

  • awdurdodiad ysgrifenedig am hyd at 2 berson ychwanegol gan y cwsmer sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW
  • anfonebau gwerthiannau wedi’u hallforio, neu ddogfennau ategol
  • dogfennau TAW mewnforio
  • cytundebau hurbwrcasu neu gytundebau prydlesu
  • Dogfennau atodol am brynu tir neu eiddo y mae’n rhaid eu bod yn cynnwys:
    • datganiad cwblhau
    • ffurflen TR1
    • tystiolaeth o drosglwyddo’r arian
    • tystiolaeth o dalu Treth Dir y Tollau Stamp
    • anfonebau prynu
  • cyfeirnodau cynllunio a chodau post y safleoedd adeiladu (os ydych yn cyflenwi gwasanaethau adeiladu)
  • anfonebau gwerthiannau lle codwyd cyfraddau TAW ansafonol
  • unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych chi o’r farn ei bod yn ategu eich hawliad am ad-daliad TAW

Sut i awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan

Gallwch awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan i ategu’ch hawliad am ad-daliad TAW gan ddefnyddio’r canlynol:

Gallwch hefyd ddefnyddio trydydd parti, megis cyflogai neu aelod o’r teulu, i weithredu ar ran y busnes. Bydd angen i’r cwsmer, sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, roi ei ganiatâd yn ysgrifenedig. Gallwch uwchlwytho caniatâd ysgrifenedig o fewn y ffurflen ar-lein hon.

Pan fyddwch yn rhoi caniatâd, mae’n rhaid i chi gynnwys y canlynol:

  • enw pob person rydych yn ei awdurdodi, a’u llofnodion wedi’u dyddio, hyd at uchafswm o 2 berson
  • enw’r cwsmer sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, ei swydd yn y busnes a’i lofnod wedi’i ddyddio
  • awdurdod ar gyfer pob person i gadarnhau y gall weithredu ar ran y busnes mewn achosion sy’n ymwneud â’r hawliad am ad-daliad TAW

Os oes angen i chi roi gwybod i ni am fwy nag un cyfnod TAW

Bydd angen i chi lenwi ffurflen newydd ar gyfer pob cyfnod rydym wedi gofyn am fanylion yn ei gylch.

Bydd angen i chi nodi manylion amdanoch chi’ch hun a’r busnes bob tro, ac uwchlwytho dogfennau i ategu’r cyfnod hwnnw.

Sut i anfon manylion

Bydd angen y manylion mewngofnodi a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gofrestru ar gyfer TAW.

Os ydych yn asiant awdurdodedig sy’n anfon manylion ar ran cleient, dylech ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer asiantau. Gallwch ond llenwi’r ffurflen hon ar ran cleientiaid sydd wedi’u hawdurdodi.

Gallwch gadw’r hyn yr ydych wedi’i nodi a dod yn ôl yn nes ymlaen.

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Rydym yn bwriadu edrych ar yr wybodaeth a anfonwch cyn pen 7 diwrnod gwaith.

Byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwn wedi dod i benderfyniad, neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Os na fyddwch yn clywed gennym ar ôl 7 diwrnod gwaith, gallwch gysylltu â ni wrth ddefnyddio’r rhif ffôn sydd ar y llythyr a anfonwyd gennym.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Mawrth 2024 + show all updates
  1. Instructions have been added for how to authorise someone to act on your behalf and what to do if you need to tell us about more than one VAT period.

  2. Guidance about what you’ll need has been updated to explain that you can also use your 'CFS' reference number.

  3. Added translation

  4. First published.

Print this page