Cofrestru’n wirfoddol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru’ch busnes yn wirfoddol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ac i ddysgu beth i’w wneud nesaf.
Beth yw’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd o roi gwybod i CThEF am incwm a threuliau os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord. Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- defnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
- cadw cofnodion digidol o incwm a threuliau eich busnes
- anfon diweddariadau chwarterol atom
- cyflwyno Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Pwy ddylai gofrestru a phryd
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y gallwch gofrestru i’n helpu i brofi a datblygu’r gwasanaeth. O 6 Ebrill 2026, bydd y cynllun yn dod yn orfodol fesul cam yn seiliedig ar gyfanswm eich incwm blynyddol o hunangyflogaeth neu eiddo.
Dylech fynd ati i gael gwybod a oes angen i chi gofrestru a phryd y dylech wneud hynny.
Os bydd angen i chi gofrestru yn y dyfodol, gallwch naill ai:
- defnyddio’r gwasanaeth hwn yn wirfoddol nawr — ar gyfer pob un o’ch ffynonellau incwm o hunangyflogaeth ac eiddo
- parhau i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ôl yr arfer
Os ydych yn defnyddio asiant, gall gofrestru ar eich rhan.
Os ydych yn asiant, mae yna ffordd wahanol o gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Pwy sy’n gallu cofrestru’n wirfoddol
Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi pan fyddwch yn cofrestru. Bydd hyn yn cadarnhau a ydych yn gymwys i gofrestru’n wirfoddol.
Gallwch gofrestru’n wirfoddol os (yw pob un o’r canlynol yn berthnasol):
- mae gan CThEF eich manylion personol diweddaraf
- rydych yn breswylydd yn y DU
- mae gennych rif Yswiriant Gwladol
- rydych wedi cyflwyno o leiaf un Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- mae’ch cofnodion treth yn gyfredol — er enghraifft, nid oes rhwymedigaethau treth yn ddyledus gennych
- rydych yn defnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill
Rydych hefyd yn gallu defnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth, os yw’r feddalwedd rydych wedi’i dewis yn cefnogi hyn. I ddefnyddio’r cyfnod cyfrifyddu hwn, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- dewis cyfnodau diweddaru calendr yn y feddalwedd cyn gwneud y diweddariad cyntaf
- gwneud addasiad ar ddiwedd eich blwyddyn dreth gyntaf — fel bod eich incwm a’ch treuliau o 1 Ebrill i 5 Ebrill wedi’u cynnwys yn eich Ffurflen Dreth
Os byddwch yn cofrestru, yn ystod y cyfnod prawf, ni fyddwch yn gallu gwneud y canlynol:
- hawlio i gario colled yn ôl (yn agor tudalen Saesneg)
- newid eich cyfnod cyfrifyddu
- newid eich dull cyfrifyddu
Pwy na all gofrestru’n wirfoddol
Ni allwch gofrestru yn wirfoddol os yw’r canlynol yn wir:
- mae gennych Dâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
- mae gennych gynllun talu gyda CThEF yn barod
- rydych yn bartner mewn partneriaeth
- rydych yn hawlio Lwfans Pâr Priod
- rydych yn hawlio Lwfans Person Dall
- rydych yn fethdalwr neu’n ansolfent ar hyn o bryd, neu byddwch yn fethdalwr neu’n ansolfent
- rydych yn AS, yn weinidog yr efengyl neu’n danysgrifennwr Lloyds
- mae gennych incwm o fod yn ofalwr maeth mewn cynllun cysylltu bywydau
- mae gennych incwm o ymddiriedolaeth
- mae gennych incwm o eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd
- mae gennych incwm o osod llety gwyliau wedi’i ddodrefnu
- rydych yn agored i ymholiad cydymffurfio
- rydych yn defnyddio ‘trefniant cyfartalu’ neu drefniadau eraill oherwydd bod eich elw yn amrywio rhwng blynyddoedd — er enghraifft, oherwydd eich bod yn ffermwr, yn awdur neu’n artist
- rydych yn cofrestru ar ran rhywun arall (oni bai eich bod yn asiant) — mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- rydych yn ymarferwr ansolfedd
- rydych yn enwebai
- rydych yn gyfreithiwr
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi gael meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Wrth ddewis meddalwedd, gwiriwch â’r darparwr meddalwedd bob amser i wneud yn siŵr ei bod yn bodloni eich anghenion.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- dyddiad dechrau eich busnes, neu’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael incwm o eiddo
- eich dull cyfrifyddu, megis cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) neu gyfrifyddu traddodiadol
- dewiswch y flwyddyn dreth yr hoffech ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych yn unig fasnachwr, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:
- enw’ch busnes — dyma’r enw rydych yn ei ddefnyddio ar eich anfonebau
- cyfeiriad eich busnes
- natur eich busnes (eich masnach)
Os oes gennych sawl ffynhonnell incwm, bydd angen i chi gofrestru pob un ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Sut caiff y cosbau eu codi
Bydd cosbau newydd CThEF (yn agor tudalen Saesneg) yn berthnasol os ydych yn methu dyddiadau cau ar gyfer:
- cyflwyno’ch Ffurflen Dreth
- talu’ch bil
Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau pan fyddwch yn dod yn agored i’r cosbau hyn.
Sut i gofrestru
Bydd arnoch angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Ar ôl i chi gofrestru
Dysgwch ragor am sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i chi dechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Help
Help a chymorth ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol.
Cysylltwch â’ch cyflenwr meddalwedd os oes angen help arnoch i greu cofnodion busnes neu i anfon diweddariadau.
Os oes gennych ymholiad arall ynghylch Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, cysylltwch â CThEF.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Awst 2024 + show all updates
-
Information added to confirm that you need to sign up each income source for Making Tax Digital for Income Tax if you have multiple sources of income.
-
On Monday 22 April information for users who want to voluntarily sign up now was updated as you can now use the sign up service instead of a software provider. Information about who can and cannot sign up voluntarily was updated.
-
Welsh translation added.
-
The date for helping to test and develop Making Tax Digital for Income Tax has been extended to 6 April 2026.
-
The steps to take and what you will need before using Making Tax Digital for Income Tax have been updated. The criteria for voluntarily signing up now has also been updated.
-
Information to check if you can voluntarily sign up now has been added. Information on what to do after you’ve signed up has been removed as this is covered in the Using Making Tax Digital for Income Tax guidance.
-
Information on what you'll need and before you sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.
-
Updated information on what to do after you've signed up.
-
Added translation
-
Information has been added to let you know that if you use an agent they can send you an authorisation request link.
-
Register for a webinar on 29 July for information on the Making Tax Digital for Income Tax pilot.
-
Welsh translation has been added.
-
First published.