Canllawiau

Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny

Gwiriwch a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo.

Pwy sydd angen defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn unigolyn sydd wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
  • mae’ch incwm cymwys yn fwy na £30,000

Beth sydd wedi’i gynnwys yn eich incwm cymhwysol

Eich incwm cymhwysol yw cyfanswm yr incwm a gewch mewn blwyddyn dreth drwy hunangyflogaeth ac eiddo.

Dysgwch beth sy’n cael ei gynnwys yn eich incwm cymhwysol.

Gwirio a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Gallwch hefyd defnyddio ein hofferyn i wirio a oes angen i chi defnyddio’r gwasanaeth a phryd y dylech ddechrau gwneud hynny.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi ystyried y canlynol ar gyfer y blynyddoedd treth sy’n dod i ben 5 Ebrill 2025 a 5 Ebrill 2026:

  • pam y bydd yn rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad
  • faint o incwm o hunangyflogaeth ac o eiddo byddwch yn ei gael

Ar hyn o bryd, nid yw’r offeryn hwn yn gofyn am unrhyw flynyddoedd treth arall nac am incwm tramor. Os oes gennych incwm tramor, dylech gyfeirio at cyfrifwch eich incwm cymhwysol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Gwirio nawr

Pryd i ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dod yn orfodol fesul cam, gan ddechrau o 6 Ebrill 2026 ymlaen.

Mae’n bosibl y gallwch gofrestru’n wirfoddol nawr. Bydd hyn yn helpu CThEF i brofi a datblygu’r gwasanaeth.

Bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn unigolyn sydd wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau, cyn 6 Ebrill 2025
  • mae gennych incwm cymhwysol sy’n fwy na £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025

Bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2027 ymlaen, os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn unigolyn sydd wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau, cyn 6 Ebrill 2025
  • mae gennych incwm cymhwysol sy’n fwy na £30,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi, os yw cyfanswm eich incwm o’r ffynonellau hyn dros £20,000, bydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol. Byddwn yn nodi’r amserlen ar gyfer hyn yn nes ymlaen.

Beth fydd yn digwydd erbyn 6 Ebrill 2026

  1. Mae angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 erbyn 31 Ionawr 2026.

  2. Byddwn yn adolygu’ch Ffurflen Dreth ac yn gwirio a yw’ch incwm cymwys yn fwy na £50,000.

  3. Os ydyw, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn cadarnhau bod yn rhaid i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn 6 Ebrill 2026. Os oes gennych asiant, gall eich asiant gwneud hyn ar eich rhan.

  4. Mae’n rhaid i chi, neu’ch asiant, ddod o hyd i feddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a’i hawdurdodi.

  5. Mae’n rhaid i chi, neu’ch asiant, gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os byddwch yn dod yn hunangyflogedig neu’n landlord ar ôl 6 Ebrill 2026

Nid oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm tan ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad gyntaf, ond gallwch ddewis cofrestru’n wirfoddol ar unrhyw adeg.

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad gyntaf, byddwn yn gwirio a yw’ch incwm cymwys yn fwy na £30,000. Os ydyw, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd yn rhaid i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer un busnes, ac wedyn yn dechrau busnes arall, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd yn rhaid i chi ddechrau efo’r busnes newydd.

Pwy na fydd angen defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Does dim angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar hyn o bryd os yw’ch incwm cymhwysol yn £30,000 neu’n llai.

Os ydych wedi’ch eithrio, neu os ydych yn dewis peidio â chofrestru’n wirfoddol, mae’n rhaid i chi barhau i roi gwybod am eich incwm a’ch enillion gan ddefnyddio Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Pryd mae angen i chi wneud cais am eithriad

Os ydych yn bodloni amodau penodol, mae’n bosibl y byddwch wedi’ch eithrio’n awtomatig rhag defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Os ydych wedi’ch eithrio’n awtomatig, ac nid oes angen i chi wneud cais am eithriad.

Os nad ydych wedi’ch eithrio’n awtomatig, gallwch wneud cais am eithriad pan mae’r broses i wneud cais yn agor. Bydd angen i chi ddangos nad yw’n rhesymol nac yn ymarferol i chi ddefnyddio meddalwedd i gadw cofnodion digidol a’u cyflwyno.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Tachwedd 2024 + show all updates
  1. The Autumn Budget 2024 announced that Making Tax Digital for Income Tax will be extended to sole traders and landlords with qualifying income over £20,000 by the end of this Parliament.

  2. Information about when you need to use Making Tax Digital for Income Tax has been added. A link to an interactive guidance tool to check if you need to use Making Tax Digital for Income Tax has been added. Guidance about what is included in your qualifying income has been removed from this page.

  3. Information added to confirm how HMRC assess your qualifying income for a tax year and how we assess your qualifying income if you jointly own a property and only receive notice of your share of the income after expenses have been deducted.

  4. Information about who will and who will not need to sign up has been updated.

  5. The guidance has been updated to clarify when you will need to sign up for Making Tax Digital for Income Tax and when you will not need to.

  6. Thresholds for meeting the requirements for Making Tax Digital for Income Tax have been added for April 2026 and April 2027.

  7. Information has been added for you to check if you can use Making Tax Digital for Income Tax. Additional information has been added for what is included in your qualifying income, how you should report other income and how residence and domicile affect your qualifying income.

  8. You only need to follow the Making Tax Digital for Income Tax rules for your UK self-employment and property income if you're resident or domiciled outside the UK.

  9. Added translation

  10. First published.

Print this page