Canslo benthyciad myfyrwyr – os bydd cwsmer yn marw
Os bydd cwsmer yn marw, gellir canslo ei fenthyciad myfyrwyr.
Gallwch ffonio’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu ysgrifennu ato i ddweud wrtho bod rhywun wedi marw.
Y dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon
Bydd angen i chi roi i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr gyfeirnod cwsmer y sawl sydd wedi marw, ac anfon un o’r canlynol:
- y copi gwreiddiol o’r dystysgrif marwolaeth
- y copi gwreiddiol o dystysgrif interim y crwner
- copi o dystysgrif y crwner, wedi’i stampio gan y crwner
- copi o dystysgrif marwolaeth dramor
Ni all y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ganslo unrhyw fenthyciadau heb dystiolaeth.
Cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Dros y ffôn
Yn y DU: 0300 100 0611
Dramor: +44 141 243 3660
Llun-Gwener, rhwng 8am ac 6pm
Yn byw yng Nghymru: 0300 100 0370
Llun-Gwener, rhwng 8am a 6pm
Drwy’r post
Student Loans Company
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 13 Awst 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Rhagfyr 2023 + show all updates
-
Have updated address and opening hours.
-
Added translation