Cyflwyno datganiad toll gwin, seidr a chynhyrchion eplesedig eraill
Cyflwyno datganiad (EX606) i ddatgan toll ar win, seidr a chynhyrchion eplesedig eraill (gwin a wnaed yn ffurfiol) bob mis.
Pryd y dylech gyflwyno Datganiad
Mae’n rhaid i CThEF gael eich datganiad heb fod yn hwyrach na’r 15fed diwrnod o’r mis ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu.
Os yw’r 15fed diwrnod o’r mis yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl gyhoeddus, mae’n rhaid i ni gael eich datganiad erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad hwnnw.
Dylech gyflwyno datganiad hyd yn oed os yw’ch rhwymedigaeth tollau yn sero.
Pan fydd y gyfradd yn newid yn ystod cyfnod cyfrifyddu, mae’n rhaid i chi lenwi 2 ddatganiad ar wahân am y cyfnod. Dylech nodi eich ffurflenni cyn neu ar ôl y gyllideb.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch ddarllen arweiniad ar sut i lenwi’ch datganiad yn:
- adran 7 o gynhyrchu Seidr yn y DU (Hysbysiad Tollau 162) (yn Saesneg)
- adran 7 o gynhyrchu Gwin yn y DU (Hysbysiad Tollau 163) (yn Saesneg)
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y canlynol arnoch:
- enw’r cwmni
- cyfeiriad
- cyfeirnod Unigryw (URN)
- cyfnod y datganiad
- eich cyfraddau Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach os ydych yn gymwys ar gyfer y rhyddhad
- manylion y cynhyrchion sy’n gymwys i gael y gyfradd is ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen
Gallwch ddod o hyd i godau’r math o dreth a chyfraddau ar gyfer y Doll Alcohol yn Tariff Masnach y DU: tollau ecséis, rhyddhadau, anfanteision a lwfansau (yn Saesneg).
Sut i gyflwyno’ch Datganiad
Anfonwch e-bost i CThEF i ofyn am y ffurflen yn Gymraeg.
Cyflwyno’ch datganiad gan ddefnyddio Dropbox
Os oes gennych fynediad at sganiwr, gallwch ofyn i chi gyflwyno eich datganiad drwy Dropbox.
Bob mis, mae angen i chi:
-
Darllen y protocols Dropbox (yn Saesneg).
-
Anfon e-bost yn cadarnhau eich bod yn derbyn y protocols i Taliadau Newid Hinsawdd a Thollau Alcohol yn [email protected].
Yna byddwn yn ymateb ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud nesaf. Peidiwch ag anfon datganiad nes y byddwn yn gofyn i chi wneud hynny.
Cyflwyno’ch datganiad drwy’r post
Dylech argraffu, llenwi a phostio eich datganiad i:
Taliadau Newid Hinsawdd a Thollau Alcohol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r llinell gymorth taliad Toll Gwin neu Seidr a datganiadau (yn Saesneg).
Gall defnyddio print a phost gymryd mwy o amser i ni brosesu.
Yr hyn i’w wneud nesaf
Dysgwch sut i dalu toll gwin neu gwrw (yn Saesneg).
Os yw’r cynhyrchion yn cael eu rhoi mewn warws ecséis
Mae’n rhaid i chi dalu’r doll a rhoi gwybod i CThEF gan ddefnyddio naill ai:
- y Gwasanaeth ar-lein Datganiadau Alcohol a Tybaco (ATWD) (yn Saesneg)
- ffurflen W5 cyngor talu ar gyfer nwyddau alcohol (yn Saesneg) wrth dalu ag arian parod neu gyfwerth
- ffurflen W5D yn gohirio cyngor ar gyfer nwyddau alcohol (yn Saesneg) pan fydd CThEF wedi cymeradwyo eich cais am ohiriad
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Awst 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Awst 2024 + show all updates
-
The email address in the 'Submit your return using dropbox' section has been updated.
-
Welsh translation added.
-
A new version of the EX606 has been added. The guidance has been updated for the changes to Alcohol Duty from 1 August 2023.
-
First published.