Tudalennau atodol CT600C: rhyddhad grŵp a chonsortiwm
Sut i lenwi tudalennau atodol CT600C a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.
Pryd i’w llenwi
Mae angen i chi lenwi’r tudalennau atodol hyn os ydych yn hawlio neu’n ildio unrhyw un o’r canlynol:
-
symiau o dan ddarpariaethau rhyddhad y grŵp a’r (neu’r) consortiwm
-
symiau o dan adran 356NA(3)(b) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (taliadau prydles sydd dros ben ac sydd heb gael eu hystyried at ddibenion cyfrifo elw contractwr sydd wedi’i ddiogelu)
-
swm y colledion a gariwyd ymlaen o dan y rheolau diwygio colledion
Gwybodaeth am y cwmni
C1 Enw’r cwmni
Nodwch enw’r cwmni.
C2 Cyfeirnod treth
Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 10 digid ar gyfer y cwmni.
Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)
C3
Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.
C4
Rhan 1: hawliadau am ryddhad grŵp
Llenwch y rhan hon os ydych yn hawlio rhyddhad grŵp yn eich cyfrifiad o Dreth Gorfforaeth sy’n daladwy. Mae’n rhaid i hawliadau rhyddhad grŵp mewn perthynas â cholledion a gariwyd ymlaen gael eu nodi yn Rhan 3 yn unig.
Oni bai bod trefniant syml ar waith, mae’n rhaid i chi hefyd atodi copi i’r hawliad o hysbysiad o gydsyniad pob cwmni sy’n ildio. Dylech gynnwys hawliadau a wnaed o dan ddarpariaethau’r consortiwm, ac atodi copi o hysbysiad o gydsyniad pob aelod o’r consortiwm.
C5 Manylion y cwmni sy’n ildio
Nodwch y manylion canlynol ar gyfer pob ildiad:
-
enw’r cwmni sy’n ildio
-
cyfnod cyfrifyddu y cwmni sy’n ildio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth
-
cyfeirnod treth y cwmni sy’n ildio, neu wybodaeth arall a all helpu gydag adnabod y cwmni, er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni
-
swm yr ildiad a hawliwyd
C10 Y cyfanswm a hawliwyd
Nodwch gyfanswm y rhyddhad grŵp a hawliwyd.
Nodwch y ffigur o flwch C10 ym mlwch 310 o’ch ffurflen CT600.
C15 Colledion masnachol sefydliad parhaol
Nodwch ‘X’ os yw hawliad am ryddhad grŵp yn cynnwys colledion o fasnach a gynhaliwyd yn y DU drwy sefydliad parhaol gan gwmni dibreswyl.
Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM80310: sefydliad parhaol yn y DU sy’n perthyn i gwmni dibreswyl (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
C20 Colledion cwmni dibreswyl
Nodwch ‘X’ os yw hawliad am ryddhad grŵp yn cynnwys colledion cwmni dibreswyl, heblaw’r rhai a gwmpesir gan flwch C15, neu sy’n ymwneud â chwmni cyswllt dibreswyl.
Mae hawliad yn cynnwys cwmni dibreswyl os yw’r hawliwr, sef y cwmni sy’n ildio neu unrhyw gwmni arall sydd â pherthynas sefydledig gyda’r grŵp, yn ddibreswyl.
Ni allwch wneud hawliad am ryddhad grŵp am golledion gan gwmni dibreswyl (oni bai drwy sefydliadau parhaol yn y DU) ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu a ddechreuodd ar 27 Hydref 2021, neu ar ôl hynny.
Bydd unrhyw gyfnod cyfrifyddu sy’n cwympo’r naill ochr i 27 Hydref 2021 yn cael ei drin fel 2 gyfnod ar wahân:
-
un cyfnod sy’n dod i ben ar 26 Hydref 2021
-
un cyfnod sy’n dechrau ar 27 Hydref 2021
Awdurdodi hawliad
Llenwch yr adran hon os oes trefniadau syml ar waith, ac nad oes copïau o’r cydsyniad wedi’u darparu.
Rhan 2: symiau sydd wedi’u hildio fel rhyddhad grŵp
Llenwch y rhan hon os yw’r cwmni’n ildio unrhyw swm o dan ddarpariaethau’r grŵp (neu’r consortiwm). Mae’n rhaid i hawliadau rhyddhad grŵp mewn perthynas â cholledion a gariwyd ymlaen gael eu nodi yn Rhan 4 yn unig.
Oni bai bod trefniant syml ar waith:
-
mae angen hysbysiad o gydsyniad ar gyfer pob hawliad
-
gall y rhan hon gael ei derbyn fel hysbysiad o gydsyniad os caiff ei llenwi gan berson awdurdodedig, ac mae manylion y cwmni sy’n ildio yn cael eu nodi
-
mae angen anfon copi o’r hysbysiad o gydsyniad at swyddfa CThEF sy’n delio â Ffurflen Dreth y cwmni sy’n hawlio — mae angen gwneud hyn naill ai ar yr un pryd ag y bydd y cwmni sy’n hawlio yn cyflwyno’i Ffurflen Dreth ar gyfer hawlio’r rhyddhad grŵp, neu cyn hynny
-
bydd angen cydsyniad pob aelod arall o’r consortiwm er mwyn cael rhyddhad consortiwm
C45 Colledion masnachu — cyfanswm
Nodwch swm y colledion masnachu a ildiwyd.
C46 Colledion masnachu — Gogledd Iwerddon
Gadewch y blwch hwn yn wag.
C50 Lwfansau cyfalaf anfasnachol dros ben sy’n uwch na’r incwm y maent wedi’u didynnu ohono yn y lle cyntaf
Nodwch swm y lwfansau cyfalaf anfasnachol a ildiwyd.
C55 Diffyg anfasnachol ar gysylltiadau benthyciadau
Nodwch swm y diffygion anfasnachol a ildiwyd.
C60 Rhoddion elusennol cymwys dros ben sy’n uwch na’r elw
Nodwch swm y rhoddion elusennol a’r rhoddion chwaraeon ar lefel llawr gwlad a ildiwyd.
C65 Colledion busnes eiddo yn y DU dros ben sy’n uwch na’r elw
Nodwch swm y colledion a ildiwyd.
C70 Treuliau rheoli dros ben sy’n uwch na’r elw
Nodwch swm y treuliau rheoli a ildiwyd.
C75 Diffyg anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol
Nodwch swm y diffygion anfasnachol a ildiwyd.
C80 Cyfanswm
Nodwch y cyfanswm a ildiwyd.
C85 Manylion yr ildiad
Nodwch y manylion canlynol ar gyfer pob ildiad:
-
enw’r cwmni sy’n hawlio
-
cyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n hawlio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth
-
cyfeirnod treth y cwmni sy’n hawlio, neu wybodaeth arall a all helpu gydag adnabod y cwmni, er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni
-
y swm a ildiwyd
C90 Y cyfanswm a ildiwyd
Nodwch y cyfanswm a ildiwyd.
Manylion y cwmni sy’n ildio rhyddhad
Llenwch yr adran hon i gyd os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon fel hysbysiad o gydsyniad i ildio.
C115 Enw llawn yr unigolyn sy’n awdurdodi
Oni bai bod datodwr neu weinyddwr wedi’i benodi, gall unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi i lenwi’r adran hon ar ran y cwmni fynd ati i wneud hynny.
Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM80100: Grwpiau a chonsortia: rhyddhad grŵp (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
Rhan 3: hawliadau am ryddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen
Llenwch y rhan hon os ydych yn hawlio rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen yn eich cyfrifiad o Dreth Gorfforaeth sy’n daladwy. Oni bai bod trefniant syml ar waith, mae’n rhaid i chi hefyd atodi copi i’r hawliad o hysbysiad o gydsyniad pob cwmni sy’n ildio. Dylech gynnwys hawliadau a wnaed o dan ddarpariaethau’r consortiwm, ac atodi copi o hysbysiad o gydsyniad pob aelod o’r consortiwm.
C125 Manylion y cwmni sy’n ildio
Nodwch y manylion canlynol ar gyfer pob ildiad:
-
enw’r cwmni sy’n ildio
-
cyfnod cyfrifyddu y cwmni sy’n ildio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth
-
cyfeirnod treth y cwmni sy’n ildio, neu wybodaeth arall a all helpu gydag adnabod y cwmni, er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni
-
swm yr ildiad a hawliwyd
C130 Y cyfanswm a hawliwyd
Nodwch gyfanswm y rhyddhad grŵp a hawliwyd.
Nodwch y ffigur o flwch C130 ym mlwch 312 o’ch ffurflen CT600.
C135 Colledion masnachol sefydliad parhaol
Nodwch ‘X’ os yw hawliad am ryddhad grŵp yn cynnwys colledion o fasnach a gynhaliwyd yn y DU drwy sefydliad parhaol gan gwmni dibreswyl.
Awdurdodi hawliad
Llenwch yr adran hon os oes trefniadau syml ar waith, ac nad oes copïau o’r cydsyniad wedi’u darparu.
Rhan 4: symiau sydd wedi’u hildio fel rhyddhad grŵp
Llenwch y rhan hon os yw’r cwmni’n ildio unrhyw swm o golled a gariwyd ymlaen o dan ddarpariaethau’r grŵp (neu’r consortiwm).
Oni bai bod trefniant syml ar waith:
-
mae angen hysbysiad o gydsyniad ar gyfer pob hawliad
-
gall y rhan hon gael ei derbyn fel hysbysiad o gydsyniad os caiff ei llenwi gan berson awdurdodedig, ac mae manylion y cwmni sy’n ildio yn cael eu nodi
-
mae angen anfon copi o’r hysbysiad o gydsyniad at swyddfa CThEF sy’n delio â Ffurflen Dreth y cwmni sy’n hawlio — mae angen gwneud hyn naill ai ar yr un pryd ag y bydd y cwmni sy’n hawlio yn cyflwyno’i Ffurflen Dreth ar gyfer hawlio’r rhyddhad grŵp, neu cyn hynny
-
bydd angen cydsyniad pob aelod arall o’r consortiwm er mwyn cael rhyddhad consortiwm
C160 Colledion masnachu a gariwyd ymlaen — cyfanswm
Nodwch swm y colledion masnachu a ildiwyd.
C161 Colledion masnachu a gariwyd ymlaen — Gogledd Iwerddon
Gadewch y blwch hwn yn wag.
C165 Diffyg anfasnachol ar gysylltiadau benthyciadau a gariwyd ymlaen
Nodwch swm y diffygion anfasnachol a ildiwyd.
C170 Colledion busnes eiddo yn y DU a gariwyd ymlaen
Nodwch swm y colledion a ildiwyd.
C175 Treuliau rheoli a gariwyd ymlaen
Nodwch swm y treuliau rheoli a ildiwyd.
C180 Diffyg anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol a gariwyd ymlaen
Nodwch swm y diffygion anfasnachol a ildiwyd.
C185 Cyfanswm
Nodwch y cyfanswm a ildiwyd.
C190 Manylion yr ildiad
Nodwch y manylion canlynol ar gyfer pob ildiad:
-
enw’r cwmni sy’n hawlio
-
cyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n hawlio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth
-
cyfeirnod treth y cwmni sy’n hawlio, neu wybodaeth arall a all helpu gydag adnabod y cwmni, er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni
-
y swm a ildiwyd
C195 Y cyfanswm a ildiwyd
Nodwch y cyfanswm a ildiwyd.
Manylion y cwmni sy’n ildio rhyddhad
Llenwch yr adran hon i gyd os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon fel hysbysiad o gydsyniad i ildio.
C220 Enw llawn yr unigolyn sy’n awdurdodi
Oni bai bod datodwr neu weinyddwr wedi’i benodi, gall unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi i lenwi’r adran hon ar ran y cwmni fynd ati i wneud hynny.
Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM82000: Treth Gorfforaeth: Rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Ionawr 2024 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
First published.