Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am newidiadau i’ch cofrestriad GUC Mewnforio TAW yn yr UE

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF eich bod wedi datgofrestru rhag defnyddio’r Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW o ran Mewnforio (GUC Mewnforio) mewn gwlad yn yr UE neu wedi newid manylion eich busnes.

Gallwch ond defnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF am y canlynol:

Cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’n rhaid i chi ddatgofrestru neu newid eich manylion busnes yn y wlad lle rydych wedi cofrestru.

Pwy all roi gwybod i CThEF

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn un o’r canlynol:

  • perchennog y busnes
  • cyfryngwr sy’n gweithredu ar ran perchennog y busnes

Mae cyfryngwr yn berson sydd wedi cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio yn yr UE ac sy’n gyfrifol am roi cyfrif am TAW ar gyfer cyflenwr sy’n gwerthu nwyddau a fewnforiwyd o bell.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mewngofnodwch i’r gwasanaeth gan ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth, neu gallwch ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost.

Os ydych yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi datgofrestru o’r cynllun GUC Mewnforio TAW

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif cofrestru GUC Mewnforio
  • y dyddiad y gwnaethoch ddatgofrestru o’r cynllun GUC Mewnforio yn yr UE
  • enw’r wlad lle rydych wedi datgofrestru

Os ydych yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi newid eich manylion busnes

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich cyfeiriad busnes newydd, eich manylion cyswllt newydd neu’ch rhif cofrestru TAW newydd yn y DU, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi newid
  • eich rhif cofrestru GUC Mewnforio
  • enw’r wlad yn yr UE lle rydych wedi cofrestru

Sut i roi gwybod i CThEF

Bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost, er mwyn i ni allu cadarnhau’ch newidiadau.

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau eich bod wedi rhoi gwybod i ni am y newidiadau i’ch cofrestriad GUC Mewnforio TAW neu i’ch manylion busnes.

Byddwn yn diweddaru ein cofnodion gan ddefnyddio’r wybodaeth a roddwyd gennych.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Hydref 2024 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.

Print this page