Rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi cofrestru ar gyfer y GUC Mewnforio TAW yn yr UE
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW o ran Mewnforio (GUC Mewnforio) yn yr UE ac yn gwerthu nwyddau cymwys gwerth isel i mewn i Ogledd Iwerddon, defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi’ch rhif cofrestru GUC Mewnforio TAW i CThEF.
Cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio TAW mewn gwlad yn yr UE.
Os ydych yn gwerthu nwyddau gwerth isel mewn llwythi nad ydynt yn werth mwy na £135 i mewn i Ogledd Iwerddon a’ch bod wedi cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW o ran Mewnforio (GUC Mewnforio) yn yr UE (yn agor tudalen Saesneg), mae’n rhaid i chi roi’ch rhif cofrestru GUC Mewnforio i CThEF.
Mae hyn yn golygu:
- os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yn y DU, gallwch roi cyfrif am TAW cyflenwi ar eich gwerthiannau cymwys o nwyddau gwerth isel i mewn i Ogledd Iwerddon ar eich datganiad GUC Mewnforio
- nid ydych yn rhoi cyfrif am TAW mewnforio pan fydd y nwyddau’n dod i mewn i Ogledd Iwerddon
Mae’n rhaid i chi roi’ch rhif cofrestru GUC Mewnforio i CThEF os ydych yn gweithredu ar ran busnes fel cyfryngwr yn yr UE. Gallwch gynnwys yr holl fusnesau rydych yn eu cynrychioli ar un ffurflen.
Mae cyfryngwr yn berson sydd wedi cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio yn yr UE ac sy’n gyfrifol am roi cyfrif am TAW ar gyfer cyflenwr sy’n gwerthu nwyddau a fewnforiwyd o bell.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif cofrestru GUC Mewnforio
- enw’r wlad yn yr UE lle rydych wedi cofrestru
- eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt
- eich rhif cofrestru TAW yn y DU, os yw’n berthnasol
Sut i roi gwybod i CThEF
Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn.
Bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost er mwyn i ni allu cadarnhau’ch manylion.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yn y DU
O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, os ydych wedi cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio, dylech roi cyfrif am TAW ar werthu nwyddau cymwys gwerth isel mewn llwythi nad ydynt yn werth mwy na £135 i mewn i Ogledd Iwerddon ar eich datganiad GUC Mewnforio.
Os ydych yn gwneud cyflenwadau o nwyddau nad ydynt wedi’u cynnwys o dan y cynllun GUC Mewnforio, mae’n rhaid i chi roi cyfrif am TAW o dan y rheolau arferol.
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yn y DU
Os ydych yn fusnes ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) sydd wedi cofrestru ar gyfer y GUC Mewnforio, does dim rhaid i chi godi TAW ar werthu nwyddau gwerth isel i mewn i Ogledd Iwerddon.
Os yw’ch manylion cofrestru GUC Mewnforio TAW wedi newid
Dysgwch sut i roi gwybod i CThEF am newidiadau i’ch cofrestriad GUC Mewnforio TAW yn yr UE.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Hydref 2024 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
The section 'If your VAT IOSS registration details have changed' has been added.
-
The page has been updated with more information about intermediaries, who can now enter details for multiple businesses on the same form.
-
First published.