Rhoi gwybod i CThEF am ansolfedd ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
Sut i roi gwybod i CThEF os bydd sefydliad yn mynd yn ansolfent at ddibenion Treth Deunydd Pacio Plastig, a sut i anfon unrhyw Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru.
Os ydych yn ymarferydd ansolfedd, gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i roi gwybod i CThEF bod sefydliad wedi mynd yn ansolfent. Os nad yw’r sefydliad yn masnachu mwyach, ac os na allwch gael mynediad at y cyfrif Treth Deunydd Pacio Plastig ar-lein, gallwch hefyd gyflwyno Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru.
Os yw’r sefydliad yn masnachu o hyd, does dim angen i chi roi gwybod i ni ynghylch yr ansolfedd mewn perthynas â’r Dreth Deunydd Pacio Plastig. Dylech barhau i ddefnyddio’r cyfrif ar-lein Treth Deunydd Pacio Plastig i wneud y canlynol:
- cyflwyno Ffurflenni Treth
- datgofrestru’r sefydliad, os byddant yn rhoi’r gorau i fasnachu a pryd y byddant yn gwneud hynny
Cyn i chi ddechrau
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Mae’n rhaid i chi roi’r manylion canlynol i ni:
- enw’r sefydliad
- cyfeiriad y busnes
- cyfeirnod ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
- y math o ansolfedd — yn nwylo’r gweinyddwyr, datodiad gwirfoddol aelodau, datodiad gwirfoddol credydwyr
- y dyddiad pan ddaeth y busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd
- dyddiad datgofrestru
Rhoi gwybod am ansolfedd
Gallwch roi gwybod am ansolfedd yn ogystal â chyflwyno unrhyw Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru o’r gwasanaeth.
Byddwn yn anelu at ddelio â’ch cais cyn pen 28 diwrnod gwaith.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
-
Byddwch yn cael cyfeirnod ac e-bost cadarnhau.
-
Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen i chi gyflwyno rhagor o dystiolaeth.
Os oes angen i chi gysylltu â ni i gael help pellach, gallwch ddefnyddio’r manylion cyswllt o’r dudalen we ymholiadau ynghylch Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Mai 2024 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
First published.