Y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion: gweithio fel dosbarthwr
Dysgwch sut i ddod yn ddosbarthwr trwyddedig ar gyfer y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion..
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Er mwyn dosbarthu carcasau eidion mae’n rhaid i chi gael trwydded hyfedredd gan adran Cynlluniau Technegol Cig o’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA).
Mae’r broses gwneud cais yn cynnwys prawf.
Gwneud cais am drwydded
Llenwch
, gofynnwch am un gan arolygydd yn ystod arolygiad, neu cysylltwch â RPA yn uniongyrchol.E-bost [email protected]
Ffôn 01228 640 369
Meat Technical Schemes team
Rural Payments Agency
Eden Bridge House
Lowther Street
Carlisle
CA3 8DX
Ar ôl i chi anfon eich ffurflen wedi’i chwblhau, bydd arolygydd o’r Arolygiaeth Da Byw a Chig (rhan o RPA) yn cadarnhau eich bod yn deall egwyddorion dosbarthu carcasau Os bydd yn fodlon, bydd yn trefnu i chi sefyll prawf sy’n cynnwys graddio 40 o garcasau. Bydd arolygwyr yn asesu a yw eich gwaith yn cyrraedd safon dderbyniol
Archwiliadau dilynol
Ar ôl i chi ddechrau gweithio fel dosbarthwr, mae’n rhaid i chi gario eich trwydded bob amser a’i dangos i arolygwyr os byddant yn gofyn am gael ei gweld
Bydd arolygwyr yn monitro safon eich gwaith yn ystod eu harchwiliadau rheolaidd. Os byddwch yn methu’r asesiadau hyn gellir dirymu eich trwydded a bydd yn rhaid i chi sefyll prawf arall er mwyn profi y gallwch gyrraedd y safon ofynnol
Pryd y dylech ddychwelyd eich trwydded hyfedredd
Mae’n rhaid i chi hysbysu RPA a dychwelyd eich trwydded i’r cyfeiriad uchod o dan yr amgylchiadau canlynol:
- nid yw eich gwaith yn cynnwys dosbarthu carcasau mwyach
- rydych yn rhoi’r gorau i weithio i’r cyflogwr a enwir ar eich trwydded
- rydych yn newid eich cyfeiriad cartref (os ydych yn hunangyflogedig); bydd RPA yn newid eich cyfeiriad ac yn dychwelyd y drwydded atoch
Os bydd RPA yn gofyn i chi ddychwelyd eich trwydded am unrhyw reswm arall, mae’n rhaid i chi wneud hynny
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ionawr 2021 + show all updates
-
Accessible version of licence application form added
-
Text reviewed and updated
-
Updated MTSA1 form
-
First published.