Canllawiau

Carchar The Mount

Mae The Mount yn garchar i ddynion yn Bovingdon, Swydd Hertford.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â The Mount

I ymweld â rhywun yn The Mount, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • bwcio eich ymweliad o leiaf 3 ddiwrnod ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda The Mount.

Cysylltwch â The Mount os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i The Mount
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Rhif llinell archebu dros y ffôn: 01442 836 352.

Bydd y llinell ffôn archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 12pm.

Bydd y llinell archebu ar-lein ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm.

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Llun: 9am i 10:45am a 2pm i 3:45pm
  • Dydd Mawrth: 2pm i 3:45pm
  • Dydd Mercher: 9am i 10:45am a 2pm i 3:45pm
  • Dydd Iau: 2pm i 3:45pm
  • Dydd Gwener: dim ymweliadau
  • Dydd Sadwrn: 9:30am i 11am a 2pm i 3:30pm
  • Dydd Sul: 2pm i 3:30pm

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Gallwch chi drefnu ymweliad cyfreithiol drwy anfon e-bost at [email protected]

Amseroedd ymweliadau cyfreithiol:

  • Dydd Mawrth: 9am i 10:45am
  • Dydd Iau: 9am i 10:45am

Cyrraedd The Mount

Dod o hyd i The Mount ar fap

Y cod post SatNav i’w roi yw HP3 0RU.

Yr orsaf drenau agosaf yw Hemel Hempstead, sy’n daith 5-10 munud mewn tacsi o’r carchar.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Mae llefydd parcio am ddim, gan gynnwys rhai llefydd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Mynd i mewn i The Mount

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael eich arogli gan gŵn diogelwch, yn cael sgan llygaid neu’n cymryd rhan mewn profion adnabod wyneb.

Mae gan The Mount bolisi cod gwisg sydd i’w weld yn y ganolfan ymwelwyr. Dylai ymwelwyr wisgo dillad ystyriol o deuluoedd (dim festiau, dim topiau isel, dim trowsus byr, dim ffrogiau byr a dim dillad pen, ar wahân i’r rhai a wisgir am resymau crefyddol.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i The Mount. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer. Gallwch chi adael pramiau yn y ganolfan ymwelwyr os ydych chi wedi dod ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Os byddwch chi’n gadael y neuadd ymwelwyr am unrhyw reswm, ni fyddwch chi’n gallu mynd yn ôl i mewn.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai yn gallu darparu gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion. Gofynnwch i’r ganolfan ymwelwyr i gael mwy o wybodaeth.

Mae gofyn i bob ymwelydd gofrestru wrth y ddesg ac yna mynd i fan aros cyn yr ymweliad.

Mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn y ganolfan a’r neuadd ymweld. Mae lifft ar gael i’r rheini sydd â phroblemau symudedd.

Diwrnodau teulu

Gallwch chi gysylltu â The Mount i gael gwybodaeth am ddiwrnodau teulu.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn The Mount

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn The Mount.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Fideo’r Carchar
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ond bydd yn rhaid iddyn nhw eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallan nhw ffonio unrhyw un sydd wedi’i enwi ar eu rhestr o ffrindiau a theulu y rhan fwyaf o’r dydd. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn The Mount drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan garcharorion, yn dibynnu ar y rheolau yn The Mount.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â The Mount.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae carcharorion yn The Mount yn cael rhestr o eitemau cymeradwy y gellir eu hanfon atynt fel anrhegion. Mae carcharorion yn cael un parsel yn ystod 28 diwrnod cyntaf y ddedfryd. Gall carcharorion sydd â mwy o freintiau gael un parsel y flwyddyn.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gall carcharorion eraill wneud cais i barsel gael ei ystyried.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.   I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.

Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.

Bywyd yn The Mount

Mae The Mount wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yn The Mount hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd The Mount am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd The Mount yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio. Mae cymorth gan gymheiriaid a chymorth un-i-un ar gael.

Llety

Mae dros 1000 o garcharorion yn aros yn The Mount mewn 9 uned arbenigol. Mae’r rhain yn cynnwys unedau ar gyfer pobl dros 50 oed ac ar gyfer lles. Mae gan bob cell ffôn.

Addysg a gwaith

Mae addysg amser llawn a rhan-amser ar gael i helpu gyda llythrennedd a rhifedd, TG, cyflogaeth a sgiliau bywyd. Fel rhan o hyn, ceir hyfforddiant galwedigaethol lle gall carcharorion ddysgu Saesneg, mathemateg, dylunio graffig, technoleg cerddoriaeth, celf, coginio, gwaith barbwr a sgiliau busnes. Mae gweithdai achlysurol ar actio ac ysgrifennu.

Mae llyfrgell wedi’i stocio’n dda sydd hefyd yn darparu gwasanaethau ychwanegol gan Storybook Dads, elusen ddarllen The Shannon Trust, grwpiau ysgrifennu a dysgu o bell y Brifysgol Agored.

Mae’r gweithdai galwedigaethol yn cynnwys warysau a storio, saernïo gwydr, gwaith coed, uwchgylchu beiciau, gosod brics, plastro, sgiliau tasgmon, mecaneg ceir, ailgylchu, garddio a rhostio coffi.

Mae llawer o gyrsiau hyfforddi ar gael ac mae gwaith ar gael yn y fferm a’r gerddi.

Mae amrywiaeth o raglenni sgiliau ac ymddygiad troseddol yn cael eu cynnig i gefnogi ailsefydlu wrth baratoi ar gyfer rhyddhau.

Sefydliadau y mae The Mount yn gweithio gyda nhw

Yr elusen Gofal ac Ailsefydlu Troseddwyr sy’n rhedeg y ganolfan ymwelwyr.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Cymorth yn The Mount

Mae gwasanaethau teulu yn cael eu darparu gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai sy’n darparu cymorth i deuluoedd, yn cynnal cysylltiadau teuluol ac yn cynnig cyrsiau i ddatblygu sgiliau magu plant.

Mae carcharorion yn gallu gwneud cais am gymorth yn y carchar neu gall teuluoedd gael cymorth yn y ganolfan ymwelwyr.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01442 836 300 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01442 836 351 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at [email protected] neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem, gallwch anfon e-bost at [email protected] neu gysylltu â The Mount.

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer The Mount mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â The Mount

Llywodraethwr: John Gormley

Ffôn: 01442 836 300
Ar agor 24 awr
Ffacs: 01442 836 301
Gwybodaeth am gost galwadau

Dilynwch The Mount ar Twitter/X

Cyfeiriad

HMP The Mount
Molyneaux Avenue
Bovingdon
Hemel Hempstead

Hertfordshire
HP3 0NZ

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Awst 2022 + show all updates
  1. Secure video calls update.

  2. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  3. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  4. Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.

  5. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  6. Revised visiting times added.

  7. New visiting times and booking information added.

  8. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  9. visits update

  10. Updated visit info

  11. Updated visit info

  12. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  13. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  14. Updated: HMP The Mount visiting times and visiting procedure changes during coronavirus.

  15. Added survey link

  16. Added email address for complaints.

  17. Prison visits update.

  18. First published.

Print this page