Y Cynllun Graddio Carcasau Moch: trin a graddio carcasau
Mae'n rhaid i ladd-dai sy'n rhan o'r Cynllun Graddio Carcasau Moch gydymffurfio â'r rheoliadau ar gyfer trin, pwyso, graddio a marcio carcasau.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Ar ôl i chi gofrestru â’r Cynllun Graddio Carcasau Moch, mae’n rhaid i chi ddilyn y
rheolau sy’n disgrifio sut i wneud y canlynol:
- trin carcasau
- ailbwyso carcasau
- graddio carcasau yn ôl faint o gig coch y maent yn ei gynnwys (wedyn caiff y radd ei marcio ar y carcas neu ei chofnodi)
Ceir hefyd reolau am y wybodaeth y mae’n rhaid i chi ei chofnodi ar gyfer pob carcas.
Trin carcasau
Mae’n rhaid i chi drin carcasau moch yn unol â manyleb trin yr UE neu fanyleb trin y DU. Ni allwch ddefnyddio eich manyleb trin eich hun.
Manyleb yr UE
Cyn pwyso’r carcas, mae’n rhaid i chi dynnu ymaith y canlynol:
- y tafod
- gwrych (blew)
- carnau
- yr organau cenhedlu
- gwêr yr arennau
- yr arennau
- y diaffram
Manyleb y DU
Yn y DU, caniateir i ladd-dai gyflwyno carcasau moch yn unol â ‘manyleb y DU’.
Caiff carcasau eu trin yn unol â manyleb yr UE, ond:
- gadewir y rhannau canlynol yn y carcas:
- yr arennau
- gwêr yr arennau
- y diaffram
- gellir gadael y tafod yn y carcas neu ei dynnu o’r carcas
Pwyso carcasau
Mae’n rhaid i chi gofnodi pwysau carcasau fel y maent yn ymddangos ar ddangosydd y peiriant pwyso. Ni ddylech dalgrynnu’r pwysau i fyny nac i lawr.
Mae’n rhaid i’r carcas wedi’i drin gael ei bwyso i gofnodi ei bwysau cynnes. Lle y bo’n bosibl, mae’n rhaid gwneud hyn o fewn 45 munud i ladd y mochyn.
Dengys y tabl canlynol y ffactorau eraill sy’n effeithio ar y pwysau cynnes rydych yn eu cofnodi ar gyfer y carcas a’r lleihadau y dylech eu defnyddio (a elwir hefyd yn gyfernodau).
Cyflwyno carcasau | Addasiad i’r pwysau a gofnodwyd (cyfernod) |
---|---|
Pwyswyd gyda’r arennau, gwêr yr arennau a’r diaffram yn y carcas | Mae carcasau sy’n pwyso hyd at 56kg yn lleihau 0.7kg Mae carcasau sy’n pwyso rhwng 56.5kg a 74.5kg yn lleihau 1.1kg; Mae carcasau sy’n pwyso 74.6kg a mwy yn lleihau 1.6kg |
Pwyswyd gyda’r tafod yn y carcas | Mae’n lleihau 0.3kg |
Pwyswyd fwy na 45 munud ar ôl lladd y mochyn | Mae’n lleihau 0.1% am bob 15 munud ychwanegol sy’n mynd heibio neu ran o’r cyfnod |
Er mwyn cyfrifo’r pwysau oer, didynnwch 2% o’r pwysau cynnes.
Graddio carcasau
Ar adeg pwyso’r carcas, mae’n rhaid i ladd-dai sydd wedi’u cofrestru â’r Cynllun Graddio Carcasau Moch hefyd asesu a graddio faint o gig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys.
Nodir isod offerynnau cymeradwy y dylid eu defnyddio i fesur braster y cefn:
- Mewnsgop (Profiedydd Optegol)
- Fat-O-Meater (FOM)
- Profiedydd Graddio Hennessy (HGP II)
- CSB Ultra-Meater
- AutoFom (system graddio carcasau uwchsain hollol awtomatig)
Gellir defnyddio’r canlyniadau wedyn i raddio’r carcas yn ôl y raddfa hon:
Cig coch fel canran o bwysau oer cofnodedig carcas | Gradd |
---|---|
60 neu fwy | S |
55 neu fwy ond llai na 60 | E |
50 neu fwy ond llai na 55 | U |
45 neu fwy ond llai na 50 | R |
40 neu fwy ond llai na 45 | O |
llai na 40 | P |
Cofnodi graddau carcasau
Mae’n rhaid marcio gwybodaeth am radd y carcas yn uniongyrchol ar y carcas neu ei chofnodi pan gaiff ei raddio.
Rhaid i chi farcio carcasau y bwriedir eu hallforio heb dorri i aelod-wladwriaeth o’r UE gyda’r naill na’r llall:
- y llythyren briodol o’r raddfa raddio uchod
- canran y cig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys
Mewn achosion eraill, mae’n rhaid i chi naill ai:
- marcio’r carcas â’r llythyren briodol o’r raddfa raddio neu ganran y cig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys
- cadw cofnod o naill ai’r llythyren o’r raddfa raddio uchod neu ganran y cig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys
Os byddwch yn marcio’n carcas, mae’n rhaid i chi ddefnyddio inc anwenwynig, annileadwy sy’n gwrthsefyll gwres ac mae’n rhaid i’r llythrennau a’r rhifau fod o leiaf 2 gentimedr o uchder.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 Mai 2024 + show all updates
-
A new section has been added between the UK Specification and Weigh Carcasses section titled 'Sticking Wound.'
-
An example has been added to 'weigh carcass'
-
Text reviewed and updated
-
First published.