Y Cynllun Graddio Carcasau Moch: cadw cofnodion
Sut i brofi bod eich lladd-dy yn cydymffurfio â'r Cynllun Graddio Carcasau Moch.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’n rhaid i ladd-dai sy’n gorfod cydymffurfio â’r Cynllun Graddio Carcasau Moch gadw cofnodion sy’n profi eu bod wedi cydymffurfio â’r rheolau.
Yr hyn y dylech ei gofnodi
Mae’n rhaid i chi gadw, o leiaf, y cofnodion canlynol ar gyfer pob carcas:
- canlyniadau’r broses ddosbarthu
- rhif cymeradwyo’r lladd-dy
- rhif lladd yr anifail y cafwyd y carcas ohono, fel y’i pennwyd gan y gweithredwr
- y dyddiad lladd
- pwysau cynnes y carcas ynghyd â chofnod o’r canlynol:
- unrhyw addasiad a wnaed ar gyfer pwysau carcas oer
- unrhyw gyfernod a ddefnyddiwyd
- faint o gig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys
- p’un a oedd y tafod, gwêr yr arennau, yr arennau neu’r diaffram ynghlwm wrth y carcas neu a oeddent wedi’u tynnu ymaith
- enw a llofnod yr unigolyn a ddosbarthodd y carcas
Pa mor hir y mae’n rhaid cadw’r cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw eich cofnodion am o leiaf 12 mis calendr o ddiwedd y flwyddyn galendr y cawsant eu gwneud.