Brandio a Chyhoeddusrwydd (6)
Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar frandio a chyhoeddusrwydd ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Brandio a chyhoeddusrwydd
6.1 Mae brandio a chyhoeddusrwydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod agenda ehangach llywodraeth y DU yn cael ei hyrwyddo yn effeithiol a’i chydnabod, ac fel rhan o hynny, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU).
6.2 Mae’r gofynion hyn yn ymwneud â’r holl ddeunyddiau cyfathrebu a dogfennau sy’n ymwneud â’r cyhoedd yn gysylltiedig â gweithgarwch a ariennir – gan gynnwys print a chyhoeddiadau, a deunyddiau digidol ac electronig. Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgarwch paratoadol sy’n gysylltiedig â’r Gronfa.
6.3 Rhaid i bob Derbynnydd Grant gydymffurfio â’r gofynion hyn. Mae’r rhain yn disodli’r wybodaeth flaenorol am frandio a chyhoeddusrwydd, a ddiweddarwyd ar 8 Mawrth 2023 (Cymru, Lloegr a’r Alban) a 12 Mehefin 2023 (Gogledd Iwerddon). Wrth symud ymlaen, dylai unrhyw brosiectau CFfGDU ddefnyddio’r logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ yn unig, ac ni ddylech ddefnyddio’r logo ‘Wedi’i Yrru gan Ffyniant Bro’ mwyach. Nid yw lleoliad y logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ yn newid.
Nid ydym yn disgwyl i asedau presennol â’r brandio Ffyniant Bro gael eu tynnu i lawr neu eu gwaredu, ond dylid eu diwygio pan gaiff asedau eu diweddaru nesaf.
Gofynion brandio Llywodraeth y DU
6.4 Rhaid dilyn gofynion cyhoeddusrwydd a brandio llywodraeth y DU ar gyfer pob prosiect a ariennir gan Llywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys CFfGDU. Mae’r gofynion yn cwmpasu nifer o feysydd gan gynnwys defnyddio logo, cynhyrchu placiau, deunyddiau print a digidol, a hefyd cyd-frandio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Funded by UK government Branding Manual
6.5 Ar gyfer CFfGDU, caniateir cyd-frandio gyda chyllidwyr, derbynyddion grantiau neu ddarparwyr ar y cyd yn unig.
Gofynion penodol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
6.6 Yn ogystal â gofynion llywodraeth y DU a nodir uchod, rhaid cadw at nifer o ofynion ychwanegol ar gyfer prosiectau CFfGDU. Rhestrir y rhain isod:
Deunyddiau digidol gan gynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
6.7 Gall sianeli digidol fod yn ffordd gyflym o gyrraedd cynulleidfaoedd a hyrwyddo gweithgareddau’r Gronfa. Lle cyhoeddir manylion gweithgareddau’r Gronfa ar wefan, rhaid cynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at y cyllid gan CFfGDU fel a ganlyn:
‘Mae’r prosiect hwn wedi ei [ariannu/ariannu yn rhannol] gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’
6.8 Os yw hynny’n ymarferol, dylai darparwyr prosiectau gynnwys dolen i dudalen we Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU hefyd, yn ogystal â’r testun canlynol (y mae’n rhaid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer nodiadau i olygyddion):
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
6.9 Wrth ddisgrifio neu hyrwyddo gweithgareddau’r Gronfa ar gyfryngau cymdeithasol fel Twitter, dylid defnyddio’r hashnod (#) canlynol #CFfGDU. Bydd Llywodraeth y DU yn gallu aildrydar hwn gan alluogi eraill i ddilyn gweithgareddau’r Gronfa.
6.10 Ffordd gost-effeithiol o hyrwyddo gweithgareddau’r Gronfa yw drwy’r cyfryngau. Mae’n arfer da datblygu datganiadau i’r wasg wrth lansio gweithgareddau, a chyhoeddi cerrig milltir a chyflawniadau allweddol wedi hynny.
6.11 Rhaid i ddatganiadau i’r wasg gynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at CFfGDU ym mhrif gorff y datganiad i’r wasg fel a ganlyn:
‘Mae [y prosiect hwn/Enw’r prosiect] wedi derbyn £[NODER Y SWM] gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU’.
6.12 Mae hefyd yn ofynnol defnyddio nodiadau penodol i olygyddion ym mhob gweithgarwch cyfryngol. Mae’r testun i’w ddefnyddio wedi’i ddarparu uchod yn yr adran Deunyddiau Digidol.
6.13 Nid oes angen i ni weld unrhyw weithgarwch brandio a chyhoeddusrwydd a wneir gan ddarparwyr prosiectau wrth gyflawni gweithgareddau’r Gronfa, ond dylid cadw tystiolaeth o gydymffurfio â chanllawiau brandio a chyhoeddusrwydd at ddibenion monitro ac archwilio.
6.14 Sicrhewch hefyd eich bod yn rhoi gwybod i Llywodraeth y DU am unrhyw gyfleoedd cyhoeddusrwydd yn y dyfodol, drwy eich adroddiadau i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Gorffennaf 2024 + show all updates
-
MHCLG has issued revised guidance on the UK Shared Prosperity Fund branding requirements for England, Scotland and Wales.
-
Updated link to latest guidance on UK government branding requirements.
-
Welsh added
-
Added translation