Canllawiau

Adrodd, monitro a rheoli perfformiad (3)

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar adrodd a rheoli perfformiad ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Adrodd

3.1 Lluniwyd UKSPF i roi’r grym i bob man ar draws y DU gymryd yr awenau wrth lunio a chyflawni’r Gronfa. Yn unol â’r prosbectws, bydd ar yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau angen adroddiad ffurfiol bob chwe mis. I gefnogi ein dealltwriaeth o gynnydd, byddwn yn gofyn hefyd i awdurdodau lleol arweiniol ddarparu crynodebau bob tri mis.

Y cwestiynau a ofynnir i awdurdodau arweiniol a’r data a gasglwn.

Y cwestiynau a ofynnir i awdurdodau arweiniol a’r data a gasglwn

3.2 Bydd awdurdodau lleol arweiniol yn darparu diweddariadau cryno byr, ansoddol yn bennaf, i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau bob tri mis. Bydd hyn yn cynnwys y cwestiynau canlynol:

Cwestiynau cryno

  • Y gwariant hyd yn hyn yn erbyn tair blaenoriaeth fuddsoddi UKSPF a’r rhagolwg?
  • Y gwariant hyd yn hyn a’r rhagolwg ar gyfer (yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon)?
  • Y gwariant hyd yn hyn a’r rhagolwg ar gyfer y Rural England Prosperity Fund (o Flwyddyn Ariannol 2023-24 ymlaen, Lloegr yn unig)?
  • Y gwariant hyd yn hyn a’r rhagolwg ar gyfer Rheoli a Gweinyddu?
  • Crynodeb o gynnydd gyda chofnod Coch, Melyn, Gwyrdd cyffredinol o gynnydd a thuedd (gan ddefnyddio cwymplenni). A diweddariad cryno byr, storïol, o gynnydd (250 gair ar y mwyaf)
  • Y tanwariant a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (cyfansymiau cyfalaf a refeniw), a manylion am faint o gyllid y mae’r awdurdod lleol arweiniol yn dymuno newid ei broffil yn y Flwyddyn Ariannol nesaf?
  • Edrych Ymlaen: darparu naratif yn amlygu unrhyw brosiectau, digwyddiadau ac astudiaethau achos newydd a chyfleoedd am ymweliadau gan Weinidogion (uchafswm o 200 gair).

3.3 Gofynnir hefyd i awdurdodau lleol arweiniol ateb cwestiwn unigol am sut maent wedi gwario cyllid capasiti. Yn flynyddol, byddwn hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol a ydynt wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwerthuso i ategu gwerthusiad yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau o’r rhaglen.

3.4 Bydd cwestiynau manylach am Brosiectau, Allbynnau a Chanlyniadau, a Gwariant, yn ategu adrodd cryno bob chwe mis, yng nghanol y Flwyddyn Ariannol ac ar ddiwedd y Flwyddyn Ariannol. Mae’r cwestiynau ychwanegol y byddwn yn eu gofyn, a haen y rhaglen y maent yn perthyn iddo, wedi’u hamlinellu isod:

Cwestiynau Adrodd Cryno Ychwanegol – diwedd Blwyddyn Ariannol 2022-23

3.5. Ar ôl gofyn i awdurdodau lleol arweiniol amcangyfrif gwariant diwedd y flwyddyn a thanwariannau tebygol yn eu Hadroddiad Cryno cynaf, bydd adroddiad diwedd Blwyddyn Ariannol 2022-23, a ddisgwylir ar 2 Mai 2023, yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol sydd wedi dweud eu bod yn dymuno newid proffil tanwariannau i’r flwyddyn ariannol nesaf ddatgan sut maent yn bwriadu sicrhau y gellir defnyddio’r cyllid y newidiwyd ei broffil ynghyd â’r dyraniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (500 gair ar y mwyaf).

Cynllun credadwy

3.6. Rydym wedi ceisio cyfyngu’r cwestiynau ychwanegol y byddwn yn eu gofyn i awdurdodau lleol arweiniol yn eu hadroddiadau chwe misol manylach, yn unol ag egwyddorion annibyniaeth, penderfynu ac atebolrwydd lleol. Ymagwedd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau at reoli perfformiad yw y dylai fod yn gymesur, gan ofyn dim ond am y wybodaeth y mae ei hangen arnom i ddeall cynnydd y cyflawni a bodloni ein dyletswyddau ein hunain.

Mae’r cwestiynau a ofynnwn, a haen y rhaglen y maent yn gysylltiedig â hi, wedi’u hamlinellu isod:

Lefel prosiect

  • Enw’r Prosiect (rhestrir prosiectau yn ôl Blaenoriaeth Buddsoddi)
  • Disgrifiad o’r Prosiect – disgrifiad byr o’r prosiect (10 gair ar y mwyaf), er enghraifft: Grantiau Datblygu Busnes Lleol.
  • Prosiect newydd neu brosiect sy’n rhagflaenu UKSPF – ai parhad prosiect presennol gyda chyllid UKSPF yw hwn, neu brosiect newydd?
  • Prif ymyrraeth yr UKSPF y sefydlwyd y prosiect i’w chefnogi – prif ymyrraeth, ar sail gwariant
  • Ymyriadau eilaidd (os ydynt yn berthnasol)
  • Lleoliad – Cod post y prosiect neu God Post Cyflawni’r Prosiect (os yw’n berthnasol)). Ardaloedd awdurdodau lleol a fydd yn elwa
  • Arweinydd Cyflawni – enw’r sefydliad sy’n cyflawni’r prosiect
  • Math o sefydliad sy’n cyflawni’r prosiect – e.e. sefydliadau sector gwirfoddol, sector preifat ac ati
  • Statws - h.y., Yn yr arfaeth, Byw, Gorffenedig (wedi’i gwblhau), Caewyd (wedi’i atal yn gynnar)
  • Rheswm dros gau – os caewyd prosiect yn gynnar, yn hytrach na chael ei gwblhau’n llwyddiannus
  • Cyfanswm cyllideb UKSPF, yn ôl amcan – cyllideb UKSPF / REPF (os yw’n berthnasol) a Chyfanswm Cyllideb (o bob ffynhonnell)
  • Ffynonellau cyllid cyntaf ac eilaidd nad ydynt o UKSPF

Mae gofyn am Gyllideb Prosiect yn golygu y bydd ond angen diweddaru manylion prosiect, ar ôl ei restru, pan fydd y prosiect yn dod i ben, neu os oes newid sylweddol i amcanion y prosiect (newid ymyrraeth) neu i gyllideb y prosiect, yn hytrach nag ar gyfer pob ffurflen.

Allbynnau a chanlyniadau

3.7 Gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar gyflawni Allbynnau a Chanlyniadau yn gronnus, gan ddefnyddio’r un templed ag ar gyfer cynlluniau buddsoddi. Mae celloedd dan glo yn nhempled y cynllun buddsoddi ar agor yn awr er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar gyflawni deilliannau na fwriadwyd yn eu cynllun buddsoddi.

Proffil gwariant

3.8 Gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar wariant gwirioneddol hyd yn hyn, o gymharu â dyraniadau cyllid. Ym mis Mai 2023, byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar wariant ar gyfer pob ymyrraeth o ddechrau’r cyflawni hyd at 31 Mawrth 2023, gan ofyn am gyfanswm y gwariant o gymharu â’r rhagolwg (dyraniad), a’r rhaniad rhwng cyfalaf a refeniw. Hefyd, byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar unrhyw gyllid cyfatebol neu gyllid trydydd parti.

3.9 Dylid adrodd ar wariant ar reoli a gweinyddu ar sail y costau gwirioneddol. Bydd linell ar wahân i gyfrif am y gwariant hyd yn hyn. Yn unol â’r Prosbectws, gall awdurdodau lleol arweiniol ddefnyddio mwy na’u canran cytunedig o gyllid i gefnogi rheoli a gweinyddu ym mlwyddyn un, ond rhaid iddynt gofnodi gwariant gwirioneddol ac, erbyn diwedd y Rhaglen, ni all hwn fod yn uwch na’r canran cytunedig.

3.10 Rhaid i Brif Swyddog Cyllid pob awdurdod lleol arweiniol lofnodi ffurflenni i’r adran, i gadarnhau eu bod yn fodlon bod yr hyn a ddarparwyd yn gywir ac yn gyflawnadwy. Bwriedir i adrodd cryno ar ddiwedd chwarteri 1 (Mehefin) a 3 (Rhagfyr, ac eithrio ym mlwyddyn 1) ddarparu trosolwg o weithgarwch, gwariant disgwyliedig a thanwariant disgwyliedig, a dylid ei llofnodi ar y sail honno.

Amserlen adrodd

3.11 Mae’r tabl isod yn amlinellu’r amserlen ar gyfer adrodd. Bydd adrodd cryno ond yn gofyn y cwestiynau a amlinellir yn 3.2. Dylai awdurdodau lleol arweiniol barhau i gasglu allbynnau a chanlyniadau eu gwariant UKSPF, gan fod buddion yn parhau i gael eu cyflawni ar ôl y cyfnod adrodd. Bydd y ffordd rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol ddarparu allbynnau a chanlyniadau sy’n parhau i gael eu gwireddu ar ôl 2025 yn cael ei amlinellu, maes o law.

Cyfnodau Adrodd Comisiynu’r Adroddiad Dyddiad Cyflwyno’r Adroddiad Math o Wybodaeth
Dechrau’r Rhaglen 22 tan 28 Chwefror 2023 27 Chwefror 2023 17 Mawrth 2023 Adroddiad cryno yn unig
Dechrau’r Rhaglen tan 31 Mawrth 2023 3 Ebrill 2023 2 Mai 2023 Adroddiad Diwedd Blwyddyn, yn cynnwys cynlluniau credadwy i fynd i’r afael â thanwariant 2022-23, os bu tanwariant
1 Ebrill tan 30 Mehefin 2023 3 Gorffennaf 2023 1 Awst 2023 Chwarterol (adroddiad cryno yn unig)
1 Ebrill tan 30 Medi 2023 2 Hydref 2023 1 Tachwedd 2023 Chwe misol
1 Hydref tan 31 Rhagfyr 2023 2 Ionawr 2024 1 Chwefror 2024 Chwarterol (adroddiad cryno yn unig)
1 Hydref tan 31 Mawrth 2024 2 Ebrill 2024 1 Mai 2024 Chwe misol
1 Ebrill tan 30 Mehefin 2024 1 Gorffennaf 2024 1 Awst 2024 Chwarterol (adroddiad cryno yn unig)
1 Ebrill tan 30 Medi 2024 1 Hydref 2024 1 Tachwedd 2024 Chwe misol
1 Hydref tan 31 Rhagfyr 2024 2 Ionawr 2025 1 Chwefror 2025 Chwarterol (adroddiad cryno yn unig)
1 Hydref tan 31 Mawrth 2025 1 Ebrill 2025 1 Mai 2025 Chwe misol ac adroddiad terfynol cylch cyllid yr adroddiad cryno

Beth fyddwn ni’n ei wneud â’r data a roddir?

3.12 Bwriedir i’r cwestiynau a’r ceisiadau am ddata gan awdurdodau lleol arweiniol gofnodi gwybodaeth at dri diben:

  • Arolwg lefel rhaglen o gynnydd yr UKSPF i roi sicrwydd i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, y Swyddog Atebol, Gweinidogion a’r Senedd.
  • Cynorthwyo â gwerthuso’r Gronfa, y mae ei hegwyddorion wedi’u hamlinellu yn yr adran monitro a gwerthuso, ac y mae’r strategaeth werthuso yn ymhelaethu arnynt.
  • Monitro bod arian UKSPF yn cael ei wario ar flaenoriaethau UKSPF, a bod yr allbynnau a’r canlyniadau sy’n cael eu cyflawni yn cyd-fynd â’r disgwyliadau mewn cynlluniau buddsoddi.

3.13 Bydd angen i Brif Swyddog Cyllid yr awdurdod lleol arweiniol graffu ar bob ffurflen cyflwyno data a’u llofnodi.

Proses rheoli perfformiad a newid UKSPF

3.14 Mae’r adran ganlynol yn amlinellu’r broses i awdurdod lleol arweiniol wneud newidiadau i’w gynllun buddsoddi a’i ddyletswyddau i roi gwybod i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau am newidiadau. Mae’r rhain yn cyd-fynd â dyletswyddau statudol a rheolau presennol awdurdodau lleol arweiniol i ddefnyddio arian cyhoeddus yn dda.

Sbardunau newid

3.15 Bydd UKSPF yn mynd ati’n gymesur i newid blaenoriaethau a chynlluniau lleol yn unol â’r cyfrifoldebau a ddirprwyir i awdurdodau lleol arweiniol. Ystyr hyn yw y bydd angen cymeradwyaeth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau dim ond pan wneir “newidiadau perthnasol” i gynlluniau buddsoddi UKSPF.

3.16 Os gwneir newidiadau ond maent yn disgyn islaw’r trothwyon a ddiffinnir ym mharagraff 3.20 i gael eu hystyried yn “newidiadau perthnasol”, nid oes angen i awdurdodau lleol arweiniol geisio cymeradwyaeth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.

3.17 Fodd bynnag, dylent roi diweddariadau rheolaidd ar y newidiadau hyn i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fel rhan o’u cylch adrodd rheolaidd. Dylid gwneud hyn drwy eu cylch adrodd chwarterol a chwe misol arferol.

3.18 Os croeswyd y trothwyon yn 3.20, byddai’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ystyried bod y newid yn “berthnasol” a byddai angen cymeradwyaeth ffurfiol oddi wrth yr adran cyn y gallai awdurdod lleol arweiniol wneud y newidiadau.

3.19 Gellir gwneud ceisiadau am newidiadau perthnasol i’r adran fel y bo’r gofyn. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn amlinellu templed i awdurdodau lleol arweiniol ei ddefnyddio, gan ddilyn y broses isod.

Newidiadau perthnasol

3.20 At ddibenion UKSPF, bydd unrhyw rai o’r canlynol yn ‘newid perthnasol’:

Newid perthnasol 1:

Ar ôl cymeradwyo’r cynllun buddsoddi, cais am gostau gweinyddol dros y tair blynedd sydd uwchlaw’r ganran y cytunwyd arni mewn cynllun buddsoddi awdurdod lleol arweiniol.

Newid perthnasol 2:

Ailbroffilio cyllid unwaith o un flaenoriaeth buddsoddi i flaenoriaeth arall (nid rhwng ymyriadau) os bydd y newid yn cynnwys symud 30% o gyfanswm y dyraniad cyllid dros y tair blynedd neu £5m, pa un bynnag sydd isaf. Meincnodir y newid hwn yn erbyn y cynllun buddsoddi y cytunodd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau arno neu yn erbyn y sefyllfa y cytunwyd arni fel rhan o newid perthnasol blaenorol.

Newid perthnasol 3:

Cyflwyno ymyrraeth bwrpasol newydd.

3.21 Nid yw’r canlynol yn cael eu hystyried yn Newid Perthnasol a gellir adrodd arnynt i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn y ffurflenni monitro canol blwyddyn a diwedd blwyddyn.

1. Symud cyllid rhwng ymyriadau o fewn blaenoriaeth buddsoddi.

2. Newidiadau mewn allbynnau neu ganlyniadau o ganlyniad i symud cyllid rhwng ymyriadau o fewn blaenoriaeth buddsoddi

3. Symud cyllid rhwng blaenoriaethau buddsoddi nad yw’n sbarduno Newid Perthnasol 2 a

4. Newidiadau i allbynnau a chanlyniadau o ganlyniad i symud cyllid rhwng blaenoriaethau buddsoddi nad yw’n sbarduno Newid Perthnasol 2

5. Newidiadau i broffiliau ariannol i reoli tanwariannau fel rhan o adrodd diwedd blwyddyn, ac eithrio (fel y soniwyd uchod ym mharagraff 3.20) pan fyddant yn sbarduno un o’r newidiadau perthnasol y soniwyd amdano uchod.

6. Newidiadau i broffiliau ariannol ac allbynnau a chanlyniadau o ganlyniad i ddileu’r cyfyngiad ar gyllido gweithgarwch pobl a sgiliau yn Lloegr ym mlwyddyn ariannol 2023/2024.

Cwestiynau i Awdurdodau arweiniol eu hateb fel rhan o broses newid

3.22 Gofynnir y cwestiynau canlynol i awdurdodau lleol arweiniol fel rhan o ystyriaeth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau o unrhyw ‘newidiadau perthnasol’.

Pob newid

1. A yw’r Prif Swyddog Cyllid wedi ardystio bod y newid yn angenrheidiol ac yn gyflawnadwy?

2. A allwch gadarnhau bod barn y grŵp partneriaeth lleol wedi’i cheisio cyn y cais hwn am newid a chadarnhau eu bod yn fodlon?

Cais am ddefnyddio mwy na chyfanswm cytunedig eu dyraniad gan UKSPF ar gyfer gweinyddu, ar ôl cyflwyno’r cynllun buddsoddi.

1. Faint o gyllid ychwanegol ar gyfer rheoli / gweinyddu’r prosiect y mae ei angen i gyflawni eich rhaglen / prosiect?

2. Pa gyllid ychwanegol ar gyfer rheoli / gweinyddu y gall yr awdurdod arweiniol ei ddarparu ei hun?

3. Pa effaith y bydd cynyddu costau rheoli / gweinyddu yn ei chael ar allbynnau a chanlyniadau?

Cais am symud 30% neu £5m neu fwy o gyfanswm dyraniad UKSPF rhwng blaenoriaethau buddsoddi

1. Pa ymyrraeth ac allbynnau/canlyniadau eraill, os o gwbl, yr ydych am eu cyflawni yn awr?

2. Cadarnhewch eich bod wedi ystyried y risgiau a’r problemau sy’n codi o newid eich cynlluniau, a’r rheolaeth ar y risgiau a’r problemau hynny, a’u lliniaru, gan gynnwys e.e. risgiau, dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus?

3. Cadarnhewch fod gennych ddigon o allu a chapasiti i reoli effaith y newid y gofynnir amdano?

4. Cadarnhewch fod unrhyw oblygiadau i gymorthdaliadau / Cymorth Gwladol yn sgil y newid y gofynnwyd amdano wedi’u hystyried ac y gall gweithgarwch ddigwydd yn unol â’r gofynion hyn ac na fydd cyllido’r prosiect diwygiedig yn torri cyfraith cymorthdaliadau / Cymorth Gwladol.

3.23 Bydd tîm UKSPF yn asesu ac yn ymateb i geisiadau am newid perthnasol mor gyflym â phosibl. Bydd manylion pellach am fformat casglu’r data hwn gan awdurdodau arweiniol yn cael ei amlinellu, maes o law, cyn y terfyn ar gyfer adrodd yn ffurfiol am y tro cyntaf.

3.24 Bwriedir i ethos a chynllun y Gronfa roi hyblygrwydd a chyfrifoldeb i awdurdodau lleol arweiniol wrth gyflawni. Fodd bynnag, mae rhai newidiadau na fyddai’r adran yn eu hystyried:

  • Ceisiadau yn ystod y flwyddyn i gynyddu swm y cyllid refeniw (RDEL) a lleihau swm y cyllid cyfalaf (CDEL) i’w ddefnyddio yn ystod y flwyddyn honno. Bydd llythyron pennu’r grant blynyddol a gaiff awdurdodau lleol arweiniol yn amlinellu dyraniad RDEL a CDEL. Ni all cyllid CDEL gael ei drosi’n RDEL, ond gall swm y CDEL gael ei gynyddu trwy drosi RDEL i CDEL.
  • Newidiadau, ni waeth a ydynt yn newid perthnasol i broffiliau ariannol blynyddol a fyddai’n arwain at gynnydd mewn gwariant RDEL y tu hwnt i derfyn ar ganran pob awdurdod lleol arweiniol, sydd wedi’i osod yma ym mhrosbectws UKSPF % CAP RDEL
  • Yng Nghymru a’r Alban, ceisiadau i symud cyllid a neilltuwyd i gyflawni Multiply i ymyriadau craidd UKSPF.

Gwariant a chyfrifwyd amdano: diffiniad a rheoli dyraniadau lleol

3.25 Fel yr amlinellir yn a8.1 y prosbectws, byddwn yn talu pob awdurdod lleol arweiniol yn flynyddol ar gyfer cyllid craidd UKSPF (a chyllid Multiply yng Nghymru a’r Alban). Yn 2022 i 2023, telir cyllid pan fydd y cynllun buddsoddi lleol wedi’i gymeradwyo. Yn 2023 i 2024 ac yn 2024 i 2025, byddwn yn talu cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn ariannol, ar ôl adolygu adroddiadau.

3.26 Rydym yn disgwyl i fuddsoddiad ac allbynnau’r Gronfa (ar gyfer craidd UKSPF yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a, hefyd, cyllid Multiply yng Nghymru a’r Alban) gael eu cyflawni yn unol â chynllun buddsoddi pob lle. Cadwn yr hawl i atal, oedi a/neu addasu cylchoedd talu o 2023 i 2024 ymlaen lle ceir problemau â pherfformiad neu broblemau eraill â chyflawni.

3.27 Bydd hyn yn ddarostyngedig i awdurdodau lleol arweiniol yn dangos yn eu cynlluniau buddsoddi a’u hadroddiadau dilynol ar berfformiad y bydd taliad blynyddol llawn yn cael ei wario ac y cyfrifir amdano yn ystod y flwyddyn ar weithgareddau UKSPF, neu y cytunir ar gynllun credadwy ar gyfer tanwariannau.

Beth sy’n cael ei ystyried yn ‘wariant’?

3.28 ‘Gall awdurdodau lleol arweiniol adrodd gwariant eu dyraniad UKSPF blynyddol os caiff y gwariant hwnnw ei gynnwys yng nghyfrifon yr awdurdod lleol arweiniol ar gyfer y flwyddyn honno. Mae ‘Gwariant’ yn cynnwys gwariant wedi’i anfonebu a’i dalu, yn ogystal â gwariant cronedig, yn unol â safonau cyfrifyddu ariannol. H.y. gall pob gwariant sy’n gysylltiedig â gweithgarwch UKSPF a ddyrannwyd i gyfrifon 2022/23 gael ei neilltuo i ddyraniad UKSPF 2022/23, ni waeth pryd y gwnaed y taliadau. Nid oes gofyn bod cyllid sy’n gysylltiedig â gweithgarwch UKSPF wedi cael ei dalu h.y. gadael cyfrif banc yr awdurdod lleol arweiniol er mwyn cael ei gyfrif yn erbyn dyraniad UKSPF y flwyddyn honno.

3.29 I gael ei ystyried yn wariant ar gyfer UKSPF, rhaid i gyllid berthyn i gostau yr aed iddynt gan y sefydliad sy’n cyflawni gweithgarwch a ariannwyd gan UKSPF (cyflwynwyr prosiectau), gan gynnwys cyflawni yn fewnol gan yr awdurdod lleol arweiniol. Er enghraifft, os talodd awdurdod lleol arweiniol MCA (neu awdurdod lleol arweiniol sy’n arweinydd ar ran grŵp o awdurdodau lleol) gyfran o ddyraniad yr UKSPF i bob un o’r awdurdodau lleol yn yr ardal i gyflawni prosiectau a dirprwyodd ddetholiad o brosiectau i’r awdurdodau lleol unigol:

  • Ni fyddai’r cyllid ymlaen llaw a dalodd yr MCA i’r awdurdodau lleol yn cael ei ystyried yn wariant.
  • Byddai’r cyllid a dalwyd i’r awdurdod lleol yn cael ei ystyried yn wariant pan fydd yr awdurdod lleol wedi talu cyllid i gyflawnwyr prosiectau.

Os bydd awdurdod lleol arweiniol yn trosglwyddo cyllid i awdurdod lleol arall i gyflawni prosiect penodol (yr awdurdod lleol yw cyflawnwr y prosiect), byddai’r cyllid a dalwyd i’r awdurdod lleol yn cael ei ystyried yn wariant pan fydd yr awdurdod lleol arweiniol yn ei dalu i’r awdurdod lleol.

3.30 Nid yw’n ofynnol i awdurdodau lleol arweiniol dalu cyflawnwyr prosiectau fesul ôl-daliadau ar sail gwariant gwirioneddol. Gall awdurdodau lleol arweiniol ddewis talu cyllid ymlaen llaw, yn ôl proffil, ar sail gwariant gwirioneddol neu gyfuniad o’r dulliau hyn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Os telir cyllid ar ffurf ôl-daliadau, dylai awdurdodau lleol arweiniol fynd ati i ad-dalu cyflawnwyr prosiectau mor gyflym â phosibl.

3.31 Mae hyn yn berthnasol i holl wariant UKSPF – gan gynnwys unrhyw daliadau o awdurdod lleol arweiniol i awdurdod lleol arall, neu wariant mewnol.

Tanwariannau awdurdodau lleol arweiniol

3.32 Byddwn yn ystyried atal y rhandaliad blynyddol nesaf hyd nes byddwn wedi cael cynlluniau credadwy sy’n dangos y cyflawni diwygiedig i gyflawni targedau disgwyliedig, yn amlinellu sut bydd yr awdurdod lleol arweiniol yn defnyddio tanwariannau yn y flwyddyn nesaf a/neu fod cerrig milltir a gwariant priodol wedi’u cyflawni ar gyfer y flwyddyn flaenorol (gweler 3.5 ar gyfer gofynion cynllun credadwy). Bydd angen i awdurdodau lleol arweiniol sefydlu dulliau rheoli rhaglen priodol i wneud y mwyaf o gyflawni effeithiol a chyflawni gwariant yn ôl y proffil.

3.33 Os oes gennym bryderon parhaus am gynlluniau gwario yn y dyfodol ar sail profiad o gyflawni lleol hyd yn hyn, gallem dalu fesul rhandaliad ar sail perfformiad neu, fel arall, oedi neu atal dyraniadau blynyddol yn y dyfodol.

3.34 Ni ddarperir cyllid ar gyfer gweithgarwch ar ôl 31 Mawrth 2025 a disgwyliwn fod tanwariannau ym mlwyddyn olaf y rhaglen (2024 tan 2025) yn cael eu had-dalu i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Mater i’r Adolygiad Gwariant nesaf fydd dyfodol yr UKSPF a bydd yn elwa wrth i ardaloedd allu darparu tystiolaeth o gyflawni, gwerth am arian, allbynnau a chanlyniadau ar ôl 31 Mawrth 2025.

3.35 Fel yr amlinellwyd ym Mhrosbectws UKSPF, os oes risgiau gweithredol neu ariannol presennol, neu rai sy’n dod i’r amlwg, gallem leihau’r dirprwyo, lleihau cyfnodau talu neu atal cyllid. Gall hyn hefyd arwain at ofynion adrodd mwy rheolaidd er mwyn rhyddhau cyllid yn ystod y flwyddyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Mai 2023 + show all updates
  1. Added another example that does not constitute material change to the list in paragraph 3.21.

  2. Changes and clarifications to questions in the reporting template. Updated reporting timetable. Refined and clarified thresholds for Material Changes. What counts as ‘spend’ clarified in greater detail.

  3. Welsh added

  4. Added translation

Print this page