Rheoli Cymorthdaliadau (7)
Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar reoli cymorthdaliadau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
7 Rheoli Cymorthdaliadau
7.1 Rhaid i bob awdurdod lleol arweiniol, ac ymgeisydd, ystyried a fydd buddsoddiad yr UKSPF yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cymhorthdal ac, felly, a fydd y cymhorthdal hwnnw yn mynd yn groes i ddyletswyddau’r DU ar reoli cymorthdaliadau, neu Ddeddf Cymorthdaliadau 2022.
7.2 Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol arweiniol ac ymgeiswyr ar reoli cymhorthdal o ran yr UKSPF.
Y Gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau
7.3 Mae Canllawiau rheoli cymorthdaliadau’r DU wedi’u cyhoeddi ar gyfer awdurdodau cyhoeddus, i’w helpu i ddehongli dyletswyddau rhyngwladol y DU ar reoli cymorthdaliadau; mae hyn hefyd yn berthnasol i sefydliadau nad ydynt yn rhai cyhoeddus, i ddeall sut y mae’n rhaid cymhwyso egwyddorion y canllawiau. I gael mwy o fanylion, dylai awdurdodau lleol arweiniol ac ymgeiswyr gyfeirio at y canllawiau (PDF, 1645KB).
Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022
7.4 O dan adran 79(6) y Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau, rhaid i awdurdodau cyhoeddus gyfrif am y canllawiau uchod (i’r graddau ag y bônt yn berthnasol i’r awdurdod ac i amgylchiadau’r achos) wrth roi cymhorthdal neu lunio cynllun cymhorthdal.
Beth yw cymhorthdal?
7.5 Mae pedair nodwedd allweddol i fesur cymorth sy’n debygol o ddangos y byddai’r mesur yn cael ei ystyried yn gymhorthdal a byddai angen bodloni’r cyfan o’r pedwar:
- rhaid i’r mesur cymorth fod yn gyfraniad ariannol (neu mewn nwyddau), fel grant, benthyciad neu warant, a rhaid iddo gael ei roi gan ‘awdurdod cyhoeddus’ gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lywodraeth ganolog, ddatganoledig, ranbarthol neu leol;
- rhaid i’r mesur cymorth roi mantais economaidd i un cyfranogwr economaidd neu fwy;
- mae’r mesur cymorth yn benodol i’r graddau ag y bo o fudd, fel mater o gyfraith neu ffaith, i rai cyfranogwyr economaidd ar draul eraill yn gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau neu wasanaethau penodol; a
- rhaid bod potensial gan y mesur cymorth i ystumio neu achosi niwed i gystadleuaeth, masnach neu fuddsoddiad.
7.6 Ystyr “cyfranogwr economaidd” yw endid neu grŵp o endidau sy’n llunio un endid economaidd, ni waeth beth yw ei statws cyfreithiol a chan gynnwys cyrff cyhoeddus, sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch economaidd trwy gynnig nwyddau neu wasanaethau mewn marchnad.
Pan fydd awdurdodau lleol arweiniol neu ymgeiswyr yn trosglwyddo grant UKSPF i gorff trydydd parti, nad yw’n perthyn i’r sector cyhoeddus, gyda’r bwriad o wneud grantiau pellach i gyfranogwyr economaidd, dylid dilyn y gofynion rheoli cymhorthdal yn llawn. Ni waeth p’un a yw’r corff sy’n talu’r grant i’r buddiolwr (y cyfranogwr economaidd) yn gorff sector cyhoeddus.
7.7 Rhaid i awdurdodau lleol arweiniol a/neu ymgeiswyr ystyried a yw unrhyw rai o’r gweithgareddau arfaethedig yn bodloni’r pedair nodwedd hyn. Pan fodlonir yr holl nodweddion, mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol arweiniol a/neu ymgeiswyr yn esbonio sut y gall y cymhorthdal gael ei ddarparu mewn modd sy’n cydymffurfio.
7.8 Fel canllaw, mae cymhorthdal yn fwyaf tebygol o fod yn bresennol mewn ymyriadau ‘cynorthwyo busnesau lleol’. Ystyrir bod ymyriadau tir y cyhoedd, neu weithgareddau y mae pobl unigol yn elwa ohonynt, yn hynod annhebygol o fod yn gymhorthdal. Er bod ymyriadau ‘cymunedau a lle’, neu ‘bobl a sgiliau’ yn llai tebygol o fod o fudd i gyfranogwyr economaidd, dylai awdurdodau lleol arweiniol sicrhau eu bod yn fodlon nad yw’r ymyriadau o dan y blaenoriaethau buddsoddi hyn yn gymhorthdal neu os bydd buddsoddiad yn gyfystyr â chymhorthdal, bodlonir yr egwyddorion rheoli cymhorthdal – gweler isod.
Cymorth ariannol lefel isel iawn
7.9 Gan amlaf, bydd cymorthdaliadau UKSPF yn fach iawn. Os bydd cyfranogwr economaidd unigol yn cael budd sy’n llai na hawl arbennig tynnu arian o £325,000 (tan ddechrau’r Ddeddf) neu £315,000 (ar ôl dechrau’r Ddeddf) ac nid yw wedi derbyn cymorth lleiaf arall yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac yn y ddwy flynedd gynt, a fyddai o’i gyfuno gyda chymorth yr UKSPF uwchlaw’r uchafswm hwn, caniateir hyn ni waeth a fyddai’n gyfystyr â chymhorthdal ai peidio.
7.10 Lle y bydd neu y gall cymhorthdal fod uwchlaw’r uchafsymiau uchod, rhaid i awdurdodau lleol arweiniol neu ymgeiswyr ystyried yr egwyddorion rheoli cymorthdaliadau a restrir isod a bod o’r farn bod y cymhorthdal yn gyson â nhw.
Yr egwyddorion rheoli cymorthdaliadau
7.11 Dylai cymorthdaliadau:
- fynd ar drywydd amcan polisi cyhoeddus penodol i unioni methiant a nodwyd yn y farchnad neu fynd i’r afael â sail resymegol tegwch fel anawsterau cymdeithasol neu bryderon dosbarthiadol (“yr amcan”)
- bod yn gymesur ac yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r amcan
- cael eu cynllunio i ysgogi newid yn ymddygiad economaidd y buddiolwr sy’n caniatáu am gyflawni’r amcan ac ni fyddai hynny’n cael ei gyflawni pe na bai cymorthdaliadau’n cael eu darparu
- ddim gwneud yn iawn fel arfer am y costau a fyddai wedi cael eu hariannu gan y buddiolwr yn absenoldeb unrhyw gymhorthdal
- bod yn offeryn polisi priodol i gyflawni amcan polisi cyhoeddus ac na all yr amcan hwnnw gael ei gyflawni trwy ddulliau eraill llai ystumiol
- cael eu cynllunio i gyflawni eu hamcan polisi penodol a lleihau unrhyw effeithiau negyddol ar gystadleuaeth neu fuddsoddi o fewn y Deyrnas Unedig
Yn achos dyfarniadau a wneir ar ôl i Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 ddod i rym, bydd egwyddor bellach yn berthnasol:
- dylai cyfraniadau cadarnhaol at gyflawni’r amcan wrthbwyso unrhyw effeithiau negyddol, yn enwedig yr effeithiau negyddol ar fasnach neu fuddsoddi rhwng y Partïon
7.12 Os bydd y gweithgareddau UKSPF arfaethedig:
- yn cynrychioli cymhorthdal ac
- uwchlaw’r uchafswm y cymorth ariannol lleiaf
rhaid iddynt gydymffurfio â’r holl egwyddorion er mwyn cael cymorth UKSPF. Ni ddylai awdurdodau lleol arweiniol fwrw ymlaen ag unrhyw brosiect nad yw’n bodloni’r gofyniad hwn. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gymorth ôl-weithredol yr UKSPF sy’n darparu cymhorthdal newydd ac nad yw’n arwain at weithgarwch ychwanegol gan y buddiolwr.
Cynlluniau cymhorthdal wedi’u symleiddio
7.13 Mae llywodraeth y DU yn ystyried sefydlu cynlluniau cymhorthdal wedi’u symleiddio, y gallai elfennau ohonynt fod yn berthnasol i UKSPF. Bydd y llywodraeth yn asesu’r cynlluniau hyn ymlaen llaw i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau. Byddant yn cynnig ffordd i holl awdurdodau cyhoeddus y DU ddyfarnu cymorthdaliadau sy’n symlach na dull gwaelodlin yr asesiad egwyddor wrth egwyddor. Bydd ond angen i awdurdodau cyhoeddus ddangos eu bod yn bodloni’r paramedrau penodol i’r cynllun hwnnw; bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gallu cyflwyno’r cymorthdaliadau hyn gyda’r fiwrocratiaeth leiaf a’r sicrwydd mwyaf. Byddwn yn diweddaru’r canllawiau hyn gyda chynlluniau cymhorthdal perthnasol wedi’u symleiddio pan fyddant ar gael.
7.14 Bydd nifer bach o gynlluniau cymorthdaliadau symlach ar waith erbyn cychwyn y Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau. Byddwn yn diweddaru’r canllawiau hyn drwy gynnwys cynlluniau cymorthdaliadau symlach perthnasol unwaith y byddant ar gael.
Cymhwyso cymorth gwladwriaethol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
7.15 Mae rheoli cymorthdaliadau wedi disodli cymorth gwladol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Fodd bynnag, mae amgylchiadau cyfyngedig dan reolaeth Protocol Gogledd Iwerddon Cytundeb Ymadael y DU â’r UE sy’n golygu y gallai’r rheolau cymorth gwladol fod yn berthnasol i unrhyw arian cyhoeddus ar gyfer ymgymeriad os oes ganddo effaith ar fasnach nwyddau a thrydan cyfanwerthol rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE.
7.16 Bydd mwyafrif helaeth y cyllid cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn dod o dan gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau domestig y DU. Fodd bynnag, gall y rheolau cymorth gwladol fod yn berthnasol pan fydd cysylltiad real a rhagweladwy, gwirioneddol ac uniongyrchol â Gogledd Iwerddon. Er enghraifft, lle ceir is-gwmni gan fuddiolwr yng Ngogledd Iwerddon.
7.17 Dylai unrhyw awdurdod lleol arweiniol sy’n ystyried bod gan brosiect gysylltiad ‘gwirioneddol ac uniongyrchol’ posibl â Gogledd Iwerddon adolygu adran 6 y canllawiau hyn..
Sut y dylai awdurdodau lleol arweiniol ystyried gwybodaeth am reoli cymorthdaliadau?
7.18 Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol arweiniol yn gweithio gyda holl ymgeiswyr UKSPF i ddeall sut gall prosiectau arfaethedig gael eu cyflawni yn unol â rheoli cymorthdaliadau/cymorth gwladol trwy gwestiwn neu gwestiynau pwrpasol. Dylai awdurdodau lleol arweiniol fanteisio hefyd ar ymatebion yr ymgeisydd ar draws y cais ehangach (yn enwedig unrhyw wybodaeth am y gallu i’w gyflawni) wrth asesu am risgiau rheoli cymorthdaliadau/cymorth gwladol.
7.19 Pan fydd cais yn cyflwyno risg annerbyniol o gyflawni nad yw’n cydymffurfio, gall awdurdod lleol arweiniol ddewis naill ai ei wrthod, neu ofyn am wneud addasiadau fel na fydd ariannu’r prosiect yn mynd yn groes i reoli cymorthdaliadau.
Beth fydd yn digwydd os na chydymffurfir â rheolaeth cymorthdaliadau?
7.20 Gall fod angen i awdurdodau lleol arweiniol adfer cyllid o gyflawnwyr prosiect os na chydymffurfiwyd â chyfraith rheoli cymorthdaliadau neu gymorth gwladol.
7.21 Felly, dylai awdurdodau lleol arweiniol sicrhau bod unrhyw gyflawnwyr prosiect yn ymdrin â rheoli cymorthdaliadau neu gymorth gwladol yn unol â’u dull cytunedig, ac yn cymryd camau i fonitro hyn. Dylent sicrhau bod cytundebau prosiect yn cael eu llunio fel y gellir adennill cymhorthdal os cafodd ei gamddefnyddio.
7.22 Argymhellir hefyd fod cyflawnwyr prosiect yn sicrhau bod partneriaid prosiect yn gwybod am eu dyletswyddau ac y gallant adennill cyllid oddi wrthynt os na chaiff ei reoli gan gydymffurfio neu os caiff ei gamddefnyddio.
Dyletswyddau cofnodi a thryloywder
7.23 Bydd gofyn i bob awdurdod lleol arweiniol gofnodi a chyflwyno gwybodaeth am unrhyw gymorthdaliadau UKSPF a ddyfernir. Mae hyn yn cynnwys sut mae telerau unrhyw ddyfarniad yn bodloni’r gofynion rheoli cymorthdaliadau priodol, a sut cânt eu cyflawni. Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi datblygu cronfa ddata tryloywder hygyrch i’r cyhoedd y dylai awdurdodau cyhoeddus ei defnyddio at y diben hwn.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Mawrth 2023 + show all updates
-
Updated text now that Subsidy Control Act 2022 has started. More information on LLA use of UKSPF to pay grants to third parties.
-
Welsh added
-
Added translation