Canllawiau

Cyfrifwch eich incwm cymhwysol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch yr hyn sy’n cyfrif fel incwm cymhwysol o hunangyflogaeth ac eiddo ar gyfer ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Cyfrifo’ch incwm cymhwysol

Eich incwm cymhwysol yw cyfanswm yr incwm a gewch mewn blwyddyn dreth drwy hunangyflogaeth ac eiddo.

Rydym yn asesu’ch incwm gros (a elwir hefyd yn ‘trosiant’), cyn i chi ddidynnu treuliau.

I asesu’ch incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth, byddwn yn edrych ar y Ffurflen Dreth roedd yn rhaid i chi ei chyflwyno yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Er enghraifft, i asesu’ch incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, byddwn yn edrych ar y Ffurflen Dreth rydych wedi’i chyflwyno ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025. Dylai’r Ffurflen Dreth hon fod wedi’i chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2026.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am eich holl incwm cymhwysol gan ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach neu’n fyrrach na 12 mis, a bod gennym y data angenrheidiol, byddwn yn cyfrif eich incwm cymhwysol yn flynyddol. Er enghraifft, os ydych wedi dod yn unig fasnachwr, ond dim ond am 6 mis rydych wedi bod yn masnachu yn ystod eich blwyddyn dreth gyntaf, yna byddwn yn dyblu eich incwm i gyfrifo’ch incwm cymhwysol.

Nid yw ffynonellau incwm eraill a ddatgenir drwy Hunanasesiad, megis incwm o gyflogaeth, partneriaeth neu gynilion, yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. Bydd angen i chi roi gwybod am incwm o’r ffynonellau hyn gan ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • Meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol (os oes ganddi’r swyddogaeth honno)
  • eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF

Yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn eich incwm cymhwysol

Os ydych yn cael incwm o fwy nag un ffynhonnell

Bydd incwm o bob ffynhonnell berthnasol yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. Er enghraifft, gallai eich incwm gros (incwm cyn i chi ddidynnu treuliau) fod yn:

  • £25,000 o incwm rhent
  • £27,000 o incwm hunangyflogedig

Yn yr enghraifft hon, cyfanswm eich incwm cymhwysol fyddai £52,000.

Os ydych yn cael incwm o eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd

Bydd eich cyfran chi o’r incwm o eiddo yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. Er enghraifft, gallech fod:

  • yn berchen ar eiddo ar y cyd gyda’ch brawd neu chwaer, a bod yr eiddo hwnnw yn cynhyrchu £50,000 mewn incwm
  • yn cael cyfran gyfartal, y naill fel y llall
  • yn peidio â chael unrhyw incwm o hunangyflogaeth

Yn yr enghraifft hon, eich incwm cymhwysol fyddai £25,000.

Os ydych yn berchen ar eiddo a dim ond yn cael hysbysiad o’ch cyfran chi o’r incwm ar ôl i’r treuliau gael eu didynnu, yna byddwn yn asesu’r ffigwr hwnnw ar gyfer eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn ofalwr sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad gofal cymwys

Ni fydd y derbyniadau rhyddhad gofal cymwys y byddwch yn ei gael yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn cael incwm o bartneriaeth

Nid yw incwm o bartneriaeth yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol, oni bai eich bod yn cael ffioedd rheoli buddsoddiadau cudd neu fuddiant a drosglwyddir ar sail incwm.

Os ydych yn cael ffioedd rheoli buddsoddiadau cudd neu fuddiant a drosglwyddir ar sail incwm

Mae’r mathau hyn o dâl yn cael eu trin fel yr elw o fasnach dybiedig, a byddant yn rhan o’ch incwm cymhwysol.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag

Bydd unrhyw incwm o eiddo neu incwm masnachu y mae gennych hawl iddo yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant

Bydd unrhyw incwm o eiddo neu incwm masnachu a delir yn uniongyrchol i chi, ac sy’n osgoi’r ymddiriedolwyr, yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Sut mae man preswylio a domisil yn effeithio ar eich incwm cymhwysol

Gallwch ddysgu rhagor am fannau preswylio, domisil a’r sail trosglwyddo (yn agor tudalen Saesneg) ac am y rheolau domisil tybiedig (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw’ch man preswylio a’ch domisil yn y DU

Bydd eich incwm o eiddo tramor neu’ch incwm o hunangyflogaeth dramor yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. 

Er enghraifft, gallech fod: 

  • yn unig fasnachwr yn y DU 
  • yn rhoi eiddo ar osod mewn gwlad arall

Os yw’ch man preswylio a’ch domisil yn y DU, bydd y ddwy ffynhonnell incwm yn cyfrannu tuag at eich incwm cymhwysol.

Os tybir bod eich domisil yn y DU

Bydd incwm o eiddo tramor neu incwm o hunangyflogaeth dramor yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol, os cewch eich trin fel pe bai eich domisil yn y DU ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

Os ydych yn trosglwyddo incwm tramor o flwyddyn pan oedd y sail trosglwyddo’n berthnasol i chi, ni fydd yr incwm hwnnw’n cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os yw’ch man preswylio neu’ch domisil y tu allan i’r DU

Dim ond incwm o hunangyflogaeth yn y DU ac incwm o eiddo yn y DU fydd yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. Does dim angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer eich incwm tramor.

Er enghraifft, gallech fod:

  • â’ch domisil yn Ffrainc
  • yn rhoi eiddo ar osod yn Ffrainc
  • yn rhedeg busnes yn y DU

Dim ond eich incwm o hunangyflogaeth yn y DU fyddai’n cyfrannu at eich incwm cymhwysol.

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau’ch statws domisil pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Ar ôl i chi gyfrifo’ch incwm cymhwysol

Ar ôl i chi gyfrifo’ch incwm cymhwysol, gallwch ddarganfod a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Hydref 2024

Print this page