Canllawiau

Cyfrifo eich rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu

Dysgwch sut i gyfrifo eich rhyddhad Treth Gorfforaeth Ymchwil a Datblygu ar gyfer eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

Mae’n bosibl y bydd camau eraill y bydd yn rhaid i chi eu cymryd cyn i chi gyfrifo eich rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu’n gywir.

Mae angen i chi gyfrifo’ch rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu fel y gallwch gynnwys y manylion hyn ar eich ffurflen gwybodaeth ychwanegol cyn i chi wneud hawliad ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni. 

Mae 4 math gwahanol o ryddhad treth Ymchwil a Datblygu, mae’r un rydych yn ei ddefnyddio yn dibynnu ar bryd y dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024, mae’r cynlluniau’r canlynol ar gael:

  • Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)

  • rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer menter bach a chanolig (MBaCh)

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, mae’r cynlluniau canlynol ar gael:

  • y cynllun cyfun

  • cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS)

Os ydych yn hawlio Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)

Mae credyd gwariant yn gredyd treth, a gall gael ei hawlio gan gwmnïau mawr a rhai MBaChau. Cael gwybod a ydych yn gymwys ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu.  

Dilynwch y camau hyn i gyfrifo’r credyd gwariant. 

  1. Cyfrifwch y costau sy’n ymwneud â’ch gwaith Ymchwil a Datblygu — gwiriwch pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio.

  2. Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd. 

  3. Lluoswch y ffigur â’r gyfradd credyd gwariant i gyfrifo’r credyd gwariant.

Cyfraddau credyd gwariant 

Y gyfradd credyd gwariant ar gostau ar gyfer y cyfnodau canlynol: 

  • o 1 Ebrill 2015 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2017 yw 11% 

  • o 1 Ionawr 2018 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2020 yw 12% 

  • o 1 Ebrill 2020 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2023 yw 13% 

  • o 1 Ebrill 2023 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2024 yw 20%

Os ydych yn hawlio rhyddhad treth ar gyfer menter mach a mhanolig (MBaCh

I weld a ydych yn gymwys ar gyfer ryddhad treth menter bach a chanolig, gwiriwch yr arweiniad ynghylch mentrau bach a chanolig a’r amod dwyster

Dilynwch y camau hyn i gyfrifo’r rhyddhad.

  1. Cyfrifwch y costau sy’n ymwneud â’ch gwaith Ymchwil a Datblygu — gwiriwch pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio

  2. Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd — dyma’ch gwariant cymhwysol.

  3. Lluoswch eich gwariant cymwysol â 86% — dyma swm y didyniad rhyddhad Ymchwil a Datblygu ychwanegol.

  4. Lluoswch eich gwariant cymwysol â 186% — dyma swm y gwariant uwch.

Os ydych wedi gwneud colled masnachu

Gallwch ddewis ildio ba un bynnag o’r canlynol sy’n is yn gyfnewid am gredyd treth daladwy:

  • swm y gwariant uwch a gyfrifoch yng ngham 4

  • cyfanswm y golled masnachu ar ôl i chi gymryd y didyniad rhyddhad Ymchwil a Datblygu ychwanegol a gyfrifoch yng ngham 3

Mae’r credyd treth taladwy yn:

  • 14.5% o swm y golled rydych wedi’i ildio os yw’ch cwmni yn bodloni’r amod dwyster

  • 10% o swm y golled rydych wedi’i ildio os nad yw’ch cwmni yn bodloni’r amod dwyster

I weld a ydych yn bodloni’r amod dwyster gwiriwch yr arweiniad ynghylch mentrau bach a chanolig a’r amod dwyster

Ni all y credyd treth yr ydych yn ei hawlio fod yn fwy na’r cap TWE, oni bai eich bod wedi’ch esemptio o’r cap. I weld beth sy’n digwydd os yw’ch credyd yn fwy na’r cap TWE, gwiriwch yr arweiniad ynghylch mentrau bach a chanolig a’r amod dwyster.

Os ydych yn hawlio o dan y cynllun cyfun

Mae’r cynllun cyfun yn gredyd gwariant trethadwy, a gall gael ei hawlio gan gwmnïau masnachu sy’n gymwys. I weld a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun cyfun, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.

Dilynwch y camau hyn i gyfrifo’r credyd gwariant. 

  1. Cyfrifwch y costau sy’n ymwneud â’ch gwaith Ymchwil a Datblygu — gwiriwch pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio.

  2. Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd.

  3. Lluoswch y ffigur â 20% i gael swm y credyd gwariant. 

Ni all swm y credyd gwariant a gewch yn y cyfnod cyfrifyddu fod yn fwy na’r cap TWE, oni bai eich bod wedi’ch esemptio o’r cap. I weld beth sy’n digwydd os yw’ch credyd yn fwy na’r cap TWE, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.

Os ydych yn hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS)

Mae’r cynllun ERIS ar gyfer MBaChau ag Ymchwil a Datblygu dwys, sy’n gwneud colled, sydd â chyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.

Os ydych chi’n MBaCh ag Ymchwil a Datblygu dwys sy’n gwneud colled, gallwch ddewis hawlio o dan y cynllun cyfun neu’r cynllun ERIS. Ni allwch hawlio o dan y ddau gynllun am yr un costau.

I weld a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun ERIS, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.

  1. Cyfrifwch y costau sy’n ymwneud â’ch gwaith Ymchwil a Datblygu — gwiriwch pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio.

  2. Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd — dyma’ch gwariant cymhwysol.

  3. Lluoswch eich costau cymhwysol â 86% — dyma swm y didyniad rhyddhad Ymchwil a Datblygu ychwanegol.

  4. Lluoswch eich costau cymhwysol â 186% — dyma swm y gwariant uwch.

Gallwch ddewis ildio ba un bynnag o’r canlynol sy’n is yn gyfnewid am gredyd treth daladwy:

  • swm y gwariant uwch a gyfrifoch yng ngham 4

  • cyfanswm y golled masnachu ar ôl i chi gymryd y didyniad rhyddhad Ymchwil a Datblygu ychwanegol a gyfrifoch yng ngham 3

Mae’r credyd treth taladwy yn 14.5% o’r swm rydych wedi’i ildio. Ni all y credyd treth yr ydych yn ei hawlio fod yn fwy na’r cap TWE, oni bai eich bod wedi’ch esemptio o’r cap. I weld beth sy’n digwydd os yw’ch credyd yn fwy na’r cap TWE, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf  

Ar ôl i chi gyfrifo’ch rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol cyn i chi hawlio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Hydref 2024

Print this page