Gofyn am addasiadau rhesymol

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, gall y llysoedd wneud addasiadau rhesymol i’ch helpu pan fyddwch yn gwasanaethu ar reithgor.

Gall addasiadau gynnwys:

  • rampiau
  • mynediad i doiledau hygyrch
  • dolen clyw
  • canllawiau mewn fformatau amgen, fel print bras, sain neu braille
  • Cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Gofynnwch am y cymorth y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn ymateb i’ch gwŷs rheithgor

Os hoffech drafod eich anghenion neu drefnu ymweliad â’r llys, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor hyd at wythnos cyn i’ch gwasanaeth rheithgor ddechrau.

E-bost: [email protected]

Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os bydd eich gwasanaeth rheithgor yn dechrau mewn llai nag wythnos, dylech gysylltu â’r llys i drafod addasiadau.

Os ydych chi eisoes yn y llys er mwyn gwasanaethu ar reithgor a bod arnoch angen addasiadau, siaradwch â’r swyddog rheithgor.