Gofyn am gael newid y dyddiad neu gael eich esgusodi

Os na allwch wneud gwasanaeth rheithgor ar y dyddiadau yn eich llythyr gwŷs, gallwch ofyn am newid y dyddiad neu gael eich esgusodi.

Gofyn am newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor

Efallai y byddwch yn gallu newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor i ddyddiad arall o fewn y 12 mis nesaf. Bydd angen rheswm da arnoch chi, er enghraifft:

  • rydych yn cael llawdriniaeth
  • rydych chi’n sefyll arholiad
  • ni fydd eich cyflogwr yn rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith ichi
  • rydych wedi trefnu gwyliau
  • rydych chi’n rhiant newydd

Dim ond unwaith y gallwch ofyn am newid y dyddiad.

I newid y dyddiad, dylech ymateb i’ch gwŷs rheithgor gan esbonio’ch rhesymau yn fanwl. Pan fyddwch yn ateb gallwch awgrymu 3 dyddiad posibl yn y 12 mis nesaf sy’n gyfleus i chi.

Gofyn am gael eich esgusodi o wasanaeth rheithgor

Os nad yw’n bosibl i chi wneud gwasanaeth rheithgor yn ystod y 12 mis nesaf, gallwch ofyn am gael eich esgusodi. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir i chi wneud hyn, er enghraifft:

  • mae gennych salwch neu anabledd difrifol sy’n eich atal rhag gwneud gwasanaeth rheithgor
  • rydych yn ofalwr llawn amser i rywun sydd â salwch neu anabledd
  • rydych yn rhiant newydd ac ni fyddwch yn gallu gwasanaethu ar unrhyw adeg arall yn ystod y 12 mis nesaf

Gallwch hefyd ofyn am gael eich esgusodi rhag gwasanaethu ar reithgor os ydych chi wedi gwneud hynny yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

Os na fyddwch chi’n gwneud gwasanaeth rheithgor y tro hwn, fe allech chi gael gwŷs arall yn y dyfodol.

I ofyn am gael eich esgusodi, dylech ymateb i’ch gwŷs rheithgor gan esbonio’ch rhesymau yn fanwl. Efallai y bydd angen i chi roi tystiolaeth, er enghraifft, os ydych chi’n sâl, efallai y gofynnir am lythyr gan eich meddyg.

Os caiff eich cais ei wrthod, gallwch ofyn am newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad

Gallwch apelio os gwrthodir eich cais i newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor neu gael ei esgusodi. Ysgrifennwch at y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor, gan nodi:

  • pam rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad
  • eich rhif rheithiwr (mae hwn ar eich llythyr gwŷs)
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • enw a chyfeiriad y llys yr ydych wedi cael eich gwysio iddo
  • dyddiadau eich gwasanaeth rheithgor

Pennaeth y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
Phoenix House
Bradford
BD3 7BH

[email protected]

Cael help

Cysylltwch â’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor os oes gennych gwestiynau am wasanaeth rheithgor.

Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
[email protected]
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau