Gwneud cais am brofiant
Cyn ichi wneud cais
Cyn gwneud cais am brofiant bydd angen i chi wneud y canlynol.
-
Gwirio bod angen profiant a’ch bod yn gallu gwneud cais.
-
Amcangyfrif gwerth yr ystad at bwrpas eth Etifeddiant. Hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddiant yn ddyledus, bydd angen ichi amcangyfrif gwerth yr ystad fel rhan o’ch cais am brofiant.
-
Canfod a ydych angen riportio manylion llawn yr ystad i Gyllid a Thollau EF (HMRC). Os nad oedd rhaid i chi anfon y manylion llawn, gelwir hyn yn ‘ystad eithriedig’.
-
Os oes angen ichi dalu Treth Etifeddiant, dechreuwch wneud y taliadau angenrheidiol. Bydd HMRC yn anfon llythyr atoch gyda chod y mae’n rhaid ichi ddefnyddio i wneud cais am brofiant. Gallwch wneud cais am brofiant ar unwaith os yw’n ystad eithriedig.
Os oes mwy nag un unigolyn yn gwneud cais
Mae’r grŵp o geiswyr yn dewis un unigolyn i fod yn prif geisydd. Nhw fydd yn rheoli’r cais am brofiant ar ran yr holl geiswyr.
Rhaid i bob ceisydd roi ei gyfeiriad e-bost a’i rif ffôn symudol i’r prif geisydd. Rhaid bod gan bawb sy’n gwneud y cais fynediad i’r rhyngrwyd.
Unwaith y bydd y prif geisydd wedi llofnodi’r datganiad cyfreithiol, bydd y ceiswyr eraill yn cael:
- e-bost gyda dolen i’r datganiad cyfreithiol
- neges destun gyda’r cod mynediad i lofnodi’r datganiad
Ni all y prif geisydd barhau â’r cais am brofiant nes fydd pawb wedi llofnodi’r datganiad cyfreithiol.
Gall y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ond trafod manylion y cais gyda’r ceiswyr sydd wedi’u henwi yn y cais.
Prisio ‘ystad eithriedig’ ar gyfer profiant
Bydd angen i chi amcangyfrif gwerth yr ystad fel rhan o’ch cais am brofiant.
Defnyddiwch y gyfrifiannell Treth Etifeddiant (IHT) ar-lein i amcangyfrif gwerth yr ystad. Bydd yn rhoi 3 o’r 5 darn o wybodaeth rydych eu hangen ar gyfer eich cais am brofiant:
- gwerth gros yr ystad ar gyfer IHT
- gwerth net yr ystad ar gyfer IHT
- gwerth net cymwys ar gyfer IHT
Defnyddiwch y gwerthoedd hyn i gyfrifo’r 2 darn arall o wybodaeth fydd ei hangen arnoch:
- gwerth gros ar gyfer profiant
- gwerth net ar gyfer profiant
Sut i gyfrifo’r gwerth gros ar gyfer profiant
Cyfrifwch beth yw gwerth gros yr ystad at ddibenion Treth Etifeddiant ac yna tynnwch bob un o’r gwerthoedd sy’n dilyn o’r swm hwnnw:
- asedau yr oedd y sawl a fu farw yn berchen arnynt gyda rhywun arall (‘asedau ar y cyd’) ac sy’n cael eu trosglwyddo i’r perchennog sy’n goroesi
- rhoddion a wnaed yn y 7 mlynedd cyn iddynt farw
- asedau yr oedd ganddynt dramor (er enghraifft, eiddo mewn gwlad dramor neu arian mewn cyfrifon banc tramor)
- asedau mewn ymddiriedolaeth
Sut i gyfrifo’r gwerth net ar gyfer profiant
Tynnwch werth unrhyw ddyledion a oedd gan yr unigolyn a fu farw a chost yr angladd o’r gwerth gros ar gyfer profiant.
Peidiwch â chynnwys y dyledion a oedd ganddynt ar y cyd â rhywun arall, er enghraifft morgais ar eiddo ar y cyd.
Cael cymorth
Os nad ydych yn siwr a ddylech gynnwys rhywbeth yn y gwerth, gallwch ddarllen y canllawiau ar yr hyn sy’n cael ei ystyried yn rhodd.
Os ydych angen adrodd am fanylion llawn yr ystad i HMRC
Llenwch ac anfonwch ffurflen IHT400. Fe gewch lythyr o fewn 20 diwrnod gwaith a byddwch angen y llythyr hwn cyn y gallwch wneud cais am brofiant.
Fel arfer, rhaid i chi dalu o leiaf rhywfaint o dreth cyn i chi gael profiant. Gallwch hawlio’r dreth yn ôl o’r ystad, os ydych yn ei thalu o’ch cyfrif banc eich hun.
Beth fydd ei angen arnoch i wneud cais
Byddwch angen y dystysgrif marwolaeth neu dystysgrif marwolaeth interim gan y crwner. Hefyd, byddwch angen yr ewyllys wreiddiol os oes un ar gael.