Os oes ewyllys

Gallwch wneud cais am brofiant os cewch eich enwi’n ysgutor naill ai yn yr ewyllys neu mewn diweddariad iddi (‘codisil’).

Fel arfer, bydd y sawl a fu farw wedi dweud wrthych os ydych chi’n ysgutor.

Dim ond os cewch eich enwi fel buddiolwr yn yr ewyllys hefyd y byddwch yn etifeddu asedau (er enghraifft, arian neu eiddo).

Cyn ichi wneud cais am brofiant, mae angen ichi amcangyfrif gwerth ystad yr ymadawedig. Byddwch angen yr amcangyfrif hwn pan fyddwch yn gwneud cais.

Dod o hyd i’r ewyllys wreiddiol

Bydd angen i chi anfon yr ewyllys wreiddiol gyda’ch cais am brofiant - ni allwch ddefnyddio llungopi. Bydd y gofrestrfa brofiant yn cadw’r ewyllys a bydd yn dod yn gofnod cyhoeddus.

Dylai’r sawl a fu farw fod wedi dweud wrth yr holl ysgutorion ble i ddod o hyd i’r ewyllys wreiddiol ac unrhyw ddiweddariadau, er enghraifft:

Ceisiwch gymorth gan Gyngor ar Bopeth neu ymarferydd profiant (megis cyfreithiwr) os na allwch ddeall ewyllys.

Os oes mwy nag un ewyllys, anfonwch y ddiweddaraf. Peidiwch â dinistrio unrhyw gopïau o ewyllysiau cynharach cyn ichi gael profiant.

Os yw’r ewyllys wreiddiol wedi mynd ar goll, efallai y gallwch wneud cais am brofiant drwy ddefnyddio ffurflen PA13.

Os oes mwy nag un ysgutor

Os oes mwy nag un unigolyn wedi’i enwi’n ysgutor, rhaid i bob un ohonoch gytuno pwy sy’n gwneud y cais am brofiant.

Gellir enwi hyd at 4 ysgutor ar y cais.

Os mai dim ond un ysgutor sydd wedi’i enwi ar y cais bydd angen iddynt brofi eu bod wedi ceisio cysylltu â’r holl ysgutorion a enwir yn yr ewyllys cyn gwneud cais.

Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i’r ysgutorion eraill, gallwch gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd.

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: [email protected]

Ni all Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd helpu gydag anghydfod rhwng ysgutorion. Bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd arall o ddod i gytundeb - gallai hyn olygu cael cyngor cyfreithiol.

Os nad ydych eisiau bod yn ysgutor

Gallwch ildio’ch hawl i wneud cais am brofiant neu gallwch benodi rhywun arall i wneud cais ar eich rhan.

Cadw’r hawl i wneud cais yn nes ymlaen

Os enwir mwy nag un ysgutor yn yr ewyllys, gallwch ddewis peidio â gwneud cais nawr ond dal gafael ar yr hawl i wneud cais yn nes ymlaen. Gelwir hyn yn ‘cadw’r hawl’.

Dywedwch wrth yr unigolyn sy’n gwneud y cais am brofiant eich bod yn cadw’r hawl. Bydd angen ichi wneud hynny’n ysgrifenedig.

Rhoi’r gorau i’ch hawl i wneud cais

Llenwch ffurflen PA15 i roi’r gorau i’ch hawl i wneud cais yn barhaol. Gelwir hyn yn ‘ymwrthod’.

Penodi rhywun i wneud cais ar eich rhan

Gallwch benodi rhywun i wneud cais ar eich rhan:

  • os mai chi yw’r unig ysgutor a enwir yn yr ewyllys
  • os oes ysgutorion eraill wedi’u henwi yn yr ewyllys, ond mae pob un ohonynt naill ai’n ‘cadw’r hawl’ neu wedi rhoi’r gorau i’w hawl i wneud cais yn barhaol

Llenwch ffurflen PA11 i benodi rhywun i wneud cais ar eich rhan.

Fel arall, gallwch benodi atwrnai i wneud cais ar eich rhan gan ddefnyddio atwrneiaeth barhaus wedi’i llofnodi (EPA) neu atwrneiaeth arhosol gofrestredig (LPA).

Os nad yw ysgutor yn gallu gwneud cais

Gwiriwch pwy all wneud cais am brofiant os oes ysgutor wedi marw neu os nad yw’n gallu gwneud cais am fod ganddo gyflwr neu nam iechyd meddwl.

Os na all yr ysgutor wneud cais oherwydd bod ganddynt gyflwr neu nam iechyd meddwl, bydd angen i chi gael gweithiwr meddygol proffesiynol, fel meddyg, i lenwi ffurflen PA14 cyn i unrhyw un wneud cais.

Darllenwch yr ewyllys i wirio:

  • a yw’r ysgutor wedi enwi rhywun arall
  • a yw’r amodau wedi’u bodloni er mwyn iddynt allu enwi rhywun arall

Yna gall y sawl dan sylw wneud cais ynghyd ag unrhyw ysgutorion eraill.

Os nad oes rhywun arall dan sylw ond bod ysgutorion eraill a all wneud cais, gall yr ysgutorion eraill wneud cais ar unwaith.

Os nad oes unrhyw ysgutorion eraill ac nad oes unrhyw un arall dan sylw

Bydd angen i unigolyn arall ‘sydd â hawl’ wneud cais. Os bu farw’r ysgutor, gall unrhyw fuddiolwr o’r ewyllys wneud cais.

Os oes gan yr ysgutor gyflwr neu nam iechyd meddwl, gall un o’r canlynol wneud cais:

  • dirprwy a benodwyd gan y llys ar gyfer yr ysgutor
  • rhywun sydd ag atwrneiaeth dros yr ysgutor, os nad oes dirprwy
  • buddiolwr yr ewyllys, os nad oes dirprwy neu unrhyw un sydd ag atwrneiaeth

Dylech gael cyngor cyfreithiol os nad ydych yn siŵr pwy all wneud cais.