Herio’ch band Treth Gyngor

Sgipio cynnwys

Tystiolaeth sydd yn ategu eich her

Gofynnir i chi am dystiolaeth bod eich band Treth Gyngor yn anghywir pan fyddwch yn herio band Treth Gyngor yng Nghymru neu Loegr. Bydd angen i chi roi eich tystiolaeth pan fyddwch yn gwneud cais.

Os bu newid sy’n effeithio ar yr eiddo

Os ydych chi’n cynnig band newydd, mae’n rhaid i chi ddarparu un o’r darnau canlynol o dystiolaeth:

  • disgrifiad o unrhyw newidiadau i’ch eiddo - os yw wedi cael ei ddymchwel, ei rannu’n eiddo lluosog neu uno i fod yn un
  • manylion newid defnydd eich eiddo - os yw rhan o’ch eiddo bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes
  • disgrifiad o sut mae eich ardal leol wedi newid yn ffisegol - er enghraifft, os oes archfarchnad newydd wedi’i hadeiladu
  • manylion unrhyw waith ffisegol sydd wedi’i wneud i’ch eiddo

Os ydych o’r farn bod eich band yn anghywir

Bydd angen i chi ddarparu cyfeiriadau ar gyfer hyd at 5 eiddo tebyg mewn band is na’ch un chi.

Dylai’r eiddo fod yr un fath â’ch eiddo o ran y canlynol:

  • math - er enghraifft, os ydych chi’n byw mewn tŷ pâr dylai’r eiddo fod yn dai pâr
  • maint - er enghraifft, nifer yr ystafelloedd gwely a chyfanswm arwynebedd
  • oedran
  • steil a dyluniad

Dylai’r eiddo hefyd fod naill ai:

  • yn yr un stryd neu ystâd – os ydych yn byw mewn tref neu ddinas
  • yn yr un pentref – os ydych yn byw yn y cefn gwlad

Tystiolaeth o brisiau tai

Gallwch hefyd ddefnyddio’r pris y cafodd eich eiddo neu eiddo tebyg ei werthu amdano fel tystiolaeth, os oedd y gwerthiannau rhwng y dyddiadau canlynol:

  • 1 Ebrill 1989 a 31 Mawrth 1993 – os yw’ch eiddo yn Lloegr
  • 1 Ebrill 2001 a 31 Mawrth 2005 – os yw’ch eiddo yng Nghymru

Gallwch chwilio am brisiau gwerthu eiddo ar-lein o 1995 ymlaen.

Cymharwch y prisiau gwerthu i’r prisiau y mae’r eiddo yn cael eu prisio ar gyfer Treth Gyngor.

Band Treth Gyngor Eiddo yn Lloegr - gwerth ym mis Ebrill 1991 Eiddo yng Nghymru - gwerth ym mis Ebrill 2003
A Hyd at £40,000 Hyd at £44,000
B Mwy na £40,000 a hyd at £52,000 Mwy na £44,000 a hyd at £65,000
C Mwy na £52,000 a hyd at £68,000 Mwy na £65,000 a hyd at £91,000
D Mwy na £68,000 a hyd at £88,000 Mwy na £91,000 a hyd at £123,000
E Mwy na £88,000 a hyd at £120,000 Mwy na £123,000 a hyd at £162,000
F Mwy na £120,000 a hyd at £160,000 Mwy na £162,000 a hyd at £223,000
G Mwy na £160,000 a hyd at £320,000 Mwy na £223,000 a hyd at £324,000
H Mwy na £320,000 Mwy na £324,000 a hyd at £424,000
I - Mwy na £424,000

Os yw’r prisiau gwerthu y tu allan i’r band Treth Gyngor, gallwch ddefnyddio hyn fel tystiolaeth. Bydd angen i chi roi’r canlynol:

  • cyfeiriadau’r eiddo
  • y prisiau gwerthu
  • y dyddiadau y gwerthwyd yr eiddo - po agosaf yw hyn at y dyddiad prisio, po fwyaf tebygol y bydd y VOA yn gallu defnyddio’r dystiolaeth hon

Ni fydd y VOA yn ystyried gwybodaeth gyfartalog am brisiau tai o wefannau fel Mynegai Prisiau Tai Nationwide, Nethouseprices, Rightmove neu Zoopla fel tystiolaeth gref.