Rhoi eich eiddo ar osod
Newid tenantiaeth rheoleiddiedig (rhent teg)
Mae rheolau arbennig ar gyfer newid rhent a thermau ar gyfer tenantiaethau rheoleiddiedig (a elwir weithiau’n ‘rhent teg’) a ddechreuodd, fel arfer, cyn 15 Ionawr 1989.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer cynyddu rhent mewn tenantiaethau rheoleiddiedig yn yr Alban a thenantiaethau a reolir gan rent yng Ngogledd Iwerddon.
Pryd y gallwch gynyddu rhent
Gallwch gynyddu’r rhent hyd at yr uchafswm a bennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn unig – gwiriwch y gofrestr rhent teg (yn agor tudalen Saesneg) i weld beth yw’r swm hwn.
Gallwch ofyn i’r VOA adolygu’r rhent bob 2 flynedd, neu’n gynharach os oes rhywbeth wedi effeithio ar y gwerth, fel ei fod yn parhau’n deg. Mae’n bosibl y bydd eich rhent yn cynyddu neu’n gostwng.
Gallwch lawrlwytho a llenwi ffurflen rhent teg (yn agor tudalen Saesneg) i gael eich rhent wedi’i adolygu. Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i Swyddfa Cymorth Rhwydwaith y VOA drwy’r post.
Swyddfa Cymorth Rhwydwaith y VOA / VOA Network Support Office
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW
Ffôn: 03000 505 505
E-bostiwch Swyddfa Cymorth Rhwydwaith y VOA os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cynyddu eich rhent.
VOA Network Support Office
[email protected]
Os yw’r rhent teg yn cynyddu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad o gynnydd mewn rhent i’ch tenant. Gallwch godi’r rhent newydd o’r dyddiad y mae wedi’i gofrestru.
Llenwch ffurflen ‘hysbysiad o gynnydd’ (sydd ar gael o safwerthydd cyfreithiol) a’i hanfon at eich tenant.
Gallwch ôl-ddyddio eich hysbysiad o gynnydd mewn rhent am hyd at 4 wythnos.
Canslo rhent sydd wedi’i gofrestru
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen rhent deg (yn agor tudalen Saesneg) i ganslo rhent sydd wedi’i gofrestru, a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen. Er enghraifft, os bydd y denantiaeth yn stopio cael ei rheoleiddio, neu os ydych chi a’r tenant yn cytuno i’w chanslo.
Gall gymryd hyd at 6 wythnos i ganslo rhent sydd wedi’i gofrestru.