Ymateb i wŷs rheithgor
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ymateb i lythyr (‘gwŷs’) yn gofyn ichi wasanaethu ar reithgor. Gallwch:
- gadarnhau eich bod yn gallu mynd
- gofyn am gael newid y dyddiad
- gofyn am gael eich esgusodi
- gofyn am addasiadau rhesymol neu fath arall o help yn y llys
Gallwch ymateb ar ran unigolyn arall os ydynt yn rhoi caniatâd ichi wneud hynny.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’n rhaid ichi ymateb o fewn 7 diwrnod o’r dyddiad cawsoch y llythyr.
Byddwch angen:
- eich rhif rheithiwr – mae hwn wedi’i nodi ar eich llythyr gwysio
- eich enw a’ch cyfeiriad yn union fel y maent wedi’u nodi ar y llythyr – gallwch gywiro unrhyw gamgymeriadau pan fyddwch yn ymateb
Byddwch yn gallu lawrlwytho a chadw eich atebion ar y diwedd.
Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn ymateb i wŷs rheithgor neu’n dweud celwydd er mwyn osgoi gwasanaethu ar reithgor.
Cyn i chi ddechrau
Cymorth gyda defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Cysylltwch â’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio cyfrifiadur.
Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
[email protected]
Rhif ffôn: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau
Ymateb trwy’r post
Llenwch eich ffurflen ymateb i wŷs rheithgor a’i dychwelyd o fewn 7 diwrnod. Mae’r wŷs rheithgor yn cynnwys amlen barod â stamp.
Os ydych wedi colli’r amlen, yna anfonwch y ffurflen i’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.
Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
Phoenix House
Rushton Avenue
Bradford
BD3 7BH